Cyrsiau DPP

Presgripsiynu Annibynnol

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i alluogi nyrsys, bydwragedd, fferyllwyr, parafeddygon a ffisiotherapyddion sydd â phrofiad addas i ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Closeup pharmacist hand holding medicine box in a pharmacy.

Bydd hyn yn caniatáu iddynt bresgripsiynu meddyginiaethau o fewn eu cwmpas ymarfer a chymhwysedd. Cynlluniwyd y cwrs hwn i hwyluso ymarferwyr i gyflawni cymhwysedd presgripsiynu fel y nodir gan ddogfen y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (CFfF) "Fframwaith cymhwysedd ar gyfer pob presgripsiynydd", ac yn unol â'r Safonau ar gyfer presgripsiynu a nodir gan y rheolyddion perthnasol. Mae'r cwrs hwn yn cyfuno'r modiwl presgripsiynu annibynnol presennol gyda modiwl Datblygu a Dangos Tystiolaeth o Gymhwysedd Presgripsiynu, ac yn caniatáu i'r ymarferydd ddatblygu a dangos tystiolaeth lawn o'u hymarfer presgripsiynu a chael dyfarniad llawn. 

Bydd y modiwl presgripsiynu annibynnol yn ddewis da i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â phrofiad addas ac sy'n dymuno dod yn bresgripsiynwyr annibynnol. Byddai cwblhau'r modiwl hwn yn caniatáu i ymarferwyr bresgripsiynu o fewn y maes ymarfer perthnasol. 

Mae'r cwrs byr hwn wedi'i achredu gan CNB, a HCPC.

Teitl Cwrs Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer Pobl Gofrestredig yr NMC CA4D013 Glyn-taf 9 mis Medi
Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer Cofrestryddion HCPC CA4D012 Glyn-taf 9 mis Medi

 

Mae'r cwrs hwn yn darparu Tystysgrif Ôl-radd mewn Ymarfer Presgripsiynu Annibynnol. 

  • Er mwyn i nyrs / bydwraig / Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (NICCA) ennill anodiad presgripsiynu, byddai angen iddynt gwblhau’r modiwl Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer aelodau cofrestredig y CNB. 
  • Mae'r modiwl hwn yn addasiad o fodiwl presgripsiynu blaenorol PDC. Mae'r addasiadau wedi'u gwneud i fodloni safonau presgripsiynu presennol y CNB (CNB 2018). 
  • Er mwyn i fferyllydd neu aelod HCPC cofrestredig addas ennill anodiad presgripsiynu, byddent yn cwblhau’r modiwl Presgripsiynu Annibynnol ar gyfer aelodau cofrestredig y HCPC. 
  • Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu dealltwriaeth a'u gallu ymhellach er mwyn gallu presgripsiynu'n effeithiol ac yn ddiogel yn eu maes ymarfer. 

Addysgu cyfunol: Cyfuno diwrnodau astudio wyneb yn wyneb a dysgu o bell. 

Mae astudio wyneb yn wyneb yn gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau asesu yn y cnawd. Mae’n defnyddio amrywiaeth o arbenigwyr o’r brifysgol ac o’n hymddiriedolaethau partner. 

Bydd theori yn cael ei ddysgu drwy brosesau dysgu cyfunol wedi'u hwyluso, yn cynnwys dysgu o bell, darlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, gweithgareddau dysgu dan arweiniad y cyfranogwyr a thrwy ddefnyddio amgylcheddau dysgu efelychiadol.   

Bydd ymarfer dysgu seiliedig ar waith yn canolbwyntio ar gefnogi datblygu galluoedd presgripsiynu yng nghyd-destun ymarfer y cyfranogwyr.  

Bydd cyfranogwyr yn cael cymorth gan diwtoriaid seiliedig ar ymarfer (Ymarferwyr Presgripsiynu Dynodedig (HCPC)) a goruchwyliwr ymarfer ac aseswyr ymarfer ac academaidd (CNB). Bydd y tiwtoriaid seiliedig ar ymarfer yn cynnig cymorth addysgol ac yn chwarae rhan allweddol wrth asesu ac ardystio galluoedd.  

Bydd diwrnod astudio yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr, naill ai ar ddydd Iau neu ddydd Gwener. Bydd y 15 diwrnod wyneb yn wyneb wedi’u gwasgaru ar hyd y flwyddyn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd gwblhau'r 130 awr o astudio dan gyfarwyddyd a 235 awr o astudio annibynnol. 

