Rhieni a Gofalwyr

SUT I WNEUD CAIS

Er y bydd eich plentyn yn cael llawer o gymorth a chyngor gan ei ysgol neu goleg, mae’n bwysig eich bod chi hefyd yn gwybod beth fydd yn digwydd a phryd. Dilynwch ein cynllun gam wrth gam isod fel y gallwch helpu eich plentyn drwy’r broses.

Cysylltu â ni Neilltuo lle ar ddiwrnod agored
A student reading of her application form with a laptop resting on her knee

 1. Ymchwilio

Mae’r broses o ymchwilio i ba brifysgolion i wneud cais iddynt yn dechrau’n gynnar – tua 18 mis o flaen llaw. Fe ddylai eich plentyn fod yn mynd i ddigwyddiadau UCAS gyda’i ysgol neu goleg fel y gall gyfarfod â gwahanol brifysgolion a sgwrsio am opsiynau cyrsiau. 

Y peth nesaf i’w wneud yw cael mwy o wybodaeth am y prifysgolion y mae ganddo ddiddordeb ynddynt – edrychwch ar wefan neu brosbectws y brifysgol. Diwrnodau agored yw’r rhan bwysicaf o’r cam ymchwil – ni fyddwch yn cael syniad o le tan i chi ymweld ag ef. Pan fyddwch yno, gallwch sgwrsio â myfyrwyr presennol a staff i gael gwybod mwy. 

2. Ymgeisio

Pan fydd eich plentyn yn gwybod beth mae eisiau ei astudio a ble, bydd angen iddo wneud cais. Mae’r broses ar gyfer gwneud cais am gyrsiau israddedig amser llawn trwy UCAS – y sefydliad sy’n ymdrin â cheisiadau i brifysgolion y Deyrnas Unedig. Gwneir ceisiadau rhwng mis Medi a mis Ionawr. Prif ddyddiad cau UCAS yw 15 Ionawr, ond mae dyddiadau cau eraill yn berthnasol. Gorau po gynted y bydd yn ymgeisio.

Bydd rhaid iddo lenwi ffurflen gais, ysgrifennu datganiad personol, a gwneud cais ar-lein. Mae’r datganiad personol yn allweddol er mwyn iddo sefyll ar wahân i ymgeiswyr eraill. Darllenwch ein hawgrymiadau ynglŷn â beth i’w ysgrifennu. Bydd arno angen canolwr hefyd (athro neu athrawes fel arfer) a bydd angen talu ffi. 

3. Cynigion a Chyfweliadau

Yn dibynnu ar y cwrs a’r brifysgol, efallai y gwahoddir eich plentyn i gael cyfweliad. Gallwch gael gwybod a fydd angen cyfweliad ar ein tudalennau cyrsiau.

Pan fydd eich plentyn wedi gwneud cais, bydd yn dechrau cael cynigion. Y mathau o gynigion yw Amodol, Diamod neu Aflwyddiannus. Gweler gwefan UCAS i gael esboniad o bob un. 

4. Derbyn

Pan fydd eich plentyn wedi cael ei holl gynigion ar gyfer lleoedd prifysgol, bydd angen iddo benderfynu pa rai i’w derbyn. Fe all dderbyn dau – un dewis pendant a dewis arall wrth gefn. Fe ddylai wir eisiau mynd i’w ddewis pendant ac fe ddylai’r gofynion mynediad ar gyfer ei ddewis wrth gefn fod ychydig yn is, rhag ofn na fydd yn cael y graddau ar gyfer ei ddewis cyntaf. Yn olaf, bydd yn gwrthod cynnig, sy’n golygu y bydd yn gwrthod cynnig a wnaed gan brifysgol. Bydd ganddo tan ddechrau mis Mai i ymateb i bob cynnig.

I dderbyn ei gynnig, bydd angen iddo fewngofnodi ar UCAS Track, mynd i’r ardal ‘Fy Newisiadau’ a chlicio ar ‘Ymateb i’ch cynigion’.

5. Gwneud cais am gyllid myfyrwyr

Pan fydd eich plentyn yn gwybod beth mae eisiau ei astudio a ble, fe all ddechrau gwneud cais am gymorth ariannol neu ysgoloriaethau. Darllenwch beth sydd ar gael i’ch plentyn trwy ddewis gwlad gyferbyn. 

6. UCAS Extra

Os na fydd eich plentyn yn cael cynnig gan ei bum dewis UCAS, neu os bydd yn gwrthod pob un o’r cynigion a wnaed iddo, caiff gyfle i gymryd rhan yn UCAS Extra.  

Gwneir hyn rhwng mis Chwefror a mis Mehefin, ac mae’n ail gyfle i rai myfyrwyr na fu eu ceisiadau cychwynnol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gallant wneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd ar ôl yn unig. 

7. Diwrnod Canlyniadau a Chlirio

Yn ystod mis Awst, pan fydd eich plentyn yn cael ei ganlyniadau, os nad yw wedi sicrhau lle mewn prifysgol, neu os nad yw wedi cyflawni’r gofynion mynediad ar gyfer ei ddewisiadau pendant ac wrth gefn, fe all fynd trwy Glirio. Mae’r broses hon yn paru myfyrwyr â lleoedd gwag mewn prifysgolion. Os ydynt wedi gwneud yn well na’r disgwyl, ac wedi bodloni neu ragori ar amodau eu dewis pendant, gallant wneud cais am gwrs amgen trwy addasu. 

8. Bant â nhw...

Ar ôl yr holl drefnu, ymchwilio, arholiadau a straen, daw’r amser o’r diwedd iddynt fynd i’r brifysgol. Rydym yn gwybod bod gollwng eich plentyn a ffarwelio yn adeg bryderus – dysgwch beth fydd yn digwydd yn ystod ei wythnos gyntaf i dawelu’ch meddwl. 

Dysgwch Fwy