Cyrsiau DPP

Rheoli Mân Salwch a Mân Anafiadau o Fewn Ymarfer Clinigol

Nod y modiwl yw addysgu gofal cyswllt cyntaf. Sut i ymgymryd â hanes i bennu diagnosis gweithiol a chreu cynllun gofal i gleifion.

Cyrsiau DPP Gwneud Cais
Female doctor examining the throat of a female patient in a GP practice

Nod y modiwl yw addysgu gofal cyswllt cyntaf. Sut i gymryd hanes cleifion i bennu diagnosis gweithiol ac i greu cynllun gofal i gleifion. Bydd y modiwl hwn yn galluogi ymgeiswyr i fod yn barod i naill ai ddechrau sefydlu eu clinig mân salwch eu hunain neu ymuno ag un o'r prif wasanaethau y tu allan i oriau neu 111 sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau brysbennu cyswllt cyntaf ac wyneb yn wyneb. 

Os ydych chi'n gweithio yn un o'r meysydd canlynol, byddai'r cwrs hwn yn opsiwn gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ymhellach: 

  • Nyrsys Ymarfer Cyffredinol - pob gradd 
  • Ymarferwyr y Tu Allan i Oriau – pob gradd 
  • Ymarferwyr Damweiniau ac Achosion Brys – pob gradd 
  • Parafeddygon – pob gradd 
  • Fferyllwyr 
  • Nyrsys Carchardai 
  • Ffisiotherapyddion 
  • Ceiropractyddion 

Ar ôl ei gwblhau, bydd ymgeiswyr yn ennill cymhwyster Meistr L6 40 credyd mewn rheoli mân salwch mewn Gofal Sylfaenol. Dim ond fel modiwl ar ei ben ei hun y gellir gwneud y modiwl hwn. 

Cod Modiwl Campws Hyd Dyddiad Cychwyn
CA3D009 Glyn-taf 12 wythnos Hydref

Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i sefydlu gwasanaeth mân salwch a rheoli gwybodaeth protocolau gofal penodol. Bydd yn rhoi sgiliau archwilio clinigol pediatrig ac oedolion i chi a sgiliau rholi ffarmacoleg a meddyginiaethau therapiwtig. 

Mân salwch cyffredin yn gysylltiedig â’r canlynol: 

  • Anadlol 
  • Dermatoleg 
  • Gastro berfeddol 
  • Iechyd Menywod 
  • Clefydau cyffredin plentyndod 
  • Mân anafiadau  
  • Cyhyrysgerbydol 
  • Cyfraith a moeseg 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol: 

  • Tiwtorialau  
  • Seminarau 
  • Gwaith grŵp 
  • Astudiaeth hunangyfeiriedig 
  • Sgiliau Cymryd Hanes a modelau ymgynghori 
  • Sgiliau clinigol sydd eu hangen i gynnal archwiliad cyfannol o gleifion a diagnosis gwahaniaethol o ystod o fân gyflyrau
  • Ffarmacoleg glinigol a defnydd therapiwtig o feddyginiaethau sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau

Bydd angen i chi neilltuo o leiaf 3-5 awr yr wythnos i'r cwrs ar ben presenoldeb 10yb -5yh bob wythnos. 

I wneud cais ar gyfer y cwrs hwn bydd angen i chi ddangos: 

  • Y gallwch ysgrifennu ar L6 
  • Eich bod yn gweithio mewn ymarfer cymunedol/cyswllt cyntaf am o leiaf 16 awr yr wythnos 
  • Bod gennych Fentor Meddygol /Asesydd Ymarfer gallwch weithio ochr yn ochr ag ef/hi am 3 awr o leiaf yr wythnos 
  • Bod gennych asesydd ymarfer / Ymarferydd Nyrsio Uwch  

Bydd darllen y Llawlyfr Mân Salwch gan Johnson cyn y cwrs yn fanteisiol er mwyn cadarnhau gwybodaeth am fân salwch cyn dechrau’r y cwrs. Bydd cysgodi eich Mentor Meddygol/ Asesydd Ymarfer Nyrsio Uwch wrth eu gwaith yn cynnal clinigau mân salwch neu ymgymryd â sgiliau archwilio corfforol hefyd yn eich helpu gyda'r cwrs hwn. 

Mae'r aseiniad crynodol yn cynnwys x10 senario gosodedig fydd yn dangos gallu i: 

  • Drafod a gwerthuso sylfaen dystiolaeth y sgiliau sydd eu hangen i asesu cleifion ag amrywiaeth o broblemau heb ddiagnosis blaenorol i arwain at ddiagnosis neu atgyfeiriad. 
  • Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o faterion ffarmacolegol sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau, a gwirio lefel y dystiolaeth i gefnogi’r trafod. 

Bydd y Deilliannau Dysgu Clinigol crynodol yn cael eu harddangos drwy gwblhau 5 llyfr gwaith mewn ymarfer clinigol gyda'ch asesydd ymarfer. 

  • Asesu, cynllunio, darparu a gwerthuso gofal nyrsio clinigol arbenigol i ddiwallu anghenion gofal unigolion a grwpiau ym mhoblogaeth y practis. 
  • Trafod sylfaen dystiolaeth y sgiliau sydd eu hangen i asesu a datblygu opsiynau triniaeth ar gyfer claf sydd ag amrywiaeth o broblemau heb ddiagnosis blaenorol. 
  • Dangos ymwybyddiaeth o faterion ffarmacolegol sy'n berthnasol i reoli mân gyflyrau salwch. 

Bydd senario dilys ffurfiannol yn cael ei gwblhau yn y dosbarth. 

Bydd gennych diwtor personol wedi'i neilltuo i chi. 

Bydd angen i chi drefnu Mentor Meddygol ac Ymarferydd Nyrsio Uwch i'ch goruchwylio’n glinigol yn ystod y cwrs ac i’ch ardystio’n gymwys. 

  • Deunydd ar-lein Blackboard.
  • Ffolderi o ddeunyddiau ar bob pwnc am y feddyginiaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw.
  • Fideo.
  • Darlithydd Panopto i ddal i fyny os methir sesiwn.
  • Llyfrau gwaith ffarmacolegol clinigol mân salwch.
  • Ystafelloedd ymgynghori clinigol pwrpasol o'r radd flaenaf gyda'r manecwiniaid pediatrig ac oedolion arloesol diweddaraf ac i-glust ac i-lygad i ymgymryd â sgiliau clinigol.

Diddordeb mewn Ymgeisio?

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein i ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â rheolwr y modiwl, Sara Morgan, trwy e-bostio [email protected].