Yn ogystal, bydd 100 awr o ddysgu dan oruchwyliaeth yn cael ei wneud yn ymarferol. Bydd y cymorth a roddir gan amgylchedd clinigol y myfyrwyr i ddatblygu arferion presgripsiynu yn allweddol. 

Darlithwyr

  • Ben Pitcher
  • Julia Elayanithottathil
  • Sara Morgan
  • Chris Nash
  • Dawn Parry
  • Meirion Williams

Rhaid i bob ymgeisydd Nyrsio a Bydwreigiaeth fodloni'r meini prawf canlynol: 

  • Cofrestriad dilys ar Ran 1 o'r gofrestr Broffesiynol a gynhelir gan y CNB.
  • Meddu ar o leiaf flwyddyn o brofiad nyrsio clinigol ôl gofrestru. 
  • Meddu ar brofiad priodol yn y maes ymarfer y byddant yn presgripsiynu ynddo; bydd y sefydliad sy'n cyflogi yn asesu ac yn cadarnhau'r profiad priodol mewn meysydd ymarfer. 
  • Y gallu i astudio ar lefel academaidd 6. Rhaid i ymgeiswyr heb radd gyntaf ddarparu tystiolaeth o allu gweithio ar lefel 6 (e.e. meddu ar ddiploma/gradd berthnasol), a gellir gofyn iddynt gyflwyno tystiolaeth o brofiad a/neu astudio perthnasol. 
  • Cefnogaeth y sefydliad sy'n cyflogi y mae’n gyfrifoldeb arnynt ddarparu goruchwylwyr ymarfer ac aseswyr ymarfer ar gyfer yr ymgeisydd.

Rhaid i bob ymgeisydd GPhC gyflawni'r meini prawf canlynol:

  • Mae ymgeiswyr wedi’i chofrestru fel fferyllydd gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), neu, yng Ngogledd Iwerddon, gyda Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI).
  • Mae ymgeiswyr mewn sefyllfa dda gyda’r GPhC ac/neu PSNI, ac unrhyw rheoleiddion ofal iechyd arall y mae ganddynt gofrestriad gyda nhw.
  • Rhaid i ymgeiswyr gael profiad perthnasol mewn gosodiad fferyllfa yn y DU a gallu adnabod, deall ac egluro’r sgiliau a nodweddion sydd eu hangen gan rhagnodwr. Bydd y profiad hwn a’r ymwybyddiaeth yn gweithredu fel sylfaen ei ymarfer presgripsiwn wrth hyfforddi.
  • Er mwyn datblygu eu harfer presgripsiwn annibynnol, rhaid i ymgeiswyr nodi ardal o arfer clinigol neu therapiwtig i seilio eu dysgu arni.
  • Cael cefnogaeth gan y sefydliad noddi (fel Ymddiriedolaeth GIG neu sefydliad gofal sylfaenol), gan gynnwys ymarfer dan oruchwyliaeth priodol yn yr ardal glinigol y maent yn disgwyl ysgrifennu presgripsiwn ynddi, ac angen gwasanaeth a adnabyddir ar gyfer y rôl estynedig hon.
  • Rhaid i ymgeiswyr cael ymarferydd presgripsiynau dynodedig sydd wedi cytuno i oruchwylio eu dysgu mewn ymarfer. Rhaid i ymarferydd presgripsiynau dynodedig yr ymgeisydd fod yn weithredwr gofal iechyd cofrestredig yn y Deyrnas Unedig neu yng Ngogledd Iwerddon gyda hawliau presgripsiwn annibynnol cyfreithiol, sydd gyda phrofiad addas ac sydd â chymhwyster priodol i gyflawni'r rôl oruchwylio hon, ac sydd wedi dangos CPD neu ail ddilysu sy'n ymwneud â'r rôl hon. Er y gall ymgeisydd gael ei oruchwylio gan fwy nag un person, dim ond un ymarferydd yn unig sydd yn gyfrifol fel ymarferydd presgripsiynau dynodedig . Yr ymarferydd presgripsiynau dynodedig yw’r person fydd yn ardystio bod fferyllwyr llwyddiannus yn gymwys i ymarfer fel presgripsiynydd annibynnol.

