Rheoli Symptomau Pediatrig mewn Gofal Llniarol
Mae'r modiwl hwn yn archwilio materion allweddol sy'n codi o ofal lliniarol pediatrig cyfoes, yn enwedig mewn perthynas â rheoli symptomau.
Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i archwilio materion allweddol sy'n codi o ofal lliniarol pediatrig cyfoes, yn enwedig mewn perthynas â rheoli symptomau.
Bydd yn galluogi myfyrwyr i wneud dadansoddiad beirniadol o ddulliau asesu, cynllunio a rheoli symptomau, ynghyd â’r sail dystiolaeth, a’u galluogi i werthuso’r prosesau rheoli symptomau.
Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion ac arferion gofal lliniarol pediatrig.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at Nyrsys Cofrestredig a gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig cysylltiedig sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau neu sy'n bygwth bywyd. Fel modiwl ar ei ben ei hun, gellir ei ddefnyddio i lywio ymarfer o ran rheoli symptomau pediatrig ym maes gofal lliniarol.
| Cod Modiwl | Campws | Hyd | Dyddiad Cychwyn |
|---|---|---|---|
| FC4H001 | Ar-lein | 1O Wythnos | MEDI |
Byddwch yn dysgu am y themâu canlynol:
- Cyflwyniad i ofal lliniarol i blant
- Symptomau anadlol
- Poen
- Cyfogi a chwydu
- Ffitiau
- Symptomau seicolegol
- Rhwymedd a bwydo
- Argyfyngau oncoleg
- Moeseg
- Cynllunio gofal
Mae'r modiwl hwn yn gofyn i chi astudio (gan gynnwys astudio hunangyfeiriedig) am 100 o oriau academaidd.
- Darlithoedd – 10 awr
- Goruchwylio prosiect – 10 awr
- Dosbarthiadau a gweithdai ymarferol – 30 awr
- Astudio annibynnol – 25 awr
- Astudio dan gyfarwyddyd – 25 awr
Mae'r cwrs yn agored i unrhyw nyrs neu feddyg cymwysedig sy'n gweithio gyda phlant a/neu bobl ifanc sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau neu sy'n bygwth bywyd, ac i staff y tu allan i'r DU, y mae ganddynt dystiolaeth o Brawf Saesneg Rhyngwladol (IELTS) Lefel 6.5 neu uwch, gydag sgôr o 5.5 o leiaf ym mhob cydran.
Asesu ffurfiannol:
- Cynigir cymorth drwy fyrddau trafod ac anogir myfyrwyr i gyflwyno cynllun o'r adolygiad.
Asesu crynodol:
- Adolygiad beirniadol 3,000 o eiriau o agwedd ddewisol ar ofal lliniarol pediatrig.
Bydd Goruchwyliwr Academaidd yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cynorthwyo gyda'ch gwaith academaidd.
Bydd sesiwn sefydlu ar-lein yn esbonio sut i ddefnyddio ein hadnoddau dysgu o bell. Bydd recordiadau fideo ychwanegol yn esbonio sut i gael gafael ar gymorth, defnyddio Turnitin a bod yn ddysgwr ar-lein effeithiol.
- Gwasanaethau llyfrgell
- Gwasanaethau TG
- Goruchwyliaeth academaidd
- Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio os oes angen
Diddordeb mewn Ymgeisio?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Michelle Panniers.
E-bost cyswllt: [email protected]