Cyrsiau DPP

Asesu Clinigol a Diagnosteg

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr ddefnyddio dulliau manwl, systematig a chynhwysfawr o archwilio clinigol, asesu cleifion a diagnosis.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
An older man is having his blood pressure checked by a healthcare worker in what looks like a clinic or medical office. The healthcare worker is smiling while using a stethoscope and a blood pressure cuff wrapped around the man’s arm. A blood pressure gauge sits on the table nearby, and the interaction appears friendly and relaxed.

Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio dulliau critigol, systematig a chynhwysfawr ar gyfer archwilio clinigol, asesu cleifion a diagnosis. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gorfod asesu ac archwilio cleifion a phennu eu hanghenion gofal iechyd. 

Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, bydd myfyrwyr y modiwl yn derbyn tystysgrif ar gyfer modiwl 40 credyd y maen nhw wedi'i basio ar lefel 7 wedi'i achredu gan y Brifysgol. Gellir trosglwyddo'r credyd tuag at yr MSc Ymarfer Proffesiynol (yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol). 

Mae'r manteision gyrfa allweddol yn cynnwys: 

  • Pwyslais y modiwl yw cynorthwyo sgiliau myfyrwyr mewn asesu a diagnosteg a thrwy hynny wella'r broses o ddwysáu gofal neu benderfynu ar ymyriadau gofal. 
  • Cael gwell dealltwriaeth o arwyddion a symptomau i gynorthwyo diagnosis. 
  • Ennill sgiliau sydd bellach wedi'u hymgorffori mewn rhaglenni cyn cofrestru. 
  • Gallu trosglwyddo credydau i gyrsiau eraill yn PDC, (yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol).
Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
AU3D021 (Lefel 6) Glyn-taf 12 wythnos Mae dau gymeriant y flwyddyn - Medi i Ragfyr; ac Ionawr i Ebrill
AU4D013 (Lefel 7) Glyn-taf 12 wythnos Mae dau gymeriant y flwyddyn - Medi i Ragfyr; ac Ionawr i Ebrill

Byddwch yn dysgu:

  • Dulliau systematig a threfnus o asesu corfforol ac archwilio clinigol gan ddefnyddio dull systemau: anadlol, cardiofasgwlaidd, gastro-berfeddol, niwrolegol, cenhedlol-wrinol, cyhyrysgerbydol. 
  • Prosesau cymryd hanes: hanes meddygol, cyffuriau, teulu, cymdeithasol. 
  • Prosesau cyfathrebu, sgiliau cyfweld, sgiliau rhyngbersonol a gwerthuso cyflwyno  clinigol. 
  • Archwilio canlyniadau salwch ar homeostasis, yr effaith gorfforol, seicogymdeithasol ar y claf. 
  • Dulliau atgyfeirio a dulliau cydweithredol o ganfod a rheoli problemau iechyd ansefydlog a chymhleth. 
  • Materion cyfreithiol a phroffesiynol: atebolrwydd, dyletswydd a safonau gofal, caniatâd a'r gallu i gydsynio, cyfrinachedd, dogfennaeth glinigol. 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o: 

  • Ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau - Wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu’n rhithwir drwy’r system blackboard ar-lein. Bydd cyfuniad o sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio. 
  • Arddangosiadau 
  • Gweithgareddau efelychiadol

Gwneir hyn gan arbenigwyr addysgol a chlinigol, lawer ohonynt â phrofiad o fod yn ymarferwyr clinigol uwch. 

Mae'r modiwl hwn yn gofyn am gyfanswm o 400 awr o astudio sy'n cynnwys oriau a addysgir wedi’u darparu gan dîm y modiwl yn ogystal ag astudio hunangyfeiriedig ac annibynnol. 

Bydd angen i chi fod wedi ennill gradd Baglor fel isafswm derbyn. 

Bydd angen i chi hefyd feddu ar dystiolaeth o addysg flaenorol a gwaith mewn maes lle bydd y sgiliau hyn o fudd i’r claf a rôl y clinigwr. 

Bydd y modiwl yn cael ei asesu'n grynodol drwy 4 OSCE (Arholiadau Clinigol Strwythuredig Amcan), 2 yng nghanol y modiwl a 2 ar y diwedd. 

Bydd y rhain yn digwydd yng nghanolfan efelychiadau’r Brifysgol. 

Byddwch yn cael eich cefnogi gan reolwr y modiwl a thîm y modiwl i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ond bydd angen cymorth arnoch o'ch maes ymarfer i ddatblygu sgiliau penodol a addysgir o fewn y modiwl.

  • Gwasanaethau llyfrgell 
  • Gwasanaethau TG 
  • Blackboard 
  • Cymorth academaidd 
  • Canolfan efelychiadau 
  • Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Bridie Jones.

E-bost cyswllt: [email protected] 

Bydd cofrestriad ar-lein dilynol yn nes at ddyddiad cychwyn y modiwl.