Rhieni a Gofalwyr

BETH I'W DDYSGU CYN IDDYNT ADAEL

Sut i wneud cais Diwrnod agored
A prospective student with their parent smiling and talking to a lecturer

Gall helpu person ifanc i baratoi ar gyfer bywyd fel myfyriwr fod yn gyffrous ac yn frawychus.

Ar un llaw, mae ar fin dod yn fwy annibynnol nag erioed. Ar y llaw arall, bydd yn wynebu heriau newydd mewn amgylcheddau newydd, fel rheoli arian, cydbwyso astudio â bywyd cymdeithasol, coginio, golchi, a llawer mwy.

Isod, rydym wedi creu rhestr o bethau i’w ddysgu i’ch plentyn cyn iddo adael, i'w helpu i ymgartrefu a ffynnu gydag annibyniaeth. 

Os yw'ch plentyn yn dechrau yn y brifysgol, efallai bydd y bwyd cartref yn dod i ben. Gall dysgu sut i goginio godi ofn, ond gallwch chi helpu eich plentyn i ddechrau arni – coginio gyda reis a phasta, coginio cig neu ddewisiadau eraill yn lle cig, creu sawsiau syml gan ddefnyddio tomatos wedi’u torri a sbeisys, a hyd yn oed berwi ŵy, bydd pob un o'r rhain yn ddefnyddiol! Mae'n bwysig meithrin ei hyder fel y gall ddechrau coginio prydau hawdd, coginio swp a rhoi cynnig ar opsiynau newydd. 

Mae llyfrau coginio, Google, a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram, TikTok a Facebook i gyd yn lleoedd da i ddod o hyd i ryseitiau. Mae gan hyd yn oed y rhan fwyaf o archfarchnadoedd adrannau ar gyfer ryseitiau bob dydd ar eu gwefannau. Byddem hefyd yn argymell eich bod chi’n ysgrifennu eich ryseitiau rhad, hawdd eu gwneud, mewn llyfr fel y gall eich plentyn eu coginio nhw oddi cartref – p'un a yw’n rysáit Bolognese, ei hoff bryd tro-ffrio, neu fajitas. 

Mae'r hyn rydych chi'n ei ddysgu i'ch plentyn am olchi dillad yn dibynnu ar eich plentyn yn y pen draw – efallai y byddwch chi'n dewis dysgu eich plentyn sut i ddefnyddio capsiwlau golchi dillad dwy mewn un i wneud golchi'n haws. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi hefyd yn dewis ei ddysgu am sut i olchi ar gyllideb, a chost-effeithiolrwydd powdr golchi a chyflyrydd. 

Byddem yn argymell eich bod chi’n dangos i’ch plentyn sut i wahanu dillad yn lliwiau tebyg a sut i ddefnyddio'r peiriant, sut i ddarllen y cyfarwyddiadau ar ei ddillad, a sut i ddefnyddio cynhyrchion fel tynnwr staen a thaflenni dal lliw. 

Os yw'ch plentyn yn aros mewn neuadd breswyl, gallai fod yn werth iddo ymweld â golchdy'r campws pan fydd yn symud i mewn, fel ei fod yn gwybod ble mae'r cyfleusterau a pha gyfleusterau sydd ar gael. 

 

O basta a llaeth i bapur toiled a gel cawod, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod pa hanfodion y bydd angen iddo eu prynu'n rheolaidd a sut i flaenoriaethu ei siopa. Gwnewch yn siŵr bod gan eich plentyn ddisgwyliadau realistig wrth siopa drosto ei hun yn rheolaidd am y tro cyntaf. Mae hefyd yn amser gwych i rannu eich awgrymiadau gorau ar sut i arbed arian fel prynu cynhyrchion brand y siop dros enwau brand mawr neu brynu reis sych mewn swmp yn lle pecynnau microdon. 

Os yw’ch plentyn yn byw gydag eraill, gallai fod yn werth iddyn nhw archebu siopa gyda’i gilydd a threfnu iddo gael ei ddosbarthu i’w llety. Gall hyn weithio allan yn rhatach ac mae digon o archfarchnadoedd mawr o amgylch pob un o'r campysau. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn dibynnu ar eich plentyn a’r hyn sydd orau iddo. 

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr wrth eu bodd â bargen, boed yn chwilota am labeli melyn yn adran prisiau gostyngol yr archfarchnad neu gael pitsa am ddim. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn wedi cofrestru ar gyfer cerdyn TOTUM am £14.99 y flwyddyn neu £34.99 am dair blynedd. Mae cerdyn TOTUM, sydd wedi cael ei gyflwyno yn lle cerdyn ‘NUS Extra’, yn cynnig amrywiaeth o ddisgowntiau gwych i fyfyrwyr. 

