Cyrsiau DPP

Rheoli Mân Salwch mewn Gofal Sylfaenol

Nod y modiwl yw addysgu gofal cyswllt cyntaf. Sut i ymgymryd â hanes i sefydlu diagnosis gweithiol a chreu cynllun gofal i gleifion.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Female GP, wearing blue scrubs and a stethoscope, examining a child

Nod y modiwl yw addysgu gofal cyswllt cyntaf. Sut i gymryd hanes cleifion i bennu diagnosis gweithiol ac i greu cynllun gofal i gleifion. Bydd y modiwl hwn yn galluogi ymgeiswyr i fod yn barod i naill ai ddechrau sefydlu eu clinig mân salwch eu hunain neu ymuno ag un o'r prif wasanaethau y tu allan i oriau neu 111 sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau brysbennu cyswllt cyntaf ac wyneb yn wyneb. 

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr ymgeisydd yn ennill cymhwyster Meistr L7 20 credyd mewn rheoli mân salwch mewn gofal sylfaenol. Gall hyn fod yn rhan o fodiwl unigol ar ei ben ei hun neu'n rhan o'r canlynol: 

  • Dyfarniad MSc Ymarfer Clinigol Uwch 
  • Dyfarniad MSc Nyrsio Ymarfer Cyffredinol Astudiaethau Iechyd Cymunedol 
  • Dyfarniad MSc Ymarfer Proffesiynol. 

Os ydych chi'n gweithio yn un o'r meysydd canlynol, byddai'r cwrs hwn yn opsiwn gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ymhellach: 

  • Nyrsys Ymarfer Cyffredinol - pob gradd 
  • Ymarferwyr y Tu Allan i Oriau – pob gradd 
  • Ymarferwyr Damweiniau ac Achosion Brys – pob gradd 
  • Parafeddygon – pob gradd 
  • Fferyllwyr 
  • Nyrsys Carchardai 
  • Ffisiotherapyddion 
  • Ceiropractyddion 

 

Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
CA4S067 Glyn-taf 12 wythnos Hydref

Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i sefydlu gwasanaeth mân salwch a chynhyrchu protocolau rheoli gofal MI penodol. Bydd yn rhoi sgiliau arholiad clinigol pediatrig ac oedolion i chi a sgiliau ffarmacolegol a rheoli meddyginiaethau therapiwtig. 

Cyflwyniad Mân salwch cyffredin o: 

  • Anadlol 
  • Dermatoleg 
  • Gastro berfeddol 
  • Iechyd Menywod 
  • Clefydau cyffredin plentyndod 
  • Mân anafiadau  
  • Cyhyrysgerbydol 
  • Cyfraith a moeseg 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol: 

  • Tiwtorialau  
  • Seminarau 
  • Gwaith grŵp 
  • Astudiaeth hunangyfeiriedig 
  • Sgiliau Cymryd Hanes a modelau ymgynghori 
    Sgiliau clinigol sydd eu hangen i gynnal archwiliad cyfannol o gleifion a diagnosis
  • gwahaniaethol o ystod o fân gyflyrau
  • Ffarmacoleg glinigol a defnydd therapiwtig o feddyginiaethau sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau

Bydd angen i chi neilltuo o leiaf 3-5 awr yr wythnos i'r cwrs ar ben presenoldeb 10yb -5yh bob wythnos. 

Mae gan dîm y cwrs 3 Ymarferydd Nyrsio Uwch y Tu Allan i Oriau profiadol iawn sy'n cyflwyno darlithoedd dilys perthnasol yn seiliedig ar eu profiad o ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth i ddarparu gofal. Mae hefyd yn cynnwys fferyllydd-bresgripsiynydd a nyrs mân anafiadau Damweiniau ac Achosion Brys. 

I wneud cais ar gyfer y cwrs hwn bydd angen i chi ddangos: 

  • Y gallwch ysgrifennu ar L7 
  • Eich bod yn gweithio mewn ymarfer cymunedol/cyswllt cyntaf am o leiaf 16 awr yr wythnos 
  • Bod gennych Fentor Meddygol /Asesydd Ymarfer gallwch weithio ochr yn ochr ag ef/hi am 3 awr o leiaf yr wythnos 
  • Bod gennych asesydd ymarfer / Ymarferydd Nyrsio Uwch  

Bydd darllen y Llawlyfr Mân Salwch gan Johnson cyn y cwrs yn fanteisiol er mwyn cadarnhau gwybodaeth am fân salwch cyn dechrau’r y cwrs. Bydd cysgodi eich Mentor Meddygol/ Asesydd Ymarfer Nyrsio Uwch wrth eu gwaith yn cynnal clinigau mân salwch neu ymgymryd â sgiliau archwilio corfforol hefyd yn eich helpu gyda'r cwrs hwn. 

Mae'r aseiniad crynodol yn cynnwys x5 senario gosodedig fydd yn dangos gallu i: 

  • Drafod a gwerthuso sylfaen dystiolaeth y sgiliau sydd eu hangen i asesu cleifion ag amrywiaeth o broblemau heb ddiagnosis blaenorol i arwain at ddiagnosis neu atgyfeiriad. 
  • Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o faterion ffarmacolegol sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau, a gwirio lefel y dystiolaeth i gefnogi’r trafod.

Bydd y Deilliannau Dysgu Clinigol crynodol yn cael eu harddangos drwy gwblhau 5 llyfr gwaith mewn ymarfer clinigol gyda'ch asesydd ymarfer. 

  • Asesu, cynllunio, darparu a gwerthuso gofal nyrsio clinigol arbenigol i ddiwallu anghenion gofal unigolion a grwpiau ym mhoblogaeth y practis. 
  • Trafod sylfaen dystiolaeth y sgiliau sydd eu hangen i asesu a datblygu opsiynau triniaeth ar gyfer claf sydd ag amrywiaeth o broblemau heb ddiagnosis blaenorol.
  • Dangos ymwybyddiaeth o faterion ffarmacolegol sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau salwch. 
  • Bydd senario dilys ffurfiannol yn cael ei gwblhau yn y dosbarth. 

Bydd gennych diwtor personol wedi'i neilltuo i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaeth. 

Bydd angen i chi drefnu Mentor Meddygol ac Ymarferydd Nyrsio Uwch i'ch goruchwylio’n glinigol yn ystod y cwrs ac i’ch ardystio’n gymwys. 

  • Deunydd ar-lein Blackboard.
  • Ffolderi o ddeunyddiau ar bob pwnc am y feddyginiaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw. 
  • Fideo. 
  • Darlithydd Panopto i ddal i fyny os methir sesiwn. 
  • Llyfrau gwaith ffarmacolegol clinigol mân salwch. 
  • Ystafelloedd ymgynghori clinigol pwrpasol o'r radd flaenaf gyda'r manecwiniaid pediatrig ac oedolion arloesol diweddaraf ac i-glust ac i-lygad i ymgymryd â sgiliau clinigol.

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein i ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Sara Morgan, trwy e-bostio [email protected].