Cyrsiau DPP

Ymarfer Annibynnol mewn Nyrsio Cymunedol Arbenigol – Nyrsys Ardal

Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol myfyrwyr er mwyn gallu gweithio'n effeithiol fel gweithwyr proffesiynol annibynnol ac atebol, a rheoli mwy o gymhlethdodau a risgiau’n ddiogel wrth ymarfer yn y gymuned.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
A female nurse or community care worker is stepping through the front door, with a residential street in the background, being greeted by a senior female patient. She is wearing a blue nurses tunic , and holding a medicines bag. She is wearing an ID badge with her profile photo already on it.

Mae cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r credydau tuag at y Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal.

Nod y modiwl 20 credyd lefel 7 (Meistr) hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol y myfyrwyr er mwyn gallu gweithio'n effeithiol fel gweithiwr proffesiynol annibynnol ac atebol, i reoli mwy o gymhlethdodau a risgiau’n ddiogel wrth ymarfer yn y gymuned. Mae hyn yn nhermau'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt, y llwythi achosion maen nhw'n eu rheoli a'r gwasanaethau maen nhw'n gweithio ynddynt, yn annibynnol ac yn integredig gydag asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a disgyblaethau eraill.

Mae'r modiwl yn cael ei gynnal ar ddyddiau Mawrth rhwng 10yb a 4yp o fis Medi am 15 wythnos.

Cod Modiwl Campws Duration Start Date
PE4S304 Glyn-taf a thrwy lwyfannau dysgu ar-lein 15 wythnos Medi

 

  • Datblygu ymarfer annibynnol yn rhagweithiol ac yn arloesol mewn sefyllfaoedd cymhleth, heriol ac anodd eu rhagweld.

  • Cymhwyso gwybodaeth gymunedol arbenigol a sgiliau uwch at eich maes ymarfer arfaethedig.

  • Rheoli a gwerthuso gofal cymhleth yn annibynnol, o’r atgyfeiriad hyd at dderbyn y gwasanaeth,  hyd at ryddhau o’r llwyth achosion, neu atgyfeiriad at wasanaethau neu asiantaethau priodol eraill.

  • Gweithredu fel model rôl proffesiynol ac eiriolwr dros y proffesiwn.

  • Datblygu chwilfrydedd proffesiynol – archwilio, deall a gwerthuso cyd-destunau sefyllfaol.

  • Gweithredu’r ddyletswydd broffesiynol i fod yn onest a derbyn cyfrifoldeb dros godi pryderon, gan gynnwys diogelu.

  • Dangos sgiliau asesu risg, cymhwyso sgiliau meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau, a chyfiawnhau a chofnodi rhesymeg dros gamau gweithredu, a hyn oll ar lefel uchel.

  • Rhoi’r egwyddorion sy'n llywio ymarfer proffesiynol, gan gynnwys gofynion o ran y gyfraith, rheoleiddio a llywodraethu ar waith mewn ymarfer yn y gymuned, ynghyd â pholisïau, a fframweithiau proffesiynol a moesegol.

  • Arwain a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy’n dosturiol, yn wrthwahaniaethol ac yn gynhwysol, ar sail arferion gorau yn ôl y dystiolaeth sydd ar gael.

  • Arwain a hyrwyddo gweithio amlddisgyblaethol ac mewn partneriaeth.

  • Datblygu gwell dealltwriaeth o sut i ddylanwadu ar strategaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar bob lefel.

  • Deall y broses a'r gofynion ar gyfer gweithio'n effeithiol gyda goruchwylwyr ymarfer ac aseswyr ymarfer i ddatblygu i lefel o ymarfer cymwys yn y gofynion a amlinellir yn y Ddogfen Asesu Ymarfer. Adfyfyrio ar eich gwerthoedd personol a phroffesiynol eich hun, a chynnal eich lles a’ch iechyd eich hun.

  • Datblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd, digidol a thechnolegol pellach wrth ddarparu gofal cymunedol arbenigol diogel ac effeithiol.

  • Datblygu sgiliau astudio effeithiol.

  • Chwilio am y lenyddiaeth a thystiolaeth, eu dehongli a’u hadolygu.

  • Hierarchaeth tystiolaeth, cymhwyso tystiolaeth i ymarfer annibynnol.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amryw ddulliau, yn ddarlithoedd a seminarau ac arddangosiadau, wyneb yn wyneb, ac yn rhithwir trwy ein systemau dysgu ar-lein. Bydd sesiynau’n gyfuniad o ddysgu amser real, dan gyfarwyddyd ac wedi hunan-gyfeirio, a bydd yn cynnwys defnyddio sesiynau wedi'u recordio. Bydd dulliau dysgu ymdrochol ac efelychiadol hefyd yn cael eu defnyddio.

Bydd sesiynau'n cael eu cyflwyno gan ymarferwyr arbenigol o’r maes ymarfer clinigol, gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a’u teuluoedd, a gan ddarlithwyr y Brifysgol.

Bydd cyflwyniadau ar astudiaethau achos yn cael eu defnyddio o fewn y sesiynau, gan alluogi myfyrwyr i gysylltu'r theori ag ymarfer. 

Bydd angen cyrraedd lefelau clinigol hyfedr, drwy gwblhau 100 awr o brofiad clinigol yn ystod y modiwl.

Rhaid i chi fod yn nyrs gofrestredig sy'n gweithio mewn gwasanaeth nyrsio yn y gymuned a chael eich cefnogi gan eich cyflogwr i wneud cais i astudio'r modiwl.

Dylai fod asesydd ymarfer a goruchwylydd ymarfer sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gael i'ch cefnogi mewn ymarfer clinigol, ac i asesu cymhwysedd o ran yr hyn a nodir yn y ddogfen asesu ymarfer. Rhaid i'r asesydd ymarfer feddu ar y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol perthnasol mewn Nyrsio Ardal.

Asesu ffurfiannol:
Byddwch yn cwblhau astudiaeth achos, y bydd eich asesiad crynodol yn seiliedig arni.

Asesu crynodol:  

  • Rhan 1: Cynrychiolaeth weledol (poster) o wybodaeth sy'n dangos materion yn ymwneud â gwneud penderfyniadau critigol/ asesu risg a’r rhesymeg gysylltiedig wrth weithio'n annibynnol mewn sefyllfa gymhleth/heriol yn y gymunedol, a thrafodaeth feirniadol 10 munud i ddadansoddi cynnwys y poster yn fanwl.
  • Rhan 2: Llwyddo ar y lefel gallu a nodir yn Llwyfan 1 Dogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer y Cymhwyster Ymarferwyr Arbenigol  ym maes ymarfer benodol y myfyriwr. 

Byddwch yn cael goruchwylydd academaidd a fydd yn eich cynorthwyo gyda'ch gwaith academaidd.

  • Gwasanaethau llyfrgell
  • Gwasanaethau TG
  • Goruchwyliaeth academaidd
  • Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio os bydd angen

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch ag arweinydd y modiwl, Angela Hiscocks.

E-bost cyswllt: [email protected]