Cyrsiau DPP

Byw'n Dda gyda Chyflyrau Iechyd Hirdymor

Nod y modiwl hwn yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Gyflyrau Iechyd Hirdymor.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
An older couple stretching before an exercise session in a local park

Nod y modiwl hwn yw cyfoethogi gwybodaeth a dealltwriaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o gyflyrau iechyd hirdymor a'u rheolaeth er mwyn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i fyw gyda'r cyflyrau a gwella eu hiechyd a'u lles. 

Fel modiwl ar ei ben ei hun, gellir ei ddefnyddio i lywio ymarfer o ran rheoli cleifion â chyflyrau hirdymor a defnyddio dulliau ymgrymuso i ddylanwadu ar ymddygiadau er mwyn gwella deilliannau iechyd cleifion. 

Mae myfyrwyr yn y gorffennol hefyd wedi astudio'r cwrs hwn fel modiwl sydd wedi'u cyflwyno'n ôl i addysg uwch. 

Gellir astudio'r modiwl hwn fel modiwl ar ei ben ei hun fel rhan o'r cynllun Myfyrwyr Cyswllt neu fel modiwl dewisol ar yr: 

  • MSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Nyrsio Ardal)
  • MSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Nyrsio Practis Cyffredinol) 
  • MSc Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Nyrsio Cymunedol Plant) 
Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
CA3S064 (Level 6) Glyn-taf 14 wythnos (7 diwrnod a addysgir) Chwefror
CA4S066 (Level 7) Glyn-taf 14 wythnos (7 diwrnod a addysgir) Chwefror

  • Strategaethau i reoli cyflyrau iechyd hirdymor e.e . rhaglenni cleifion arbenigol, gofal integredig. 
  • Ffactorau bio-seicogymdeithasol ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar y cyflyrau ac sy'n effeithio ar iechyd a lles. 
  • Theorïau perthnasol gan gynnwys rheoli sefydliadol, systemau cyfan, rheoli newid, partneriaeth a chydweithio. 
  • Moeseg mewn gofal, gwerthuso ansawdd a mesur deilliannau. 
  • Tystiolaeth a pholisi cenedlaethol a rhyngwladol sy'n dylanwadu ar ymarfer. 
  • Y sylfaen dystiolaeth ar gyfer gofal a gwella iechyd a lles drwy gydol oes. 

Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gallant ddod ar draws materion moesegol mewn dysgu ac addysgu wrth ymgymryd â'r modiwl hwn a dylent gyfeirio at naill ai'r Arweinydd Dyfarnu/y Modiwl am ragor o wybodaeth. 

  • Darlithoedd a seminarau 
  • Rydym yn gwahodd ymarferwyr arbenigol a darlithwyr y Brifysgol i gyflwyno sesiynau.
  • Sesiynau dosbarth wyneb yn wyneb neu'n rhithwir drwy ein system blackboard ar-lein. Bydd cyfuniad o sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio. 
  • Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth a rhannu eich profiadau.

Mae'r modiwl hwn yn gofyn i chi astudio am 36 awr yn y Brifysgol yn ystod darlithoedd neu seminarau a threulio hyd at 64 awr yn gwneud gwaith astudio hunangyfeiriedig. Bydd hefyd angen i chi allu dangos tystiolaeth o 100 o oriau o ymarfer clinigol 

Rhaid i chi fod yn weithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cyflogi mewn maes lle gallwch fodloni'r elfen ymarfer clinigol o 100 awr. 

Asesu Ffurfiannol: byddwch yn cwblhau astudiaeth achos y byddwch yn seilio'ch aseiniad arni erbyn wythnos 4 y modiwl. 

Asesu Crynodol: byddwch yn cwblhau aseiniad 3000 gair sy'n nodi unigolyn sydd ag o leiaf un Cyflwr Iechyd Hirdymor ac yna'n dadansoddi ac yn gwerthuso'n feirniadol sut mae'r gweithiwr proffesiynol yn gweithio gyda'r defnyddiwr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol eraill i'w alluogi i wella eu hiechyd a'u lles. 

Asesu Ymarfer: byddwch yn cwblhau 1 deilliant dysgu clinigol wedi'i ddilysu gan asesydd/goruchwyliwr ymarfer, wedi'i ddogfennu yn y Cofnod Cyflawni Deilliannau Clinigol bydd hyn yn seiliedig ar sesiwn addysgu ar gyfer cleifion neu aelodau'r tîm. 

Bydd goruchwyliwr academaidd yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cynorthwyo gyda'ch gwaith academaidd.

  • Cyfleusterau ac Adnoddau
  • Gwasanaethau llyfrgell 
  • Gwasanaethau TG 
  • Goruchwyliaeth academaidd 
  • Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio os oes angen 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Angela Hiscocks.

E-bost cyswllt: [email protected]