Cyrsiau DPP

Gofal Diabetes

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer Nyrsys Cofrestredig sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda diabetes neu sydd â diddordeb brwd mewn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ym maes diabetes.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Close up of woman hands using lancet on finger to check blood sugar level by glucose meter

Ei nod yw galluogi cyfranogwyr y cwrs i gael rhagor o wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am faterion yn ymwneud â gofal diabetes a deall pwysigrwydd dull amlddisgyblaethol o ofalu am bobl sydd â diabetes. 

Gellid defnyddio sgiliau a enillwyd o astudio'r modiwl hwn i gyfoethogi eu hymarfer clinigol, ac ymarfer yn fwy effeithiol a hyderus.  

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus wedi mynd yn eu blaen i ddatblygu eu gyrfaoedd nyrsio fel nyrsys diabetes arbenigol. 

Cod Modiwl Campws Duration Start Date
CA3S028 (Lefel 6) Glyn-taf (rhithwir ar hyn o bryd) 12 wythnos Chwefror
CA4S065 (Lefel 7) Glyn-taf (rhithwir ar hyn o bryd) 12 wythnos Chwefror

 

  • Trosolwg strategol o ofal diabetes yng Nghymru, y DU ac yn Fyd-eang 
  • Rheoli diabetes heddiw 
  • Dosbarthu a diagnosio Diabetes Math 1 a Math 2 
  • Atal a chanfod diabetes yn gynnar 
  • Anatomeg a ffisioleg mewn perthynas â diabetes 
  • Therapïau Ceg a Phigo 
  • Cychwyn inswlin a chyfundrefnau inswlin 
  • Monitro glwcos gwaed a cheton  
  • Hypoglycemia a rheoli salwch 
  • Maeth a diabetes: ymwybyddiaeth carbohydradau 
  • Maeth a gweithgarwch corfforol 
  • Addysg strwythuredig ar gyfer diabetes 
  • Iechyd meddwl a diabetes 
  • Safbwynt cleifion o fyw gyda diabetes 
  • Rheolaeth diabetes plant a phobl ifanc 
  • Rheoli diabetes yn ystod beichiogrwydd 
  • Gofal traed diabetig: sgrinio ac asesu risg 
  • Rheoli diabetes yn y lleoliad acíwt: Cetoasidosis Diabetes a Chyflwr Hypoglycaemia Hyperosmolar 
  • Cymhlethdodau diabetes

Bydd ystod eang o glinigwyr arbenigol sy'n gweithio gyda phobl â diabetes yn cyfrannu at yr addysgu yn y modiwl hwn yn ogystal â darlithwyr sydd â diddordeb brwd a phrofiad sylweddol o reoli pobl â diabetes mewn lleoliadau gofal acíwt a sylfaenol. 

Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol: 

  • Sesiynau addysgu byw cydamserol (rhithwir ar hyn o bryd) 
  • Deunyddiau astudio anghydamserol dan arweiniad 
  • Trafodaethau grŵp 
  • Tiwtorialau 
  • Dysgu clinigol yn seiliedig ar ymarfer

Bydd angen neilltuo 200 awr i'r modiwl hwn 

  • Darlithoedd (28 awr) 
  • Goruchwylio prosiect (2 awr) 
  • Dysgu seiliedig ar waith (100 awr) 
  • Dysgu annibynnol (70 awr) 

I wneud cais ar gyfer y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn Nyrs Gofrestredig neu'n Fydwraig yn gofalu am bobl sydd â diabetes. 

Dylai eich rheolwr llinell/cyflogwr gynnig cefnogaeth i astudio'r modiwl, nodi Asesydd Ymarfer addas a sicrhau cyllid. Gallai hyn olygu cyfweliadau wedi’u hariannu gan gyflogwyr. 

Asesiadau CA3S028

Asesu Ffurfiannol

Cymryd rhan mewn gweithgareddau wythnosol a thrafodaethau/tiwtorialau dosbarth. 

Asesu Crynodol

Traethawd 3000 gair yn canolbwyntio ar agwedd ar ofal diabetes. 

Asesu Ymarfer

Deilliant dysgu clinigol yn gysylltiedig â chyflwyno sesiwn addysgu ar agwedd ar ofal/rheoli diabetes. 

Asesu CA4S065

Asesu Ffurfiannol

Cymryd rhan mewn gweithgareddau wythnosol a thrafodaethau/tiwtorialau dosbarth. 

Asesu Crynodol

Traethawd 3000 gair yn canolbwyntio ar agwedd ar ofal diabetes. 

Adfyfyrdod beirniadol 1500 gair ar sesiwn addysgu. 

Asesu Ymarfer

Deilliant dysgu clinigol yn gysylltiedig â chyflwyno sesiwn addysgu ar agwedd ar ofal/rheoli diabetes. 

Bydd Goruchwyliwr Academaidd yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr a bydd mynediad at Asesydd Ymarfer.

  • Mynediad TG 
  • Llythrennog TG 
  • Mynediad at ofalu am bobl sy'n byw gyda diabetes 
  • Asesydd Ymarfer Penodedig i asesu dysgu clinigol 
  • Cefnogaeth rheolwr llinell i gael mynediad at ddatblygiad ymarfer parhaus (DPP) 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, John Whitcher.

E-bost cyswllt: [email protected]