Cyrsiau DPP

Hanfodion Ymarfer yn y Gymuned

Nod y modiwl 30 credyd hwn yw galluogi nyrsys i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol Ymarfer yn y Gymuned.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
A community practice nurse taking care of an elderly patient at home

Bydd y cwrs yn paratoi ymarferwyr yn y gymuned, nad oes ganddynt gymhwyster ymarferydd arbenigol mewn astudiaethau iechyd cymunedol, i weithio'n ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon mewn lleoliad cymunedol gyda chleifion unigol, cleientiaid, teuluoedd, cydweithwyr ac aelodau o dimau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol. Bydd y myfyrwyr i gyd yn cael eu cefnogi a'u mentora'n glinigol. 

Fel modiwl annibynnol, gellir ei ddefnyddio i lywio ymarfer o ran rheoli cleifion yn y gymuned, gellir defnyddio hwn hefyd i barhau i astudio ar y Rhaglen Astudiaethau Iechyd Cymunedol lawn. 

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd y myfyrwyr yn derbyn 30 credyd naill ai ar lefel 6 neu 7.  Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyflawni’r rhaglen astudiaethau iechyd cymunedol. 

Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
CA3U001 (Lefel 6) Glyn-taf 16 wythnos Medi
CA4U002 (Lefel 7) Glyn-taf 16 wythnos Medi

Bydd y rhaglen yn 50% theori a 50% ymarfer. Defnyddir amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu ac mae'r themâu'n cynnwys: 

  • Cymuned fel Cyd-destun Gofal
  • Ymarfer yn y Gymuned
  • Gofal sy'n Canolbwyntio ar y Teulu
  • Rhagolygon gyrfa
  • Rôl broffesiynol ac atebolrwydd 

  • Darlithoedd a seminarau 
  • Rydym yn gwahodd ymarferwyr arbenigol a darlithwyr prifysgol i gyflwyno sesiynau. 
  • Wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth neu'n rhithwir drwy ein system blackboard ar-lein.
  • Bydd cyfuniad o sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio. 
  • Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth a rhannu eich profiadau.

Bydd gofyn i chi astudio am 150 o oriau academaidd gan gynnwys astudio hunangyfeiriedig.  Bydd angen i chi allu dangos tystiolaeth o 150 o oriau o ymarfer clinigol.

Rhaid i ymgeiswyr gael cofrestriad lefel gyntaf gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a naill ai: 

  • weithio'n gyfan gwbl yn y gymuned ar hyn o bryd 
  • neu â rôl allgymorth yn y gymuned 
  • neu'n gweithio o fewn gofal eilaidd ar hyn o bryd ond bod swydd ar gael o fewn tîm cymunedol

Nid oes cyfweliad i ymuno â'r cwrs hwn ond sicrhewch eich bod yn bodloni’r meini prawf a restrir 

Asesu Ffurfiannol: byddwch yn cwblhau astudiaeth achos y byddwch yn seilio'ch aseiniad arni erbyn wythnos 5 y modiwl.

Asesu Crynodol: byddwch yn cwblhau aseiniad 4000 gair ar lefel BSc ac aseiniad 4500 gair ar lefel MSc ar ffurf astudiaeth achos sy'n archwilio'n fanwl, y canlyniadau damcaniaethol sy'n gysylltiedig â'r pedair thema. Bydd union gylch gwaith yr astudiaeth achos yn cael ei drafod gyda'r tiwtor personol.

Asesu Ymarfer: bydd angen datblygu a chwblhau portffolio sy'n dangos cyflawni’r pedwar deilliant dysgu clinigol.

Bydd goruchwyliwr academaidd yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn eich cynorthwyo gyda'ch gwaith academaidd. Bydd angen cefnogaeth asesydd ymarfer arnoch er mwyn i chi allu bodloni elfen glinigol yr asesiad. 

  • Gwasanaethau llyfrgell 
  • Gwasanaethau TG 
  • Goruchwyliaeth academaidd 
  • Gwasanaethau cymorth myfyrwyr gan gynnwys sgiliau astudio os oes angen 

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Michelle Panniers.

E-bost cyswllt: [email protected]