Eisiau ymweld â ni? Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!

Bwrsariaeth Teithio PDC

Cymorth gyda chostau teithio pan fyddwch chi'n ymweld â Phrifysgol De Cymru.

Diwrnodau Agored
A train travelling on train tracks.

Gwyddom y gall teithio i ddigwyddiadau fod yn ddrud - yn enwedig os ydych chi'n teithio o bellter. Gall ein Bwrsariaeth Teithio eich cefnogi gyda'ch costau teithio, gan eich helpu i brofi bywyd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Beth gewch chi

Gall y fwrsariaeth helpu gyda theithio i unrhyw un o'n digwyddiadau ar y campws fel Diwrnodau Agored, Nosweithiau Agored, Cyfweliadau, Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr neu Deithiau Campws, ac mae'n cynnwys teithio ar drên, bws, awyren neu fferi gan ddefnyddio'r opsiwn mwyaf fforddiadwy.

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys ar gyfer y Fwrsariaeth Teithio:

  • Rhaid i chi fod yn mynychu digwyddiad ar gyfer eich gradd israddedig neu ôl-raddedig gyntaf
  • Rhaid i chi fod yn gymwys i dderbyn cyllid myfyrwyr gan un o gyrff ariannu'r DU neu Ynysoedd y Sianel
    • Cyllid Myfyrwyr Cymru
    • Cyllid Myfyrwyr Lloegr
    • Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon
    • Asiantaeth Gwobrau Myfyrwyr yr Alban
    • Cyllid Myfyrwyr Jersey
    • Cyllid Myfyrwyr Guernsey ac Alderney
    • Cyllid Myfyrwyr Ynys Manaw
  • Rhaid i chi fod wedi archebu a mynychu Diwrnod Agored Prifysgol De Cymru, Diwrnod Cyfweliadau, neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr
  • Hawliwch unwaith yn unig ar gyfer pob digwyddiad rydych chi'n mynychu

Sut i wneud cais

  1. Gwiriwch y telerau ac amodau llawn
  2. Archebwch a mynychwch eich digwyddiad
  3. Llenwch y Ffurflen Hawlio Bwrsariaeth Teithio

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am fanylion eich banc, a bydd taliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad banc yn y DU.

Byddwn yn dyfarnu ar sail y cyntaf i'r felin, yn amodol ar argaeledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fwrsariaeth teithio neu os oes angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â [email protected]

GWNEWCH GAIS AM FWRSARIAETH TEITHIO PDC

Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf i wneud cais am Fwrsariaeth Teithio PDC, llenwch y ffurflen isod.

Ffurflen Hawlio Bwrsariaeth Teithio

Telerau ac Amodau

I wneud cais am y fwrsariaeth, mae'n rhaid i chi:

  • Fod yn gwneud cais am eich gradd israddedig gyntaf neu radd ôl-raddedig gyntaf.
  • Bod yn gymwys i gael cyllid gan un o ddarparwyr cyllid y DU neu Ynysoedd y Sianel.
  • Dim ond unwaith y gallwch hawlio ar gyfer pob digwyddiad rydych chi'n mynychu.
  • Bod wedi neilltuo lle a mynychu Diwrnod Agored, Diwrnod Cyfweliad neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr ym Mhrifysgol De Cymru.

  • Gallwch wneud cais am y fwrsariaeth ar unrhyw adeg; fodd bynnag, bydd dyfarniadau fel arfer yn cael eu gwneud ar ôl presenoldeb yn y digwyddiad.
  • Rhaid i chi gofrestru trwy sganio gyda'r tîm digwyddiadau yn y digwyddiad i gofnodi eich presenoldeb.
  • Lle bo hynny'n bosibl, rydym yn gwneud dyfarniadau i dalu'r gost lawn, fodd bynnag, mae canllawiau dangosol isod.

