Cynigion Amgen

Popeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch sut a pham rydyn ni'n gwneud cynigion amgen.

CAEL EICH PECYN Ffoniwch ni: 03455 76 06 06
A group of students laugh while discussing work over a laptop at the Cardiff Creative campus

Cynigion Amgen

Popeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch sut a pham rydyn ni'n gwneud cynigion amgen.

Beth yw clirio? Gwnewch gais ar-lein nawr
A group of students laugh while discussing work over a laptop at the Cardiff Creative campus

Beth yw cynnig amgen? 

Mae ein cynigion amgen fel arfer ar gyfer cwrs mewn pwnc tebyg ac maent wedi'u cynllunio i'ch helpu i fynd i'r brifysgol os nad oeddech chi'n llwyddiannus o ran sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf.  

Gall cynigion amgen gynnwys cwrs PDC gwahanol, fel Tystysgrif Addysg Uwch, Blwyddyn Sylfaen, Gradd Sylfaen neu HND. 

Cymerwch olwg ar ein cyrsiau

PAM RYDYN NI'N GWNEUD CYNIGION AMGEN?

Rydym am i chi lwyddo pan fyddwch chi'n astudio yn PDC, felly os gallwn gynnig llwybr amgen i chi sy'n eich cefnogi i ennill y cymwysterau, y sgiliau neu'r hyder sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch, byddwn bob amser yn anelu at wneud y cynnig gorau posibl i'ch rhoi chi ar ben ffordd.

Sut rydyn ni'n gwneud cynigion amgen.

Rydym yn ystyried pob ymgeisydd ar sail unigol, gan ystyried diddordebau, cymwysterau ac unrhyw brofiad gwaith perthnasol. 

Bydd unrhyw gynnig a wnawn yn anelu at fod mor agos at eich dewis gwreiddiol â phosibl neu fod yn gam i chi gyrraedd yno yn y dyfodol.  


Beth sy'n digwydd ar ôl i mi dderbyn fy nghynnig?

Bydd gwybodaeth cofrestru ac ymsefydlu yn cael ei hanfon dros e-bost o ganol mis Awst ymlaen, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar sut i sefydlu eich cyfrif TG. Ar ôl i chi gofrestru, bydd eich amserlen yn lawrlwytho i'ch calendr myfyriwr ar Outlook. 

Os yw'ch cwrs wedi newid, a'ch bod eisoes wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais am gyllid ar-lein cyn gynted â phosibl gyda gwybodaeth am y cwrs newydd. 

Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i'ch cais ar-lein, ar y wefan berthnasol isod, a chwblhau proses 'Newid mewn Amgylchiadau' gyda gwybodaeth am y cwrs newydd. Bydd angen eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a'ch cyfrinair arnoch er mwyn mewngofnodi. 

Os na allwch gofio'ch cyfrinair neu’ch Rhif Cyfeirnod Cwsmer, gallwch ailosod eich manylion mewngofnodi trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar-lein:  

Sylwer, os bydd eich dewis cwrs yn newid i gwrs addysg bellach, gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ar 01443 483778 i gael arweiniad pellach ynghylch eich opsiynau cyllido. 

Os ydych wedi derbyn cynnig cwrs wedi'i newid ac eisoes wedi gwneud cais am le yn ein neuaddau preswyl, yna ni fydd eich cais yn cael ei effeithio. Fodd bynnag, dylech siarad â'r Tîm Llety am gyngor os yw'r cwrs wedi'i newid yn cael ei addysgu ar gampws gwahanol. 

Campws Pontypridd:  

Os ydych wedi gwneud cais am lety yn y neuaddau preswyl, dylech fod wedi derbyn e-bost sy'n cynnwys eich dyddiad hunan-neilltuo. Dylech allu neilltuo ystafell ar y dyddiad penodedig o hyd. Os ydych chi'n cael unrhyw anhawster gyda hyn, cysylltwch â'r Tîm Llety drwy [email protected] am gymorth.  

Campws Caerdydd:  

Gwneir ceisiadau ar gyfer ein campws yng Nghaerdydd yn uniongyrchol trwy ein partner Unite. Os ydych eisoes wedi archebu a chadarnhau eich lle, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth pellach.  

Campws Dinas Casnewydd:  

Gwneir ceisiadau am Neuaddau Casnewydd yn uniongyrchol trwy ein partner CLV. Os ydych eisoes wedi archebu a chadarnhau eich lle, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth pellach.  

Gwnewch gais am Lety:  

Os nad ydych wedi cyflwyno cais am lety i ni eto, gallwch gael gwybod am argaeledd llety hwyr. 

Rydym yn cynnig rhaglenni gradd 4 blynedd gyda Blwyddyn Sylfaen integredig mewn nifer o feysydd pwnc i ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf mynediad i fynd yn uniongyrchol i gwrs gradd ym Mhrifysgol De Cymru. 

Darganfyddwch fwy am Flynyddoedd Sylfaen

Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno dysgu seiliedig ar waith ac astudiaeth academaidd. Byddwch yn treulio o leiaf chwarter o’ch amser yn y gweithle, yn dysgu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae cymwysterau mynediad yn amrywiol a byddwn yn ystyried unrhyw sgiliau a phrofiad perthnasol sydd eisoes gennych. 

Mae'n cymryd tair blynedd i gwblhau gradd sylfaen yn rhan-amser, lle gallwch ddefnyddio eich profiad gwaith fel rhan o'ch gradd, neu dim ond dwy flynedd ar gyfer astudiaeth llawn amser. 

Ar ôl cwblhau, gallech gael y cyfle i "atodi" i radd anrhydedd. Sylwch fod rhai cyrsiau STEM yn gofyn am atodiad dwy flynedd yn hytrach nag un. 

Ar gyfer ymgeiswyr a allai fod yn aflwyddiannus ar gyfer Nyrsio, rydym yn cynnig Tystysgrif mewn Addysg Uwch mewn Iechyd a Lles Cymunedol. Mae'r rhaglen flwyddyn o hyd hon yn addysgu myfyrwyr am iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd a lles yn y gymuned. Byddai angen i chi wneud cais newydd am Nyrsio yn y dyfodol os ydych yn dymuno gwneud cais am ystyriaeth eto, ac nid oes unrhyw warant o gyfweliad.