Diwrnod Agored Clirio

Dewch i un o’n Diwrnod Agored Clirio, lle gallwn eich cefnogi i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eich dyfodol.

  • 04:00 pm to 06:00 pm

  • Iau 13 Awst

Neilltuwch eich lle ar diwrnod agored
USW open day visitors smiling as they interact with staff.

Dewch i un o’n Diwrnod Agored Clirio, lle gallwn eich cefnogi i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer eich dyfodol.

Mae mynychu Diwrnod Agored Clirio yn rhoi’r cyfle perffaith i chi archwilio popeth sydd gan PDC i’w gynnig a sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen i wneud y penderfyniad cywir am eich camau nesaf.  

Mae’n gyfle i siarad gyda ni am unrhyw beth y gallech fod angen gwybod cyn cymuno a ni ym mis Medi, ac fe allwn hyd yn oed eich helpu gyda’ch cais neu dderbyn eich cynnig ar y diwrnod! 

Trosolwg o'ch diwrnod:

Gweithgaredd Disgrifiad
Cofrestru Cyrhaeddwch i gofrestru a derbyniwch groeso cynnes gan PDC gyda lluniaeth am ddim a rhai picau ar y maen traddodiadol i'w mwynhau.
Cwrdd ag academyddion Cael sgwrs un i un gydag aelod o staff academaidd o'ch pwnc dewisol. Gofynnwch unrhyw gwestiynau o gynnwys y cwrs i gyfleoedd lleoliadau.
Sesiynau galw heibio gyda thimau cymorth Dysgwch am yr holl ffyrdd y gallwn eich cefnogi yn PDC. Byddwch yn gallu dod ag unrhyw gwestiynau at ein timau llety a chyllid a bydd ein tîm allgymorth Ysgolion a Cholegau yno hefyd i'ch helpu i wneud eich cais, derbyn eich cynnig neu unrhyw gwestiynau eraill am fywyd prifysgol.
Clywch gan ein Llysgenhadon Myfyrwyr Peidiwch â chymryd yr holl wybodaeth oddi wrthym ni yn unig - sgwrsiwch â'r bobl sydd wedi bod yn eich sefyllfa chi. Gofynnwch unrhyw gwestiynau iddyn nhw i gael cipolwg gonest ar fywyd yn PDC.
Archwiliwch ein campysau a'n llety Ewch ar deithiau tywys o amgylch y campws a'r llety i weld ble gallech chi fod yn byw ac yn dysgu ym mis Medi.

 

Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored

Mae cofrestru ar gyfer Diwrnod Agored yn hanfodol, a gallwch archebu eich lle ar-lein. Dim ond cofrestru eich hun sydd angen i chi ei wneud; nid oes angen i chi archebu tocynnau i'ch gwesteion. Byddwch yn derbyn cod QR drwy e-bost cyn y digwyddiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw hwn yn ddiogel fel y gallwn eich cofrestru ar y diwrnod!

Sut i gyrraedd y digwyddiad

Cynhelir y digwyddiad hwn ar draws ein holl gampysau sy'n hawdd eu cyrraedd mewn car neu drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau i bob campws ar ein tudalenau lleoliadau.

Cymorth gyda chostau teithio

Gallwch gael cymorth gyda chost mynychu digwyddiadau yn PDC. Edrychwch ar ein tudalennau gwe Bwrsariaeth Teithio am fwy o wybodaeth.  

Teithio Rhith

Os na allwch ymweld â ni’n bersonol yn ystod Clirio, paid â phoeni. Gallwch wneud taith rithwir o gysur eich cartref, gan archwilio popeth sydd gan PDC i’w gynnig, ar unrhyw adeg sy’n addas i chi.

Mwy o fanylion am y digwyddiad


Digwyddiadau cysylltiedif