Canllawiau Hawlio:

  • Taith gron o dan 100 milltir - Hyd at £50
  • Taith gron rhwng 101 a 199 milltir - Hyd at £100
  • Taith gron dros 200 milltir - Hyd at £150
  • Gwestai ar gyfer taith gron dros 200 milltir - hyd at £120

Sylwer: Gwneir dyfarniadau ar sail y cyntaf i'r felin, yn amodol ar argaeledd. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu'r fwrsariaeth hon yn ôl ar unrhyw adeg.

  • Gall y Brifysgol ad-dalu cost teithio ar gyfer gofalwr sy'n cynnig cymorth i ddarpar fyfyriwr anabl lle mae'n ofynnol i'r gofalwr hwyluso teithio a hygyrchedd. 

  • Gall y Brifysgol ad-dalu tuag at gost teithio tocyn trên dwyffordd dosbarth safonol rhwng eich cartref (neu'r cyfeiriad o ble gwnaethoch deithio ar y diwrnod) a'r orsaf drenau agosaf i'r campws perthnasol.
  • Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu cost teithiau dosbarth cyntaf, nac unrhyw gostau ychwanegol (e.e. taliadau cosb). Dylech gymryd y llwybr uniongyrchol mwyaf priodol a cheisio archebu ymlaen llaw i sicrhau'r pris mwyaf ffafriol. 

  • Gall y Brifysgol ad-dalu tuag at gost tocynnau bws lleol lle mae angen taith bws i deithio i'ch gorsaf fysiau neu goetsis agosaf.
  • Gall y Brifysgol ad-dalu cost tocynnau bws neu goets rhwng eich cartref a Gorsaf Fysiau Caerdydd. 

  • Os ydych chi'n teithio mewn car, gall y Brifysgol ad-dalu ar sail milltiroedd am daith ddwyffordd rhwng eich cod post cartref a'r campws perthnasol.
  • Bydd pellterau yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r Cynlluniwr Siwrnai’r RAC.
  • Bydd y pellter ar gyfer y llwybr a argymhellir yn cael ei luosi â 35c am bob milltir i gael y swm i'w ad-dalu.
  • Gellir hawlio cost taliadau parcio hyd at uchafswm o £15.00 hefyd. 

  • Gall y Brifysgol ad-dalu tuag at gost tocynnau fferi, cwch neu awyrennau dosbarth economi (neu gyfatebol gyda chwmnïau hedfan cost isel) ar gyfer hediadau o Faes Awyr yn y DU sydd agosaf at eich cartref a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd lle mae tocyn awyren cost isel yn rhatach na'r pris bws, goets neu drên cyfatebol.
  • Gall y Brifysgol ad-dalu costau gwasanaethau bws maes awyr priodol rhwng meysydd awyr a'ch cartref a'r Brifysgol.
  • Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu cost hediadau dosbarth busnes neu ddosbarth cyntaf na thaliadau ychwanegol ar gyfer byrddio blaenoriaeth, lolfeydd maes awyr, Wi-Fi neu brydau bwyd, byrbrydau a diodydd a brynwyd yn y maes awyr neu wrth hedfan.
  • Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu cost hediadau rhyngwladol sy'n tarddu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.
  • Mae'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i fyfyrwyr yr UE (sy'n gymwys i gael statws ffioedd cartref) sy'n teithio o wlad yr UE a myfyrwyr y DU sy'n byw dramor ar hyn o bryd (gan gynnwys o fewn aelod-wladwriaeth arall yr UE) ac yn teithio i PDC ar gyfer Diwrnod Agored, Cyfweliad, neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr.
  • Trwy eithriad, efallai y byddwn yn gallu derbyn hawliad am daith rhwng maes awyr Dulyn a Chaerdydd ar yr amod bod y daith yn dechrau yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer darpar fyfyrwyr sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon a lle nad yw'n bosibl teithio o Belfast. Cysylltwch â ni am eglurhad cyn teithio. 

