Rhieni a Gofalwyr

SUT MAE’R BRIFYSGOL WEDI NEWID

Graddiodd y Rheolwr Marchnata Digidol, Rebecca Moore, ym 1994. Mae Rebecca wedi gweithio ym Mhrifysgol De Cymru am 19 mlynedd ac mae ganddi ddealltwriaeth dda o’r gwahaniaethau rhwng bywyd prifysgol yn awr a’r hyn a arferai ddigwydd ’slawer dydd.

Sut i ymgeisio Neilltuo lle ar ddiwrnod agored
A sunrise over the Ty Crawshay building in Treforest

“Fe es i i’r brifysgol ar adeg pan oedd grantiau prifysgol llawn ar gael. Fe allen ni hefyd wneud cais am fenthyciad myfyrwyr bach iawn ac roedd banciau’n rhoi gorddrafftiau’n rhwydd. Doedd dim rhaid i mi gael swydd ran-amser tra oeddwn i’n astudio, er fy mod i’n gweithio yn ystod y gwyliau. 

Doedd dim ffioedd dysgu – roedd yn teimlo fel y gallai unrhyw un fynd i’r brifysgol os oedd yn ddigon deallus a bod bywyd myfyriwr yn fywyd hawdd. Tybiwyd bod myfyrwyr fel Rik, Neil, Viv a Mike yn ‘The Young Ones.’ 

Fe hoffwn i ddweud ’mod i wedi gweithio’n galed a gwneud y mwyaf o’r holl gyfleoedd gwych a roddwyd i mi. Ond nid felly y bu, gwaetha’r modd. Mae’r sefyllfa’n wahanol heddiw, yn sicr. Mae rhan o’m swydd yn cynnwys cyfweld myfyrwyr presennol, ac rwy’ wastad yn synnu at faint o waith mae myfyrwyr yn ei wneud yma. Mae ansawdd eu gwaith yn fy syfrdanu’n aml ac mae’n wych gallu adrodd eu hanesion rhyfeddol – i weld beth maen nhw’n ei wneud. 

Mae’r myfyrwyr rwy’n cyfarfod â nhw’n benderfynol o gael swydd ar ddiwedd eu hastudiaethau ac maen nhw’n gweithio’n galed i gael profiad gwaith, lleoliadau a phrofiad o ddiwydiant. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyrsiau maes rydyn ni’n eu darparu ac yn achub ar bob cyfle a gynigiwn. 

O safbwynt cymdeithasol, pan wnaethon ni ffilmio mewn parti’r glas y llynedd, roedd pawb yn cael amser da heb fod angen (llawer o) alcohol. Mae myfyrwyr nid yn unig yn graffach yn ariannol, rwy’n credu eu bod nhw hefyd yn ymwybodol iawn o’u henw da ar-lein. Rwy’n falch iawn nad oedd cyfryngau cymdeithasol o gwmpas pan oeddwn i’n fyfyriwr.