Cyrsiau DPP

Addysgu, Asesu a Mentora mewn Ymarfer Clinigol

Nod y modiwl yw eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch galluoedd i hwyluso a chefnogi dysgu'n effeithiol ac ymgymryd â gwaith asesu myfyrwyr ac eraill yng nghyd-destun eich maes ymarfer.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
A group of nursing students stood in a line taking instructions from a nursing lecturer in the clinical simulation centre

Nod y modiwl yw eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch galluoedd i hwyluso a chefnogi dysgu'n effeithiol ac ymgymryd ag asesu myfyrwyr ac eraill yng nghyd-destun eich maes ymarfer. Dyma'r modiwl 40 credyd achrededig cyntaf i'w gynnig i fodloni Safonau newydd y CNB (2018) mewn perthynas â chefnogi, goruchwylio ac asesu myfyrwyr. 

Bydd cwblhau'n llwyddiannus yn eich galluogi i gyflawni rôl Goruchwyliwr Ymarfer ac Asesydd Ymarfer, yn unol â gofynion y CNB. Gellir defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a geir o astudio'r modiwl hwn i gefnogi dysgu ac asesu myfyrwyr, staff iau, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn eich lleoliad ymarfer. 

Mae'r modiwl wedi'i anelu at nyrsys, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys a chofrestredig sy'n cefnogi eraill sy'n dysgu wrth ymarfer. 

Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
AU3D027 Glyn-taf ac ar-lein gan ddefnyddio dull cyfunol Tri mis (10 diwrnod astudio gosodedig) Ebrill

Byddwch yn cael eich addysgu am y canlynol: 

  • Creu amgylchedd sy'n hwyluso dysgu mewn lleoliadau academaidd ac ymarfer. 
  • Ystyriaethau pwy/beth/pam/sut mewn addysgu – cymhwyso ymarferol 
  • Hwyluso dysgu mewn lleoliad ffurfiol / dysgu wedi'i gynllunio - Cynllunio eich sesiwn. 
  • Sut mae myfyrwyr yn dysgu – theori dysgu a thystiolaeth sy'n cefnogi addysgeg  - dysgu ar yr wyneb v dysgu dwfn - Dysgu ymdrochol ac aliniad adeiladol. 
  • Trosolwg o'r ystod o strategaethau addysgeg i hwyluso dysgu - Hwyluso datblygiad sgiliau ymarferol/clinigol mewn dysgwyr. 
  • Hwyluso datblygiad sgiliau ymarferol/clinigol mewn dysgwyr. 
  • Rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yr asesydd academaidd ac ymarfer. 
  • Methu â Methu – Pryd, beth a sut wrth ddirprwyo. 
  • Adfyfyrio beirniadol - ysgrifennu adfyfyriol. 
  • Hyrwyddo cynhwysiant mewn dysgu, addysgu ac asesu - sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth. 
  • Asesu myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol /anableddau /gwneud addasiadau rhesymol 
  • Arloesi mewn addysgu 
  • Dysgu Rhyngbroffesiynol 
  • Asesu wrth Ymarfer  - Gwneud a chofnodi asesiadau gwrthrychol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 
  • Ffyrdd o gasglu data asesu a rhoi adborth 
  • Dysgu wrth ymarfer wedi'i gyfoethogi gan dechnoleg a'r lleoliad addysgol. 
  • Hunanasesu ac Asesu Cymheiriaid mewn addysg ac ymarfer. 

Mewn tirwedd newidiol sy’n rhoi ystyriaeth briodol i ofynion cadw pellter cymdeithasol a mynediad i'r campws, bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy ddull dysgu cyfunol, gan gynnwys: 

  • Sesiynau byw ar-lein – gweithgareddau cydamserol. 
  • Gweithgareddau anghydamserol dan arweiniad y gallwch, er eu bod wedi'u trefnu ar gyfer dydd Gwener, eu hastudio unrhyw bryd yn ystod yr wythnos. 
  • Grŵp Cymunedau Ymarfer lle gallwch ddysgu gyda'ch cyfoedion a ganddynt, a rhannu syniadau, adfyfyrdodau ac adnoddau. 
  • Trafodaethau rheolaidd gyda'ch Tiwtor Personol – adfyfyrio ar eich datblygiad. 
  • Tiwtorialau grŵp gyda'ch cyfoedion mewn Cyfarfodydd Grŵp Tiwtorial Personol.

Mae deg diwrnod astudio wedi'u trefnu ar ddyddiau Gwener rhwng 10am a 3pm. Fodd bynnag, mae yna hefyd nifer o weithgareddau i'w cyflawni cyn rhai o'r sesiynau byw a bydd angen amser arnoch i baratoi eich dwy sesiwn addysgu grynodol. Mae hwn yn fodiwl 40 credyd, felly mae angen i chi fod yn barod i neilltuo tua 400 awr i'r modiwl hwn. 

Darlithwyr

Y tîm craidd yw: 

  • Jill Barnes 
  • Dr Mark Davies 
  • Stacey Jenkins 
  • Donna Price 
  • Natalie Davies–Dixon

Bydd darlithoedd hefyd o fodelau arfer gorau lle bydd addysgwyr arbenigol yn dangos dulliau dysgu ac addysgu arloesol y maent yn eu defnyddio. 

Bydd angen i gyfranogwyr fod yn nyrsys, bydwragedd neu weithwyr cysylltiedig ag iechyd proffesiynol a chofrestredig. Fodd bynnag, byddai'r modiwl hwn yn cefnogi datblygiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a fyddai'n ystyried rôl yn hwyluso dysgu Addysg Uwch.

Bydd y modiwl yn darparu adborth ffurfiannol wrth i chi ddatblygu eich aseiniad. 

  • Cyflawni tri deilliant dysgu ymarfer - yn ymwneud â chi'n goruchwylio ac yn cefnogi myfyrwyr ac yn creu amgylchedd dysgu effeithiol.
  • Aseiniad adfyfyrio beirniadol ar sut rydych wedi datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch gallu fel hwylusydd dysgu 

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i chi i gynnig cymorth ac arweiniad gyda phob agwedd ar y modiwl. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd yn cynnig goruchwyliaeth academaidd i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich asesiadau ac i arsylwi ar eich sesiynau a addysgu.

Yn dibynnu ar reolau cadw pellter cymdeithasol, bydd gennych fynediad at: 

  • Gyfleusterau Efelychiadau Clinigol o'r radd flaenaf 
  • Cyfleuster Hydra Minerva. 
  • Mynediad arferol at lyfrgell a chronfa ddata cyfnodolion PDC – gwasanaeth ar-lein yn ogystal â chlicio a chasglu llyfrau. 
  • Holl adnoddau cymorth myfyrwyr PDC gan gynnwys nifer o becynnau TG am ddim i fyfyrwyr. 
  • Tiwtor Personol a Thîm y Modiwl 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Jill Barnes.

E-bost cyswllt: [email protected]