DYDDIADAU ALLWEDDOL Y MAE ANGEN I CHI EU GWYBOD
Mae llawer i’w wneud rhwng yr adeg pan fydd eich plentyn yn gwneud cais i’r brifysgol ac yn cyrraedd y campws i ddechrau ei addysg uwch. Dyma rai o’r dyddiadau allweddol i’w cofio.
Sut i ymgeisio Cysylltu â ni
Dyma’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rhan fwyaf o geisiadau i UCAS, ond gorau po gynted y bydd eich plentyn yn ymgeisio. Mae rhai agweddau ar gyllid, fel ysgoloriaethau a bwrsariaethau, yn gysylltiedig â’r dyddiad hwn hefyd.
Os bydd eich plentyn yn colli’r dyddiad cau, efallai na fydd yn rhy hwyr i wneud cais. Cysylltwch â ni i weld sut gallwn helpu.
Pan fydd eich plentyn wedi gwneud cais, bydd yn dechrau cael cynigion. Y mathau o gynigion yw Diamod, Amodol neu Aflwyddiannus. Os na fydd eich plentyn yn cael unrhyw gynigion, bydd angen iddo edrych ar UCAS Extra (gweler mis Chwefror i fis Mehefin isod).
Pan fydd eich plentyn wedi cael ei holl gynigion o leoedd prifysgol, bydd angen iddo benderfynu ar ddewis pendant, sef y cynnig y mae’n ei dderbyn fel ei ddewis cyntaf. Fe all dderbyn cynnig wrth gefn (ail ddewis) hefyd, rhag ofn na fydd yn cael y graddau sy’n angenrheidiol ar gyfer ei ddewis cyntaf.
Mae’n bwysig bod y gofynion mynediad ar gyfer ei gwrs wrth gefn yn is na’r rhai ar gyfer ei gwrs dewis pendant. Yn olaf, fe all anfon Gwrthodiad, sy’n golygu ei fod yn gwrthod y cynnig a wnaed gan brifysgol. Mae gan fyfyrwyr tan ddechrau mis Mai i ymateb i’r holl gynigion.
Nawr yw’r adeg i wneud cais am gymorth ariannol neu ysgoloriaethau. Gall myfyrwyr y Deyrnas Unedig wneud cais am gyllid myfyrwyr, er bod yr hyn sydd ar gael ychydig yn wahanol ar gyfer pob gwlad.
Os na fydd eich plentyn yn cael cynnig gan ei bum dewis UCAS, neu os bydd yn gwrthod pob un o’r cynigion a wnaed iddo, caiff gyfle i gymryd rhan yn UCAS Extra. Dyma ail gyfle i rai myfyrwyr na fu eu ceisiadau cychwynnol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gallant wneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd ar ôl yn unig.
Os nad yw’ch plentyn wedi sicrhau lle mewn prifysgol ar ôl cael ei ganlyniadau, neu os nad yw wedi cyflawni’r gofynion mynediad ar gyfer ei ddewisiadau pendant ac wrth gefn, fe all fynd trwy system o’r enw Clirio. Mae hyn yn paru myfyrwyr â lleoedd gwag mewn prifysgolion.
Os ydynt wedi gwneud yn well na’r disgwyl, ac wedi bodloni neu ragori ar amodau eu dewis pendant, gallant wneud cais am gwrs amgen trwy broses o’r enw Addasu. Edrychwch ar wefan UCAS am fanylion.
Ar ôl misoedd o ymchwilio i brifysgolion, trefnu mynd i wahanol ddigwyddiadau, arholiadau a straen, mae’n bryd iddynt fynd i’r brifysgol o’r diwedd.
P’un a fydd yn byw yn llety’r brifysgol neu’n aros gartref, gallwch barhau i gefnogi’ch plentyn wrth iddo ymgartrefu a chwblhau ei astudiaethau.