Cyrsiau DPP

Hwyluso Asesu a Goruchwylio Addysgu yng Nghyd-Destun Ymarfer

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i adeiladu ar a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i gefnogi dysgu, addysgu a mentora myfyrwyr ac ymarferwyr eraill yng nghyd-destun ymarfer.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
An academic is supervising a nursing student listening to the heart of a dummy patient.

Nod y modiwl tri mis o hyd (40 credyd) hwn yw eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch galluoedd i hwyluso a chefnogi dysgu'n effeithiol a chynnal asesiadau  myfyrwyr ac eraill yng nghyd-destun eich maes ymarfer. 

Mae'r modiwl hwn ar gyfer nyrsys cofrestredig, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig eraill sy'n cefnogi eraill i ddysgu wrth ymarfer. Gellir defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a geir o astudio'r modiwl hwn i gefnogi dysgu ac asesu myfyrwyr, staff iau, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn eich lleoliad ymarfer. 

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, bydd gennych 40 credyd ar Lefel 7 y gellir eu defnyddio tuag at raglen MSc mewn Ymarfer Proffesiynol neu gallwch barhau i ymgymryd â'r Dystysgrif Addysg Ôl-radd lawn ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol. Bydd cwblhau'n llwyddiannus hefyd yn eich galluogi i gyflawni rôl Asesydd Ymarfer, yn unol â gofynion y CNB. 

Rhaid i chi fod yn nyrs, bydwraig neu weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd cofrestredig i wneud cais ar gyfer y cwrs. 

Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
CA4D008 Glyn-taf ac ar-lein gan ddefnyddio dull cyfunol Tri mis (10 diwrnod astudio gosodedig) Ebrill

Yn ystod y modiwl, byddwch yn astudio agweddau ar theorïau dysgu a’r sylfaen dystiolaeth gysylltiedig, a'u defnydd wrth ddysgu, addysgu ac asesu. Byddwch hefyd yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal amgylchedd dysgu effeithiol o ran ystyriaethau ffisegol, seicolegol a chymdeithasol mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd y modiwl hefyd yn archwilio'r prosesau, y sgiliau a'r atebolrwydd sydd eu hangen i asesu dysgu a gallu, a'r prosesau sicrhau ansawdd sy'n sail i ddarparu dysgu, addysgu ac asesu mewn addysg ac ymarfer. Bydd y modiwl yn annog adfyfyrio i gyfoethogi dysgu, twf a gallu ynoch chi ac eraill. 

  • Creu amgylchedd sy'n hwyluso dysgu mewn lleoliadau academaidd ac ymarfer. 
  • Ystyriaethau pwy/beth/pam/sut mewn addysgu – cymhwyso ymarferol 
  • Hwyluso dysgu mewn lleoliad ffurfiol / dysgu wedi'i gynllunio - Cynllunio eich sesiwn. 
  • Sut mae myfyrwyr yn dysgu – theori dysgu a thystiolaeth sy'n cefnogi addysgeg  - dysgu ar yr wyneb v dysgu dwfn - Dysgu ymdrochol ac aliniad adeiladol. 
  • Trosolwg o'r ystod o strategaethau addysgeg i hwyluso dysgu - Hwyluso datblygiad sgiliau ymarferol/clinigol mewn dysgwyr. 
  • Hwyluso datblygiad sgiliau ymarferol/clinigol mewn dysgwyr. 
  • Rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yr asesydd academaidd ac ymarfer. 
  • Methu â Methu – Pryd, beth a sut wrth ddirprwyo. 
  • Adfyfyrio beirniadol - ysgrifennu adfyfyriol. 
  • Hyrwyddo cynhwysiant mewn dysgu, addysgu ac asesu - sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth. 
  • Asesu myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol /anableddau /gwneud addasiadau rhesymol 
  • Arloesi mewn addysgu 
  • Dysgu Rhyngbroffesiynol 
  • Asesu wrth Ymarfer  - Gwneud a chofnodi asesiadau gwrthrychol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 
  • Ffyrdd o gasglu data asesu a rhoi adborth 
  • Dysgu wrth ymarfer wedi'i gyfoethogi gan dechnoleg a'r lleoliad addysgol. 
  • Hunanasesu ac Asesu Cymheiriaid mewn addysg ac ymarfer. 

Mewn tirwedd newidiol sy’n rhoi ystyriaeth briodol i ofynion cadw pellter cymdeithasol a mynediad i'r campws, bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy ddull dysgu cyfunol, gan gynnwys: 

  •  Sesiynau byw ar-lein – gweithgareddau cydamserol. 
  • Gweithgareddau anghydamserol dan arweiniad, y gallwch, er eu bod wedi'u trefnu ar gyfer dydd Gwener, eu hastudio unrhyw bryd yn ystod yr wythnos. 
  • Grŵp Cymunedau Ymarfer lle gallwch ddysgu gyda'ch cyfoedion a ganddynt, a rhannu syniadau, adfyfyrdodau ac adnoddau. 
  • Trafodaethau rheolaidd gyda'ch Tiwtor Personol – adfyfyrio ar eich datblygiad. 
  • Tiwtorialau grŵp gyda'ch cyfoedion mewn Cyfarfodydd Grŵp Tiwtorial Personol. 

Mae deg diwrnod astudio wedi'u trefnu ar ddyddiau Gwener rhwng 10am a 3pm. Fodd bynnag, mae yna hefyd nifer o weithgareddau i'w cyflawni cyn rhai o'r sesiynau byw a bydd angen amser arnoch i baratoi eich dwy sesiwn addysgu grynodol. Mae hwn yn fodiwl 40 credyd, felly mae angen i chi fod yn barod i neilltuo tua 400 awr i'r modiwl hwn. 

Darlithwyr

  • Jill Barnes, arweinydd y cwrs 
  • Dr Mark Davies 
  • Stacey Jenkins 
  • Donna Price 
  • Natalie Davies–Dixon

Bydd y modiwl yn rhoi adborth ffurfiannol drwyddi draw yn enwedig mewn perthynas â'ch cynlluniau gwersi arfaethedig a chyflwyniadau PowerPoint ac ati – ond mae elfennau crynodol y modiwl yn cynnwys: 

  • Dwy sesiwn lle cewch eich arsylwi yn hwyluso dysgu – a'ch cynllun gwers ac  adnoddau. 
  • Adfyfyrdod beirniadol ar sut rydych wedi datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch gallu fel hwylusydd dysgu. 
  • Portffolio o'ch taith yn ystod y modiwl. 

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i chi i gynnig cymorth ac arweiniad gyda phob agwedd ar y modiwl. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd yn cynnig goruchwyliaeth academaidd i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich asesiadau ac i arsylwi ar eich sesiynau addysgu. 

Bydd gennych fynediad at: 

  • Gyfleusterau Efelychiadol Clinigol o'r radd flaenaf 
  • Cyfleuster Hydra Minerva. 
  • Mynediad arferol at lyfrgell a chronfa ddata cyfnodolion PDC – gwasanaeth ar-lein yn ogystal â chlicio a chasglu llyfrau. 
  • Holl adnoddau cymorth myfyrwyr PDC gan gynnwys nifer o becynnau TG am ddim i fyfyrwyr. 
  • Tiwtor Personol a Thîm y Modiwl 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Jill Barnes.

E-bost cyswllt: [email protected]