Rheoli Straen yn ystod Clirio
Rydym wedi casglu ynghyd ein hawgrymiadau gorau ar sut y gallwch chi drechu unrhyw straen ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch a thrwy gydol y broses Glirio.
Rheoli Straen yn ystod Clirio
Rydym wedi casglu ynghyd ein hawgrymiadau gorau ar sut y gallwch chi drechu unrhyw straen ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch a thrwy gydol y broses Glirio.
Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun
Mae miloedd o fyfyrwyr yn ennill lle yn y brifysgol drwy’r broses Glirio bob blwyddyn. Ni fyddwch chi dan anfantais er eich bod chi wedi gwneud cais i ddilyn cwrs drwy’r broses Glirio ac ni fydd hyn yn cael unrhyw effaith ar eich astudiaethau a'ch gyrfa yn y dyfodol! Byddwch chi’n dal i gael amser gwych yn y brifysgol – yn gwneud ffrindiau, yn ennill sgiliau, ac yn dechrau eich pennod nesaf.
Peidiwch edrych ar y cyfryngau cymdeithasol
Gall gweld canlyniadau arholiadau a chynlluniau pobl eraill gael effaith negyddol ac arwain at fwy o banig. Ceisiwch beidio â chymharu eich hun â phobl eraill, rydych chi’n sefyll yn eich traed eich hun ac yn dilyn eich llwybr eich hun!
Gall siarad â'ch teulu a'ch ffrindiau helpu i leddfu eich pryderon a gallan nhw eich helpu i feddwl am gynllun B.
Gofalwch amdanoch chi'ch hun
Mae clirio yn amser prysur, ac efallai y bydd yn rhaid i chi wneud llawer o benderfyniadau neu aros o gwmpas am atebion.
Ceisiwch leihau straen drwy gael noson dda o gwsg ymlaen llaw, bwyta bwydydd iach, yfed digon o ddŵr, a gwrando ar eich hoff gerddoriaeth neu fyfyrio i gadw eich hun yn bositif.
Edrychwch ar eich opsiynau
Edrychwch ar ein gwefan, neu wefannau prifysgolion eraill, i weld pa fath o gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn darganfod cyrsiau newydd doeddech chi erioed wedi'u hystyried o'r blaen!
Rydym wedi ysgrifennu rhai awgrymiadau ar sut i ddewis y cwrs iawn i chi.
Gwnewch restr o'r cyrsiau rydych chi'n eu hoffi a'r rhesymau pam rydych chi eisiau eu hastudio cyn rhoi galwad i'r Brifysgol rydych chi’n ei hystyried.
Mae ein staff cyfeillgar bob amser yn barod i helpu a gallan nhw eich tywys drwy'r broses, felly peidiwch â phoeni am gael sgwrs gyda ni.
Dewis y cwrs cywir
Os oes angen help i wneud y penderfyniad cywir, mae ein canllaw yn cynnig awgrymiadau ymarferol i'ch tywys i'r llwybr iawn i chi.