Rhaid i bob cofrestrydd HCPC fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Wedi’u cofrestru ar hyn o bryd fel ffisiotherapydd neu parafrddyg gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Bod ag o leiaf ddwy flwyddyn o brofiad ar ôl cofrestru.
  • Rhaid i weithwyr proffesiynol iechyd cydnabyddedig weithio fel “ymarferydd uwch neu lefel gyfatebol” i gael mynediad at raglenni presgripsiynau.
  • Cael cefnogaeth gan y sefydliad noddi (megis Ymddiriedolaeth GIG neu sefydliad gofal sylfaenol), gan gynnwys ymarfer goruchwylio priodol yn y maes clinigol y maent yn disgwyl presgripsiynau ynddo, ac angen gwasanaeth a adnabyddir ar gyfer y rôl estynedig hon.
  • Cael Ymarferydd Presgripsiynau Dynodedig (DPP) a enwir, ac a gydnabyddir gan y sefydliad comisiynu cyflogi/Gwasanaeth Iechyd fel rhywun sydd â phrofiad mewn maes priodol o ymarfer, hyfforddiant a phrofiad mewn goruchwylio, cefnogaeth ac asesu hyfforddeion, sydd wedi cytuno i roi cyfleoedd i'r myfyriwr ddatblygu cymwyseddau mewn presgripsiwn, goruchwylio, cefnogi ac asesu'r myfyriwr yn ystod eu lleoliad clinigol.

Cyfweliadau

Wedi i’r ffurflen cymhwysedd gael ei gwirio a'i dilysu, a bod yr ymgeisydd wedi'i nodi fel un sy'n gymwys i astudio, bydd yn cael cynnig cyfweliad dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Defnyddir hwn i drafod y wybodaeth a gyflwynwyd ar y ffurflen ac i gadarnhau priodoldeb bwriad yr ymgeisydd wrth bresgripsiynu. Cynhelir cyfweliadau rhwng mis Ebrill a mis Medi.  

1. Deg cyfrif adfyfyriol beirniadol (pwysoliad 40%). Rhaid pasio pob cyfrif ar 40%. 

2. Arholiad Ysgrifenedig – arholiad cyfrifiadau a MCQ/SAQ (pwysoliad 10%) 

  • Rhan cyfrifiadau (Marc pasio 100%). 
  • Rhan ffarmacolegol ac ymarfer presgripsiynu (Marc pasio 80%). 

3. Cofnod o ddysgu seiliedig ar waith (pwysoliad 40%): 

  • Dau asesiad wrth ymarfer 
  • Cofnod o 100 o oriau o ymarfer dan oruchwyliaeth 
  • Tystiolaeth o ddatblygu cymhwysedd presgripsiynu 
  • Cynllun Rheoli Clinigol presgripsiynu atodol. 
  • Tystiolaeth o gymhwysedd yn y ddogfen asesu ffisegol. 

Bydd cyfranogwyr yn cael eu hymsefydlu ar ddechrau'r cwrs. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyniad i'r gwasanaethau a gynigir gan y ganolfan adnoddau dysgu, sgiliau astudio, staff y parth cynghori a’r gwasanaethau myfyrwyr. 

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i gyfranogwyr i gynnig cymorth ac arweiniad gyda phob agwedd ar y cwrs. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael asesydd academaidd dynodedig i fydd yn gyfrifol am roi cymorth gyda’r dysgu wrth ymarfer. 

Bydd gan gyfranogwyr unigolyn/unigolion enwebedig o'u lleoliad ymarfer i gefnogi a hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau mewn perthynas â phresgripsiynu. Bydd y goruchwylwyr / aseswyr ymarfer  yn cael eu cefnogi yn eu rôl gan dîm y cwrs. 

Bydd gan nyrsys cofrestredig CNB, bydwragedd a NICCAau sy'n ymgymryd â'r cwrs Oruchwyliwr/Goruchwylwyr Ymarfer enwebedig, Asesydd Ymarfer ac Asesydd Academaidd i gefnogi, goruchwylio ac asesu eu dysgu a mesur cyflawniad cymhwysedd presgripsiynu. Bydd gan yr unigolion hyn gymwysterau a phrofiad addas mewn perthynas â phresgripsiynu. 

Bydd oriau swyddfa a chyfarfodydd gyda chyfranogwyr yn hyblyg ac yn rhoi ystyriaeth briodol i batrymau gwaith cyfranogwyr.

  • Amgylchedd dysgu ar-lein 
  • Cyfleuster Efelychiadol Clinigol 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Ben Pitcher.

E-bost cyswllt: [email protected]