Natur a Chwmpas Gofal Llniarol
Bydd y modiwl dysgu o bell hwn yn archwilio natur a chwmpas gofal lliniarol mewn perthynas â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd.
Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Nod y modiwl dysgu o bell 12 mis hwn yw archwilio natur a chwmpas gofal lliniarol mewn perthynas â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd.
Mae'r modiwl yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd oedolion proffesiynol cofrestredig ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd. Bydd yn cyfrannu at ac yn cyfoethogi eich gallu i arwain ac ysgogi gofal clinigol effeithiol gyda chleifion sydd â chlefyd datblygedig.
(Noder: Nid yw'r modiwl hwn yn addas ar gyfer Nyrsys Pediatrig)
| Cod Modiwl | Campws | Hyd | Dyddiad Cychwyn |
|---|---|---|---|
| AU3S057 | Ar-lein / Dysgu o Bell (Arweinydd modiwl wedi'i leoli yn Glyn-taf) | 12 mis | Medi |
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn archwilio:
- Materion yn ymwneud â gofal lliniarol drwy astudiaethau achos a dull naratif.
- Materion penodol sy'n berthnasol i ddarparu gofal lliniarol effeithiol, gan gynnwys tarddiad a datblygiad gofal lliniarol a chwmpas gofal lliniarol yn y DU ac Ewrop.
- Bydd ffactorau a all effeithio ar wasanaethau gofal lliniarol ac felly taith unigolyn yn cael eu harchwilio mewn perthynas â sgiliau cyfathrebu.
- Effaith materion proffesiynol, moesegol a chyfreithiol ar unigolion wrth wneud penderfyniadau clinigol. Gall y rhain gynnwys materion fel ewthanasia, a'r hawl i farw, a'r defnydd o gyfarwyddebau uwch a materion capasiti a dewis.
Bydd angen i chi allu cael mynediad i gyfrifiadur a chael mynediad i'r rhyngrwyd, gan fod y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein.
Mae'r modiwl yn gwrs dysgu o bell sy'n seiliedig ar destun wedi’i gefnogi o bell. Ymhlith y ffyrdd y byddwch yn dysgu bydd y canlynol:
- Gweithgareddau ar-lein, e.e. byrddau trafod
- Safle Microsoft Teams lle gall pob myfyriwr o'r modiwlau gofal lliniarol rannu profiadau a dechrau cymuned ymarfer.
Faint o amser fydd angen i fi ei neilltuo i'r modiwl hwn?
- Astudio annibynnol 80 awr
- Astudiaeth dan gyfarwyddyd 120
- Cyfanswm o 200 awr
Byrddau trafod ffurfiannol.
Byddwch yn derbyn deunyddiau dysgu allweddol ac yn cael eich cefnogi trwy gydol y cwrs gan dîm y modiwl a'ch cyswllt â myfyrwyr eraill.
Mae’r 2 asesiad crynodol, sy’n ymwneud â deilliannau dysgu’r modiwl, yn un traethawd 2,500 gair ac un cyflwyniad llafar 15 munud. Mae angen pasio'r ddau asesiad i basio'r modiwl. Mae pob asesiad crynodol yn seiliedig ar astudiaeth achos ffurfiannol, a gyflwynir cyn yr aseiniad crynodol.
- Traethawd: Dewiswch fodel o golled neu drawsnewidiad. Dadansoddwch y model mewn perthynas â chlaf rydych chi wedi'i adnabod, ei grŵp cymdeithasol uniongyrchol a'r rhwydwaith gofal ehangach. Gwerthuswch y mewnbwn gan aelodau o'ch tîm amlbroffesiynol. Bydd y traethawd hwn yn gysylltiedig ag astudiaeth achos benodol a gafwyd mewn Ymarfer Clinigol (dylai astudiaeth achos fod yn 300 gair, nad yw wedi'i chynnwys yn y cyfrif geiriau)
- Cyflwyniad Llafar: Gwerthuswch yn feirniadol y goblygiadau cyfreithiol, proffesiynol NEU foesegol sy'n gysylltiedig â digwyddiad penodol y daethpwyd ar ei draws yn eich ymarfer clinigol. Bydd y cyflwyniad llafar hwn yn gysylltiedig ag astudiaeth achos benodol a gafwyd mewn Ymarfer Clinigol (dylai astudiaeth achos fod yn 300 gair, nad yw wedi'i gynnwys yn y cyfrif geiriau)
Tystiolaeth o ddiploma (lefel 5) neu radd (lefel 6)
Bydd darlithwyr sy'n arbenigwyr ym maes gofal lliniarol yn cael ei neilltuo’n oruchwylwyr i fyfyrwyr ar gyfer eu traethodau. Neilltuir diwrnodau cyswllt drwy gydol y modiwl.
Bydd myfyrwyr hefyd yn derbyn cyhoeddiadau rheolaidd ar y modiwl ar-lein a bydd arweinydd y modiwl ar gael i gysylltu â nhw drwy e-bost.
- Adnoddau llyfrgell ar-lein ac wyneb yn wyneb (yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw)
- Mynediad i lyfrgell PDC ar safleoedd campws eraill
- Mynediad i sgiliau astudio a'r parth cyngor
- Mae gan y modiwl ffolder adnoddau deunyddiau dysgu helaeth, sy'n cynnwys dogfennau, erthyglau, dolenni fideo, dolenni gwe ac ati
- Rhestr ddarllen helaeth, gyda rhai o’r llyfrau ar gael yn electronig
- Mae'r pwyslais ar ddysgu sylfaenol mewn ymarfer clinigol gan fod yr aseiniadau’n seiliedig ar brofiad/astudiaethau achos y myfyriwr.
- Addysgir gan dîm o ddarlithwyr sy'n arbenigwyr ym maes Gofal Lliniarol
- Yn ffurfio sylfaen wybodaeth gref mewn Gofal Lliniarol
- Sylfaen ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu rôl gofal lliniarol yn eu gyrfa
- Yn gallu trosglwyddo credydau i gyrsiau eraill yn PDC, (yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol)
Diddordeb mewn Ymgeisio?
Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar gael yn uniongyrchol gan Clare Churcher.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Clare Churcher.
E-bost cyswllt: [email protected]