Egwyddorion Rheoli Clwyfau
Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â rheoli gofal clwyfau mewn lleoliad gofal iechyd.
Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Nod y modiwl Lefel 6 (Gradd) 40 credyd hwn neu lefel 7 (Meistr) yw hyrwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â rheoli gofal clwyfau mewn lleoliad gofal iechyd, i lywio a datblygu ymarfer a gwella canlyniadau cleifion.
Mae'r modiwl yn cael ei gynnal ddydd Llun rhwng 10am a 4pm o fis Ionawr am 14 wythnos.
| Cod Modiwl | Campws | Hyd | Dyddiad Cychwyn |
|---|---|---|---|
| AU4D021 | Glyn-taf | 14 wythnos | Ionawr |
| AU3D011 | Glyn-taf | 14 wythnos | Ionawr |
- Asesiad cyfannol a gofalu am y person cyfan.
- Theori hybu iechyd mewn perthynas â newid ymddygiad a chytgord cleifion
- Egwyddorion gwella clwyfau
- Canllawiau cenedlaethol ar wlserau coes.
- Theori Doppler a chywasgu gyda chyfle i ymarfer cofnodi mynegai pwysau breichiol Doppler ar y migwrn, a rhwymynnau cywasgu.
- Canllawiau cenedlaethol ar atal briwiau pwyso - asesu risg briwiau pwyso a dulliau graddio.
- Rheoli cleifion sydd â chlwyfau a chyflyrau penodol e.e. diabetes a rheoli lymffoedema.
- Materion Heintiau a Chytrefu (SSIs).
- Materion dermatolegol mewn gofal clwyfau.
- Clwyfau llawfeddygol a thrawmatig.
Byddwch chi’n cael eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o ddarlithoedd a seminarau, arddangosiadau, yn rhithiol drwy ein system ddysgu ar-lein (Blackboard) a thrwy drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth lle bydd myfyrwyr yn rhannu eu profiadau.
Rydyn ni’n gwahodd ymarferwyr arbenigol a darlithwyr y Brifysgol i gyflwyno sesiynau.
Bydd dull dysgu cyfunol gyda sesiynau wyneb yn wyneb, ar y campws ac ar-lein, a dysgu dan gyfarwyddyd sy'n cynnwys deunyddiau wedi'u recordio.
Bydd cyflwyniadau astudiaeth achos yn cael eu defnyddio yn y sesiynau sy'n galluogi myfyrwyr i gysylltu'r ddamcaniaeth ag ymarfer wrth ystyried eu hasesiad.
Asesiad ffurfiannol: Byddwch chi’n cwblhau astudiaeth achos i seilio eich asesiad crynodol arni.
Asesiad crynodol:
Rhan 1 : Cyflwyniad 15 munud o astudiaeth achos o ymarfer sy'n archwilio agwedd ar ofal clwyfau.
Rhan 2: Adolygiad o'r llenyddiaeth sy'n llywio rheoli clwyfau'n effeithiol.
Nid oes cyfweliad i ymuno â'r cwrs hwn, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bodloni'r meini prawf a restrir.
Mae'n rhaid i chi fod yn weithiwr iechyd proffesiynol a gyflogir mewn maes lle rydych chi’n rheoli cleifion â chlwyfau ac yn gallu nodi astudiaeth achos i archwilio agwedd ar ofal clwyfau at ddibenion asesu.
Byddwch chi’n cael goruchwyliwr academaidd a fydd yn eich cynorthwyo gyda'ch gwaith academaidd.
Cyfleusterau ac Adnoddau:
- Gwasanaethau llyfrgell.
- Gwasanaethau TG.
- Goruchwyliaeth academaidd.
- Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio, os oes angen.
- Gwasanaethau llyfrgell
- Gwasanaethau TG
- Goruchwyliaeth academaidd
- Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio os oes angen
Diddordeb mewn Ymgeisio?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Angela Hiscocks.
E-bost cyswllt: [email protected]