Wedi cael cynnig drwy Glirio?
Ydych chi wedi cael cynnig drwy Glirio? Dyma bopeth sydd angen i chi ei wneud nesaf.
Wedi cael cynnig gennym ni? Dyma beth i'w wneud nesaf
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Hyb UCAS.
Os gallwn wneud cynnig i chi, byddwn yn ei gadarnhau drwy e-bost. Os ydych chi eisoes yn system UCAS, yna bydd angen i chi fewngofnodi i Hyb UCAS ac ychwanegu PDC fel dewis Clirio gan ddefnyddio Cod Sefydliad y Brifysgol (W01) a Chod y Cwrs fel y dangosir yn eich cynnig ar e-bost.
Gyda chynnig gan brifysgol arall?
Oes gennych gynnig Cadarn Diamod gan brifysgol arall? Peidiwch â phoeni. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw hunan-ryddhau drwy ddefnyddio'r botwm 'gwrthod eich lle' ar eich cais.
Prosesu eich cais
Unwaith y cewch eich cyfeirio at Brifysgol De Cymru ar eich Hyb UCAS, byddwn yn prosesu eich cais cyn gynted â phosibl. Yna bydd UCAS yn anfon e-bost atoch yn eich rhybuddio am y newid hwn ar eich Hyb.
Ar ôl derbyn eich lle
Os ydych chi wedi derbyn lle yn gadarn ar gwrs llawn amser yn PDC, cadwch lygad am e-bost i wneud cais am lety. Bydd yr e-bost yn cynnwys enw defnyddiwr a chyfrinair a dolen i'n porth Llety. Os nad ydych wedi derbyn hwn neu os hoffech siarad ag un o'n Tîm Gwasanaethau Llety, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwn mewn cysylltiad i roi dyddiad neilltuo ystafell i chi, sef pryd y byddwch chi'n gallu mewngofnodi a chwblhau eich dewis ystafell ar gyfer mis Medi.
Ar ôl derbyn eich lle i astudio yn PDC, mae’n bosib yr hoffech wneud cais am gyllid myfyrwyr. Mae'n cymryd o leiaf chwe wythnos i brosesu eich cais, ond mae'r asesiad cychwynnol yn caniatáu ichi gael rhywfaint o arian mor agos at ddechrau eich cwrs â phosibl. Os oes unrhyw newidiadau i'ch cais oherwydd y broses Glirio, bydd angen i chi ddweud wrth eich darparwr cyllid myfyrwyr i gyfyngu ar unrhyw oedi wrth dderbyn eich arian. Cysylltwch â'ch darparwr cyllid myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
PARATOI AR GYFER BYWYD MYFYRWYR!
Rydym wedi llunio llawer o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd nesaf ar ein tudalennau Cychwyn Arni gan gynnwys cofrestru, sut i gael mynediad at eich amserlenni, Wythnos y Glas, digwyddiadau croeso, a llawer mwy.
Cychwyn Arni