Cyrsiau Byr

Ysbrydolrwydd a Gofal Ysbrydol

Mae’r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) byr hwn ar gyfer Pobl Broffesiynol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Pherthynol i Iechyd ar gael i’w astudio ar eich cyflymdra ac yn eich amser eich hun.

Archebwch nawr Cyrsiau Byr
Close up image of two people holding hands on a table with a coffee cup to the side

Gyda mynediad hwylus i ddefnyddiau a dysgu cyfranogol rhyngweithiol, byddwch yn dysgu sut i roi sylw i gredoau personol, crefyddol ac ysbrydol cleientiaid fel rhan o ofal cyfannol person-ganolog.


Manylion y cwrs

Mae rhoi sylw i anghenion gofal ysbrydol pobl yn gynyddol yn cael ei gydnabod yn bwysig mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fyd-eang. Bydd y rhaglen hon yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i chi yn eich arferion gofal person-ganolog.

Bydd amcanion y rhaglen hon yn eich helpu gyda’r canlynol:

  • Ystyried y cymwyseddau sy’n cael eu harfer o fewn perthynas dosturiol ac wedi’i seilio mewn agwedd person-ganolog a myfyrgar o ddidwylledd, presenoldeb ac ymddiriedaeth.
  • Trin pobl mewn modd cyfannol sydd wedi dangos ei fod yn cryfhau adferiad, ansawdd bywyd, a’r potensial i fyw bywydau annibynnol, hapus a bodlon.
  • Bod o gymorth iddynt i ddod o hyd i ystyr, pwrpas, gwerth a chysylltiad ynghanol digwyddiadau sy’n newid bywydau megis salwch, ansicrwydd, tristwch a cholled.

Mae’r cwrs rhyngweithiol ar-lein hwn wedi’i ganoli ar Safon Addysg Ysbrydol EPICC a’i 4 cymhwysedd gofal ysbrydol.

  • Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd ysbrydolrwydd ar gyfer iechyd a llesiant.
  • Ymgysylltu ag ysbrydolrwydd pobl, gan gydnabod eu bydolwg, credoau ac arferion ysbrydol a diwylliannol unigryw.
  • Asesu anghenion ac adnoddau ysbrydol gan ddefnyddio ymagweddau ffurfiol neu anffurfiol priodol, a chynllunio gofal ysbrydol, gan gadw cyfrinachedd a chael cydsyniad gwybodus.
  • Ymateb i anghenion ac adnoddau ysbrydol o fewn perthynas ofalgar, dosturiol.

  • Modiwl 1: Sbardunau ar gyfer ysbrydolrwydd a gofal ysbrydol: persbectif rhyngwladol. Nodi pwy sy’n galw am ysbrydolrwydd i gael ei gynnwys o fewn iechyd a gofal cymdeithasol: llunwyr polisi; cyrff rheoleiddiol proffesiynol; cleifion a gofalwyr; pobl broffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Modiwl 2: Ysbrydolrwydd mewn-bersonol. Deall beth yw ystyr ‘ysbrydolrwydd’ a ‘gofal ysbrydol’, effaith gwerthoedd a chredoau personol ar ddarpariaeth gofal, digwyddiadau newid bywyd fel sbardun i hunanofal ysbrydol.
  • Modiwl 3: Ysbrydolrwydd rhyngbersonol. Ymgysylltu ag ysbrydolrwydd pobl, gan gydnabod eu bydolwg, credoau ac arferion ysbrydol a diwylliannol unigryw.
  • Modiwl 4: Asesu a chynllunio. Asesu anghenion ac adnoddau ysbrydol gan ddefnyddio ymagweddau ffurfiol ac anffurfiol a chynllunio gofal ysbrydol.  
  • Modiwl 5: Ymyrraeth a gwerthuso. Ymateb i anghenion ac adnoddau ysbrydol a gwerthuso’r canlyniad. Dogfennaeth, atgyfeiriad, gweithio gydag eraill, yr arbenigwr gofal ysbrydol, ystyriaethau moesegol, cyfyngiadau personol/proffesiynol, presenoldeb tosturiol.
  • Modiwl 6: Camau nesaf. Edrych ymlaen a datblygiad proffesiynol pellach. Canolbwyntio ar ddefnyddio cynnwys y cwrs yn eich arferion a’ch datblygiad proffesiynol.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer nyrsys, bydwragedd, cydymaith nyrsio, presgripsiynwyr cymdeithasol a phobl broffesiynol perthynol i iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio’n fyd-eang.

Mae'r cwrs yma yn costi £65.00 - Bydd aelodau RCN yn derbyn 50% o gyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae nifer o fanteision i astudio cwrs CPD byr ym Mhrifysgol De Cymru, mae’n ddull hyblyg i symud ymlaen ym maes gyrfa o’ch dewis, yn cynyddu eich gwybodaeth a chael cydnabyddiaeth.

Mae 6 modiwl yn y rhaglen gyfan a gallwch gofrestru ynddynt yn unigol neu gyda’i gilydd. Mae’n cymryd rhwng 30 munud a 90 munud i gwblhau pob modiwl. Mae’r rhaglen ar gael ar blatfform digidol y mae modd ei ddefnyddio ar unrhyw adeg, gan wneud dysgu’n hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch amserlen.

Mae Asesiadau byr i wirio’r dysgu wedi’u cynnwys drwyddi draw, gydag asesiad ar ddiwedd y cwrs a fydd, wedi’i gwblhau, yn cynnig cymhwyster digidol i chi o’ch portffolio CPD.

Mae’r cwrs CPD Ar-lein yn unig hwn yn cynnig 7 awr o ddysgu, a gallwch ddysgu ar eich cyflymdra eich hun i gyd-fynd ag amserlenni gwaith prysur.

I gofrestru eich diddordeb ac i gael rhagor o wybodaeth, llenwch ein ffurflen ymholiad.

Dylech gael gwybod bod mynediad i'r deunyddiau dysgu ar-lein yn ddilys am gyfnod o dri mis o'r dyddiad cofrestru. Sicrhau bod y cwrs yn cael ei gwblhau'n brydlon o fewn yr amserlen hon.

Tiwtoriaid Cwrs

Professor in Nursing, Department of Nursing, School of Health, Science and Wellbeing, Staffordshire University
Profile shot of Professor Linda Ross