Rhieni a Gofalwyr

HELPU’CH PLENTYN I BARATOI AR GYFER Y BRIFYSGOL

Unwaith y bydd eich plentyn wedi cael lle yn PDC, gall ddechrau edrych ymlaen at ymuno â ni ym mis Medi.

Sut i wneud cais Diwrnod agored
USW student and his mum are sitting together at a table in the Students' Union cafe and looking at a laptop.

Rydym yn gwybod bod llawer i'w wneud pan fydd eich plentyn yn paratoi i fynd i'r brifysgol a gall fod yn anodd cofio popeth y mae angen iddo ei wneud i fod yn barod.

Rydym ar gael i'ch helpu i wybod sut i'w helpu fel y gall ddechrau ei bennod newydd yn hyderus

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu eich plentyn i baratoi ar gyfer ei dymor cyntaf:

Gwait Papur

Mae'n bwysig bod eich plentyn yn cwblhau unrhyw ofynion sy'n weddill sy'n gysylltiedig â'i gynnig. P’un a oes angen iddo ddarparu prawf o gymwysterau penodol neu gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwnewch yn siŵr ei fod wedi cwblhau unrhyw dasgau er mwyn helpu i atal oedi neu gymhlethdodau posibl wrth gofrestru. Byddwn yn anfon negeseuon atgoffa drwy e-bost gyda chyngor ar sut i fodloni unrhyw ofynion.

Bancio

Helpwch eich plentyn i ddod o hyd i'r cyfrif banc gorau i fyfyrwyr sy’n gweddu i’w anghenion. Mae'n werth cymharu gwahanol fanciau i weld pa rai sydd â’r cynigion gorau – gofynnwch iddyn nhw roi gwybodaeth i'ch plentyn am orddrafftiau, cyfrifon cynilo, a sut i reoli benthyciadau. Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn gofyn am brawf o statws myfyriwr, y gall eich plentyn ei lawrlwytho o'n porth myfyrwyr ar ôl iddo gofrestru.

Llety

Os bydd eich plentyn yn cael lle mewn neuadd breswyl, byddwn yn anfon e-bost gyda’r dyddiad a'r amser ar gyfer symud i mewn. Os bydd eich plentyn yn symud i lety preifat, efallai mai dyma'r tro cyntaf iddo fyw'n annibynnol felly rhowch gymaint o gyngor â phosibl iddo ar rannu biliau, cadw i fyny â thaliadau, a chyllidebu ar gyfer ei holl wariant. O ddillad i lestri, dyma'r amser hefyd i ddechrau helpu eich plentyn i bacio ei hanfodion cyn symud i'w gartref newydd.

 Cefnogaeth a Diogelwch

Rydym yn gwybod y gall fod yn gyfnod pryderus pan fydd eich plentyn yn gadael cartref am y tro cyntaf. Mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn flaenoriaeth, ac mae gennym fesurau ar waith fel y gallan nhw astudio a byw'n ddiogel. Gall myfyrwyr ddefnyddio ap SafeZone i ofyn am help fel cymorth cyntaf neu gymorth diogelwch. Mae gennym Ardal Gynghori hefyd, ar-lein ac ar y campws, i helpu myfyrwyr gydag amrywiaeth o broblemau gwahanol.

Trafnidiaeth a Theithio

Mae gennym bum campws mewn tri lleoliad yn ne Cymru, ond rydym yn un Brifysgol. Mae gan bob un o gampysau PDC gysylltiadau trafnidiaeth gwych felly mae'n werth cadarnhau sut y bydd eich plentyn yn cyrraedd ei gampws yn ogystal â theithio adref. Gyda threnau'n cysylltu Caerdydd, Casnewydd, a Phontypridd, mae'n werth ystyried prynu cerdyn rheilffordd er mwyn lleihau costau teithio – yn enwedig os nad oes gan eich plentyn fynediad i gerbyd.

Iechyd a Lles

Mae rhwydwaith o bobl yn PDC sy’n barod i helpu i gefnogi'ch plentyn, beth bynnag fo'r broblem. Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni ac felly mae cefnogi eu holl anghenion iechyd a lles yn bwysig iawn i ni hefyd.

O’n Tîm Iechyd PDC i’n Tîm Lles Meddyliol a Chyngor Anabledd, mae gennym ni amrywiaeth o adnoddau cymorth cyfrinachol wrth law ar gyfer eich plentyn, ar-lein ac ar y campws. Rydym yma bob amser i wrando, helpu a chynnig cyngor er mwyn gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael y profiad gorau posibl yn y brifysgol.