Iechyd a Lles Cymunedol
Dysgwch fwy am feysydd pwysig iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd a lles, sy’n datblygu o hyd.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio â NiManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
4A82
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Iechyd a Lles Cymunedol yn cynnig cyfle i brofi bywyd prifysgol, datblygu sgiliau astudio cryf ar gyfer addysg uwch, a dechrau cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer gyrfaoedd iechyd.
DYLUNIWYD AR GYFER
Delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno gwella eu cymwysterau a'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i raglenni gradd eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd fel iechyd a gofal cymdeithasol, nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau perthynol eraill.
Llwybrau Gyrfa
- Gweithiwr Iechyd Cymunedol
- Nyrs
- Bydwraig
- Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Y sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Cynllunio prosiectau a chyfathrebu
- Datrys problemau’n greadigol
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o iechyd a lles, agweddau cyfreithiol a moesegol sy'n llywodraethu'r ffordd rydym yn gweithio ym maes iechyd, a dealltwriaeth o iechyd a chlefydau dynol.
- Datblygiad Proffesiynol 1
- Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch
- Ymchwilio i Iechyd a Lles
- Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi
- Iechyd a Chlefydau Dynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, gweithgareddau gwaith grŵp a sesiynau ymarferol.
Bydd myfyrwyr yn cael tua 12 awr yr wythnos o gyswllt yn yr ystafell ddosbarth gyda disgwyliad y bydd myfyrwyr yn gwneud tua'r un faint o astudio unigol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Mae’r asesu ar gyfer y cwrs yn amrywio gydag ystod eang o asesiadau yn cynnwys Traethawd, prawf Amlddewis, Arholiad (un yn unig), Cyflwyniad, Cyflwyniad Poster, Canolfan Asesu, Tasg Gwaith Grŵp.
Staff addysgu
- Paul Griffiths, Arweinydd y Cwrs
- Owain Jones
- Katie Wiergowski
- Tanya Phillips
- Teresa Filiptoni
- Ghazala Begum
- Tania Davies
Mae gennym hefyd gysylltiadau da â chyflogwyr ac rydym yn dod â siaradwyr gwadd i mewn yn rheolaidd i siarad am weithio yn eu sefydliadau ac amlygu rolau gwaith cyflogedig, profiad gwaith a gwirfoddoli posibl sydd ar gael i fyfyrwyr.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CC
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a C yn y Safon Uwch
- BTEC: Diploma BTEC: Teilyngdod Teilyngdod
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 64 pwynt tariff UCAS
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel arfer yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.