Nawr fy mod wedi dechrau’r cwrs, fyddwn i byth yn edrych yn ôl. Mae’n rhywbeth dwi’n ei fwynhau’n fawr.
Ar ôl dechrau ei hastudiaethau mewn Gwyddor Parafeddygol mewn prifysgol arall, sylweddolodd Hollie nad dyma’r llwybr cywir iddi.
Wrth archwilio opsiynau eraill, gwnaeth ddarganfod y cwrs Ymarfer Adran Lawdriniaeth (OPD) a chysylltodd hi â ni’n uniongyrchol. O fewn diwrnod, cynigiwyd cyfweliad iddi, ac roedd hi’n teimlo fel ei bod yn cael ei chefnogi ar unwaith gan ein staff cyfeillgar.
Roedd y broses gyfan yn syml ac yn galonogol, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad a dod o hyd i gwrs sy’n berffaith i chi.
Mae ei stori yn enghraifft wych o sut y gall Clirio agor drysau newydd annisgwyl a chyffrous.
Dod o hyd i gwrs yn ClirioClywch gan Hollie
Gwneud cais drwy Glirio
Mae gwneud cais i PDC trwy Glirio yn hawdd a, rhan fwyaf o’r amser, gallwn wneud cynnig i chi ar unwaith.
Rydym wedi amlinellu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i wneud cais i astudio yn PDC y mis Medi hwn, ni waeth ar ba gam rydych chi ar eich siwrnai.
Dewis y cwrs cywir
Os oes angen help i wneud y penderfyniad cywir, mae ein canllaw yn cynnig awgrymiadau ymarferol i'ch tywys i'r llwybr iawn i chi.