HELPU’CH PLENTYN I GYMRYD Y CAM NESAF
Er bod paratoi i fynd i’r brifysgol yn adeg gyffrous ym mywyd eich plentyn, rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd iawn iddo ef ac i chi hefyd.
Sut i ymgeisio Mynychu diwrnod agored
Gall symud oddi cartref fod yn frawychus. Bydd angen i’ch plentyn addasu i ddarlithiau prifysgol, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sut i ofalu amdano’i hun.
Yma ym Mhrifysgol De Cymru, rydyn ni’n gwybod bod rhieni’n ymwneud fwyfwy â cheisiadau eu plentyn.
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd gwybod sut i’w helpu – o ddewis ei brifysgol i ba gwrs i’w astudio a ble y bydd yn byw am yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae gennym ni gyngor i’ch helpu i’w baratoi ar gyfer y cam mawr nesaf yn ei fywyd – p’un a ydych chi’n nerfus am y cymorth y bydd yn ei gael, sut y bydd yn ymgartrefu, neu hyd yn oed os ydych yn ansicr pa eitemau y bydd angen iddo ddod â nhw gydag ef.
-
Mae'r brifysgol wedi newid dros y blynyddoedd, a gallai fod yn wahanol i sut rydych chi'n ei chofio. Byddwn yn eich helpu i ddeall y gwahaniaethau rhwng mynd i'r brifysgol 20 neu 30 mlynedd yn ôl a nawr.
-
Mae gollwng eich plentyn yn y brifysgol yn brofiad emosiynol i unrhyw riant. Byddwch yn pryderu a yw’n gofalu amdano’i hun ac yn gwneud ffrindiau. Dysgwch beth fydd yn digwydd yn ystod ei wythnos gyntaf.
-
Gellir cysylltu â’n Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia a’n Timau Arian Myfyrwyr cyn i’ch plant gyrraedd i astudio ym mis Medi ac i helpu gydag unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael yn ein prifysgol.
-
Mae mynd i’r brifysgol yn fuddsoddiad mawr ar gyfer y dyfodol. Fe allai eich plentyn fod yn gymwys ar gyfer grantiau, benthyciadau neu fwrsariaethau i’w helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
-
Os ydych yn pryderu am gost gweld Prifysgol De Cymru drosoch eich hun, mae’r fwrsariaeth yn talu am dreuliau rhesymol sy’n gysylltiedig ag ymweld â ni i fynychu diwrnod agored i israddedigion, cyfweliad neu ddiwrnod i ymgeiswyr.
Pam dewis Prifysgol De Cymru?
Rydyn ni yma i helpu ein myfyrwyr i fod yn fentrus ac yn annibynnol. Ni yw un o’r prifysgolion mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnig cyfleoedd a rhagolygon gwych i’n myfyrwyr.
Mae ein cysylltiadau â diwydiant a’n pwyslais ar roi profiadau byd go iawn i fyfyrwyr yn golygu bod ein graddedigion ymhlith y mwyaf cyflogadwy yn y Deyrnas Unedig. Mae cwrs ym Mhrifysgol De Cymru yn fwy na gradd yn unig. Y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, byddwn yn helpu eich plentyn i gyflawni ei botensial yn broffesiynol ac yn bersonol.
Rydyn ni’n buddsoddi’n barhaus yn ein campysau i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl ac yn ennill yr holl sgiliau y mae arnynt eu hangen.
Llety
Pan fydd eich plentyn wedi derbyn ei gynnig o le mewn prifysgol, fe all ddechrau meddwl am ble yr hoffai fyw. Byddwn yn esbonio’r opsiynau, o Neuaddau Preswyl, llety preifat neu hyd yn oed byw gartref.