MSc

Ymarfer Proffesiynol

Archwiliwch eich maes ymarfer proffesiynol a chydnabod eich lefel uwch o sgil a gwybodaeth yn eich proffesiwn.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs MSc Ymarfer Proffesiynol yn canolbwyntio ar y datblygiad proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer a rolau arwain lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i ennill swyddi o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn fyd-eang.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol a dibrofiad yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r MSc Ymarfer Proffesiynol yn hwyluso'r defnydd o'r ymchwil ddiweddaraf, a'i nod yw trawsnewid eich ymarfer, a gwella ansawdd gofal.

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrs (pob maes)
  • Ymwelydd Iechyd
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Bydwraig
  • Ymarferwyr gofal iechyd
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Arweinyddiaeth
  • Ymchwil

Trosolwg o'r Modiwl

Mae'r MSc Ymarfer Proffesiynol yn cynnig dewis eang o fodiwlau i ddiwallu anghenion llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol cymwys, gan gynnwys nyrsys ym mhob maes, ymwelwyr iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol a bydwragedd.

Mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Rhaglen, byddwch yn dyfeisio rhaglen unigol (180 credyd) sy'n diwallu eich anghenion eich hun. Cewch yr hyblygrwydd hefyd i astudio wrth eich pwysau, gan ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gwaith, addysg a bywyd bob dydd. Gall eich rhaglen unigol bara rhwng blwyddyn a pum blynedd yn dibynnu ar eich ymrwymiadau eraill.

Modiwlau

  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd hir (cwblheir yn ystod blwyddyn 1 ar gyfer myfyrwyr amser llawn)
  • Prosiect Ymarfer Proffesiynol

 

Modiwlau Sampl Dewisol

  • Arwain Timau Effeithiol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Materion Cyfreithiol, Moesegol a Phroffesiynol mewn Diogelu
  • Cyflyrau Clinigol Un
  • Cyflyrau Clinigol Dau
  • Gofal Diwedd Oes
  • Asesiad Clinigol a Diagnosteg
  • Natur a Chwmpas Gofal Lliniarol

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae dulliau addysgu ac asesu’n amrywio yn dibynnu ar y dewis o fodiwlau/llwybr. Mae'r dulliau addysgu’n cynnwys darlithoedd arweiniol, trafodaethau dan arweiniad myfyrwyr, astudiaethau achos, dadl, adroddiadau myfyriol o ymarfer, gweithdai, gwaith grŵp a thiwtorialau.

Mae dulliau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig yn seiliedig yn bennaf ar faterion o ymarfer, cyflwyniadau, chwarae rôl ar sail senario ac adolygiadau llenyddiaeth beirniadol.

Staff addysgu

Meirion Williams, Arweinydd y Cwrs

Martin Evans, Dirprwy Arweinydd y Cwrs

Cyfleusterau

Mae amgylchedd dysgu ar-lein y Brifysgol, Unilearn, yn darparu gwybodaeth am eich cwrs, gan gynnwys deunyddiau ategol ac adnoddau ar gyfer pob un o'ch modiwlau.

Mae yna Lyfrgellydd ymroddedig ar gyfer yr Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, a all helpu myfyrwyr gyda llawer o ymholiadau gwahanol, gan gynnwys cyfnodolion a llyfrau perthnasol, neu gynorthwyo gyda chwiliadau llenyddiaeth hyd yn oed. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi ac yn croesawu gweithwyr gofal iechyd rhyngwladol sydd wedi ennill gradd Meistr yn y DU. Yn y gyfadran, mae ein hymgysylltiad a'n partneriaeth â sefydliadau niferus wedi arwain at lefelau uchel o gyflogaeth ôl-astudio yn y GIG ac yn y sector annibynnol.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae’r gwaith o gynllunio'r MSc Ymarfer Proffesiynol hwn wedi ystyried datblygiad rolau newydd ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ymchwil a datblygu ddiweddaraf ar gyfer eu rôl broffesiynol. O ganlyniad, bydd y dyfarniad hwn yn bodloni gofynion yr amgylcheddau heriol a dynamig y mae ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ynddynt heddiw.

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Fel arfer, mae rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd Anrhydedd a bod yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol cymwys, gan gynnwys y rhai heb statws cofrestru sy'n gweithio ar lefel uwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Ar gyfer myfyrwyr cartref heb radd Anrhydedd, mae'n bosibl y caniateir i chi ymgymryd â'r dyfarniad hwn ar ôl trafodaeth ag arweinydd y cwrs.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y Modiwl Rhagnodi Annibynnol. Dylai pob myfyriwr gael hyn drwy eu Rolau Bwrdd Iechyd.

Cost: £64.74 y flwyddyn

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.