Mae'r cerdyn, sef cerdyn swyddogol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, hefyd yn rhad ac am ddim gyda rhai cyfrifon myfyrwyr banciau. Gyda disgowntiau’n amrywio o gyn lleied â thua 5% i fyny at tua 70%, gall myfyrwyr ddod o hyd i fargeinion gyda llawer o frandiau mawr. 

Mae hefyd yn werth annog eich plentyn i gofrestru ar gyfer cardiau teyrngarwch am ddim gyda'i archfarchnadoedd lleol – fel Tesco Clubcard, Nectar Card Sainsbury's, neu ASDA rewards – er mwyn helpu i gael cynigion ac arian oddi ar rai o'i hoff eitemau. 

Materion ariannol

I lawer o fyfyrwyr, mynd oddi adref i'r brifysgol fydd y tro cyntaf y byddan nhw’n cynllunio eu gwariant eu hunain. Er y gallech chi fod mewn sefyllfa i gefnogi'ch plentyn yn ariannol, bydd angen iddo gyllidebu ar gyfer bwyd a hanfodion, rhent a chyfleustodau, ac mewn rhai achosion costau teithio yn ogystal â'r cymdeithasu hollbwysig. 

Mae'n werth eistedd i lawr gyda’ch plentyn i'w helpu i gyfrifo faint o arian y bydd ganddo, beth fydd ei wariant bob wythnos, a sut i gyllidebu ar gyfer costau dyddiol. Mae rhai myfyrwyr yn gweithio'n rhan-amser wrth iddyn nhw astudio – ewch i'n gwasanaeth gyrfaoedd i weld y cyfleoedd gwaith rhan-amser sydd ar gael. 

Mae llawer o fanciau yn cynnig adnoddau ar-lein i fyfyrwyr, felly mae'n werth cyfeirio eich plentyn i’r help mae ei fanc ei hun yn ei gynnig os bydd ei angen arno. Mae'r gwasanaeth cyngor ariannol i fyfyrwyr hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad ar gyllidebu, a gall helpu eich plentyn gydag unrhyw anawsterau ariannol drwy gydol ei astudiaethau. 

Gofyn am gymorth

Efallai y bydd angen help neu gefnogaeth ar eich plentyn ar ryw adeg yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol. Mae gennym ystod o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr o wasanaethau cwnsela a gwasanaethau iechyd i gyngor ariannol a chymorth gyrfaoedd. 

Bydd yn rhaid i’ch plentyn ofyn am help os yw’n ei chael hi'n anodd, ond mae ein Hardal Gynghori ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein i gyfeirio myfyrwyr i'r lleoedd y mae angen iddynt nhw fynd i gael y cymorth gorau posibl. 

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall gadael cartref am y tro cyntaf effeithio ar bawb yn wahanol ac, os oes angen help arno ar unrhyw adeg yn ystod ei amser gyda PDC, mae bob amser yn iawn estyn allan am help gan ein timau a fydd yn fwy na pharod i gynnig cymorth cyfrinachol a phroffesiynol. 

Cadw'n ddiogel yn y brifysgol

Cyn i'ch plentyn adael cartref, siaradwch ag ef am bwysigrwydd cadw'n ddiogel a chadw ei eitemau gwerthfawr yn ddiogel. Dywedwch wrtho am gloi ei ystafell wely yn ei neuadd breswyl pan na fydd o gwmpas i gadw gliniaduron a ffonau yn ddiogel a gwneud yn siŵr ei fod yn cloi'r drws ffrynt yn y nos. 

Mae hefyd yn werth trafod sut i gadw'n ddiogel mewn parti neu ar noson allan yn ogystal â phwysigrwydd lles a chydsyniad rhywiol. Cynigiwch awgrymiadau i’ch plentyn fel gwneud yn siŵr ei fod yn gwylio diodydd yn cael eu tywallt a pheidio â'u gadael heb neb i gadw golwg arnyn nhw, peidio â theithio adref ar ben ei hun yn hwyr yn y nos, a defnyddio condomau fel y gall gael rhyw diogel. 

Rydyn ni'n gwybod bod y sgyrsiau yma'n gallu bod yn anodd – os nad ydych chi'n siŵr, edrychwch ar y cyngor ar ein gwefan ‘Cadwch Eich Hun yn Ddiogel’ i gael awgrymiadau y gallwch chi eu rhannu a gofynnwch i'ch plentyn gofrestru ar gyfer ap ‘SafeZone’ PDC sy'n rhoi arweiniad, cyngor a chefnogaeth o ran diogelwch.