  • Bydd y Brifysgol ond yn ad-dalu cost llety dros nos lle na fyddai taith gron mewn un diwrnod yn bosibl.
  • Byddai hyn fel arfer ar gyfer darpar fyfyrwyr sy'n teithio o Ogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu daith gron sy’n fwy na 200 milltir.

  • Ni fyddai'r Brifysgol fel arfer yn gallu ad-dalu cost tacsi i'r Brifysgol neu rhwng gorsafoedd bysiau neu goetsis a'ch cartref neu'r Brifysgol.
  • Ni all y Brifysgol dalu'r costau ar gyfer unrhyw wariant ychwanegol fel cynhaliaeth (prydau, diodydd, ac ati).
  • Ni all y Brifysgol ad-dalu cost teithio ar gyfer unigolion ychwanegol (ac eithrio gofalwyr a nodir uchod) sy'n mynd gyda darpar fyfyrwyr fel rhieni, gwarcheidwaid neu ffrindiau.
  • Ni ellir ad-dalu unrhyw ddirwyon sy’n codi wrth yrru neu barcio. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fwrsariaeth deithio, os oes angen gwirio unrhyw ofynion cymhwysedd neu os oes angen i chi drafod eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â [email protected].  

Dysgwch fwy am opsiynau ar gyfer teithio gostyngol trwy National Express a Great Western Railway.

Mae gostyngiad teithio trên ar gael gyda Great Western Railway (GWR) i fynychwyr sy'n teithio i'n Diwrnodau Agored a'n Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr ar y campws.

Sut i ddefnyddio'r gostyngiad

Gallwch gymhwyso'r gostyngiad wrth archebu eich taith drwy wefan GWR:

  • Chwiliwch am eich taith fel arfer
  • Dewiswch “Have a Promo Code?”
  • Rhowch y côd: USWOPENDAY26

Mae'r côd gostyngiad yn ddilys o fewn 7 diwrnod i ddyddiad y digwyddiad.

Gall ymwelwyr sy'n mynychu ein digwyddiadau gael gostyngiad o 20% ar deithio gyda National Express gan ddefnyddio'r cod hyrwyddo UOSW30.

Gweler y telerau ac amodau isod am fanylion llawn.

Telerau ac Amodau

  • Gostyngiad yn ddilys i fyfyrwyr sy'n teithio i'r diwrnod agored ar 25 Hydref 2025, 22 Tachwedd 2025, 21 Ionawr 2026, 21 Mawrth 2026, 3 Mehefin 2026 a 13 Mehefin 2026. Hefyd yn ddilys ar gyfer teithio i Ddiwrnod Profiad Ymgeisydd ar 28 Chwefror 2026, 18 Ebrill 20256 a 9 Mai 2026 ym Mhrifysgol De Cymru.
  • Gellir ei adbrynu o unrhyw leoliad i Gasnewydd De Cymru neu Orsaf Fysiau Caerdydd, Gerddi Sophia.
  • Dim ond ar gyfer teithio i Ddiwrnod Agored/Diwrnod Profiad Ymgeisydd ar y dyddiadau canlynol, 24-25 Hydref 2025, 21-22 Tachwedd 2025, 20-22 Ionawr 2026, 27 Chwefror -1 Mawrth 2026, 20-22 Mawrth 2026, 17-18 Ebrill 2026, 8-10 Mai 2026, 2-4 Mehefin 2026 a 12-14 Mehefin 2026
  • Rhaid archebu 3 diwrnod ymlaen llaw.
  • Ni ellir defnyddio'r cynnig ar y cyd ag unrhyw gynnig arall gan gynnwys Coachcards.
  • Ni ellir defnyddio'r cynnig ar wasanaethau trydydd parti.
  • Darllenwch delerau ac amodau llawn National Express yma.
  • Mae'r holl docynnau yn cael eu cyhoeddi ac mae'r holl deithwyr yn cael eu cludo yn amodol ar Amodau Cyffredinol Cludo National Express.