O dan y cynllun Credydau Dysgu Uwch, gall cyn-bersonél y lluoedd arfog gael hyd at ddwy ran o dair o radd israddedig a hyd at ddwy ran o dair o radd meistr, yn seiliedig ar yr hyfforddiant a’r wybodaeth a gawsant wrth wasanaethu. Rydym wrth law i'ch helpu i ddysgu am y cynllun ac i ddysgu beth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Mae'r cynllun yn asesu eich sgiliau a'ch profiad, a hyd yn oed yn cynnwys y rhai a gafwyd heb hyfforddiant ffurfiol. Nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau ffurfiol fel TGAU neu Safon Uwch o reidrwydd i ddechrau cwrs.
Mae'n gyfle gwych i rywun sydd wedi gwasanaethu i gael gweld pa bosibiliadau sydd ar gael iddynt yn y byd sifil a chael y blaen wrth ddod o hyd i yrfa newydd.
Darganfod mwy
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau o lefel HND i gymwysterau ôl-raddedig. Yr opsiynau poblogaidd yw rheoli prosiect, hyfforddiant ac arweinyddiaeth chwaraeon, fforensig ac addysgu.
Na, nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau. Bydd angen i chi gysylltu â ni i weld sut mae eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyfredol yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs rydych chi am ei astudio.
Mae costau cwrs yn dibynnu ar ba gwrs rydych chi wedi'i ddewis. Dangosir ffi'r cwrs yn yr adran 'ffioedd a chyllid' ar dudalen y cwrs perthnasol. Efallai y bydd cyfle hefyd i wneud cais am gyllid gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (ond mae amodau’n berthnasol) a’r holl fudd-daliadau eraill y mae gan bob myfyriwr fynediad iddynt.
Mae'r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr sydd heb fod yn rhan o amgylchedd addysg ffurfiol ers tro drwy ddarparu sesiynau sgiliau astudio ychwanegol. Gall y sesiynau hyn eich helpu gydag ysgrifennu adroddiadau, paratoi ar gyfer arholiadau, cyfeiriadau ac ysgrifennu traethodau.
Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn fframwaith a ddefnyddir i ennill credydau academaidd ar gyfer eich holl ddulliau dysgu drwy brofiad ac achrededig ac mae'r rhain wedi'u nodi ar draws ein portffolio o ddyfarniadau sydd o ddiddordeb i chi.
Rydym yn dechrau gyda ffurflen gychwynnol sy’n gofyn i chi restru’r hyn rydych wedi'i ddysgu yn y lluoedd arfog ac mae gennym staff ymroddedig i helpu gyda’r broses. Ar ôl ei llenwi, gellir defnyddio'r wybodaeth i wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol.