Daisy ac Alan
Mae Daisy, sydd â gradd yn y gyfraith, yn dweud wrthym sut oedd ei thad, Alan, wedi ei helpu i ddewis y brifysgol iawn
Mae’r brifysgol yn werth pob ceiniog.
Mae Daisy Peskett, sydd â gradd yn y gyfraith, yn dweud wrthym sut oedd ei thad, Alan, wedi ei helpu i ddewis y brifysgol iawn.
Gwneud cais i’r brifysgol
Daisy: Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am wneud cais i’r brifysgol, ond roedden ni’n ffodus yn y coleg i gael cynghorydd gyrfaoedd penodol am awr yr wythnos, a fyddai’n helpu gyda ffurflenni UCAS a’r datganiad personol.
Alan: Roeddwn i’n meddwl bod gwneud cais am gyllid myfyrwyr ychydig yn fwy anodd. Fel rhiant sengl, mae’n rhaid i chi gyflwyno llawer o dystiolaeth a gwaith papur, felly mae angen i chi fod yn drefnus i wneud yn siŵr bod y broses yn mynd yn ddidrafferth.
Daisy: Roeddwn i’n edrych ymlaen at fod yn annibynnol, ond roeddwn i hefyd yn gwybod fy mod i eisiau bod yn gyfreithiwr, felly dyna oedd yr astudiaeth fwyaf amlwg i mi.
Daisy: Fe edryches i ar ba raddau lefel A y disgwyliwyd i mi eu cael (dwy A a B) ac fe es i ar wefan y Guardian i weld pa brifysgol fyddai’n gweddu orau i mi. Doeddwn i byth wedi bod i Gymru o’r blaen, ond fe ofynnes i fy nhad a sylweddoli mai dim ond tua awr oddi cartref ydoedd. Roedd Diwrnod Agored ym Mhrifysgol De Cymru drannoeth, felly fe benderfynon ni fynd.
Alan: Fe es i gyda Daisy i’r holl Ddiwrnodau Agored roedd hi eisiau mynd iddyn nhw, fel y gallwn i weld y llety a siarad â’r darlithwyr. Mae’n bwysig iawn bod rhieni’n gwybod bod eu merch neu eu mab yn mynd i fod yn gyfforddus ac yn hapus yn y brifysgol o’u dewis.
Daisy: Roedd Dad hefyd wedi meddwl am bethau na fyddwn i wedi meddwl amdanyn nhw, felly roedd yn beth da iddo fod yno i allu gofyn cwestiynau ar fy rhan.
Llety
Daisy: I ddechrau, roeddwn i’n meddwl fy mod i eisiau bod yn eithaf agos i Lundain i astudio, ond yna fe sylweddoles i y byddwn i’n rhy bell i ffwrdd o Dad. Rydyn ni’n agos iawn felly byddwn i’n gweld ei eisiau’n ofnadwy! Roeddwn i’n dwlu bod yn Nhrefforest gan nad yw’n tynnu’r sylw fel dinas, ond mae’n dal i fod yn gyfleus iawn i gyrraedd Caerdydd a Bryste ar gyfer siopa a’r bywyd nos.
Daisy: Roeddwn i’n byw tua awr i ffwrdd o’r brifysgol, felly roedd yn gwneud synnwyr i symud i’r neuaddau preswyl. Ond hyd yn oed os ydych chi’n byw’n agosach i’r campws, byddwn i bob amser yn awgrymu byw mewn llety myfyrwyr gan ei fod yn cynnig cymaint o fuddion. Rydych chi’n cwrdd â llawer o bobl ac mae’n eich dysgu sut i fod yn annibynnol.
Alan: Roedd yn sicr wedi helpu Daisy i ddatblygu ei chyfrifoldebau.
Daisy: Roedd gen i ffrindiau a oedd yn byw gartref drwy gydol y brifysgol, ond rwy’n credu bod yr opsiynau cyllid myfyrwyr yno am reswm, felly man a man i chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd maen nhw’n eu cynnig. Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw addysgu’ch hun, ac rwy’n credu bod y brifysgol yn werth pob ceiniog.
Cyllidebu ar gyfer y brifysgol
Daisy: Pan oeddwn i ar fin cofrestru yn y brifysgol a doedd fy menthyciad ddim wedi cyrraedd eto, fe ges i wybod am gronfa wrth gefn Prifysgol De Cymru, a oedd yn wych. Roeddwn i’n eithaf da am gyllidebu. Fe wnes i ddim gwario fy menthyciad cyfan yn y mis cyntaf, fel ‘myfyriwr’ nodweddiadol, roeddwn i’n eithaf synhwyrol gyda fy arian. Fe helpodd Dad fi gyda rhai o’r costau untro fel blaendal rhent ar gyfer rhannu tŷ myfyrwyr, neu brynu pethau ar gyfer fy nghwrs.
Alan: Roedd y gwerslyfrau ar gyfer cwrs Daisy yn gallu bod yn arbennig o ddrud, felly byddwn i’n helpu gyda phethau fel yna.
Daisy: Roedd byw ar fy mhen fy hun wedi fy helpu i dyfu a delio â phethau fy hun, oherwydd bod rhaid i chi wneud eich holl siopa, coginio, golchi, glanhau ac ati eich hun, yn amlwg. Fe wnaeth i mi werthfawrogi cymaint y mae Dad yn ei wneud drosof gartref! Mae e wastad wedi bod yn gefnogol iawn ohonof, beth bynnag rydw i eisiau ei wneud.
Gyrfaoedd yn y dyfodol
Daisy: I ddechrau, roeddwn i’n meddwl efallai byddwn i eisiau bod yn fargyfreithiwr, felly roedd astudio gradd gyffredinol yn y gyfraith wedi fy helpu i benderfynu pa faes o’r gyfraith yr oeddwn i wir eisiau ymwneud ag ef. Rhoddodd yr hyder i mi fynd ar flwyddyn i ffwrdd ar ôl fy ngradd hefyd.
Roeddwn i’n ffodus i gael darlithwyr da iawn, a esboniodd bethau i ni mewn ffordd a oedd yn gwneud synnwyr i ni, sy’n bwysig iawn yn y gy