Canllaw Rhieni a Gofalwyr
P’un a yw'ch plentyn yn gwneud cais am gwrs prifysgol gwahanol neu os na chawsant y graddau yr oedd yn eu disgwyl ar ddiwrnod canlyniadau, rydym yma i'w helpu i gymryd ei gamau nesaf i addysg uwch.
Beth yw Clirio a phwy sy'n gymwys?
Mae Clirio yn wasanaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig o bob oed sy'n agor ym mis Gorffennaf. Byddwn yn ystyried ceisiadau drwy'r haf hyd at ddechrau'r tymor. Bydd eich plentyn yn gymwys i fynd drwy’r broses Glirio:
- Os nad ydynt wedi gwneud cais i'r brifysgol
- Os cyflwynwyd gais UCAS i astudio ar ôl y dyddiad cau ar 30 Mehefin
- Os na chafon nhw unrhyw gynigion
- Os dderbynion gynigion nad oedd am eu derbyn
- Os nad oes lle ganyddynt ar ôl cael ei ganlyniadau
-
Os yw’ch plentyn yn mynd drwy’r broses Glirio oherwydd nad yw eu lle ar ar eu cwrs gwreiddiol wedi’i gadarnhau, mae digon o opsiynau ar eu cyfer o hyd. Ewch ati i’w annog i fynd i'n gwefan i weld yr holl gyrsiau sydd ar gael drwy’r broses Glirio fel y gallent weld beth yr hoffent ei astudio. Gallent gysylltu â ni mewn amrywiaeth o ffyrdd os bydd unrhyw gwestiynau ganddynt neu os byddent am wneud cais.
-
Dylai eich plentyn gysylltu â ni os nad ydynt wedi penderfynu gwneud cais am gwrs gwahanol. Mae gwneud cais am gwrs yn PDC drwy Glirio yn rhwydd iawn ac, os yw'ch plentyn yn gymwys, fel arfer gallwn ni wneud cynnig ar unwaith dros y ffôn. Dylai fod ganddynt restr o'u cymwysterau a'u graddau yn ogystal â'r cwrs y maent am ei astudio wrth law. Os yw eisoes yn system UCAS, dylent wneud yn siŵr bod ganddynt eu rhif adnabod UCAS personol yn barod hefyd.
-
Os na chafodd eich plentyn y graddau Safon Uwch yr oeddent yn gobeithio eu cael, peidiwch â phoeni! Efallai y gallwn ni gynnig le iddynt o hyd, a gallent wirio hyn ar eu tudalennau UCAS Hub. Fel arall, os na allwn ni gadarnhau lle iddynt ar eu cwrs gwreiddiol, byddyn ni’n dal i geisio cynnig lle iddynt ar gwrs arall. Bydd hyn yn ymddangos fel "changed course offer" ac "UCC" ar dudalen UCAS Hub. Bydd angen i'ch plentyn naill ai dderbyn neu wrthod y lle sy’n cael ei gynnig ar y cwrs newydd – os byddent yn gwrthod, byddent yn mynd yn awtomatig i’r broses Glirio.
Helpwch nhw i fod yn annibynnol
Bydd mynd i'r brifysgol yn foment allweddol i'ch plentyn yn ei arddegau, a gallai'r broses Glirio fod yn rhan fawr o hynny. Grymuswch eich person ifanc i gymryd yr awenau a gwneud penderfyniadau am eu dyfodol yn hyderus. O wneud galwadau ffôn i brifysgolion i ymchwilio i opsiynau cwrs a bwcio diwrnodau agored, anogwch nhw i wneud eu dewisiadau eu hunain ar gyfer eu dyfodol gan eu sicrhau eich bod chi yma i wrando a chynnig arweiniad os oes ei angen arnyn nhw.