Tom a Judith

Mae Tom, sy’n fyfyriwr, a’i fam Judith, sy’n gynghorydd myfyrwyr, yn dweud wrthym sut y penderfynodd astudio gwyddorau meddygol.

Tom and Judith

Roeddwn i wastad wedi bwriadu mynd i’r brifysgol.


Mae Tom yn astudio BSc Anrhydedd mewn Gwyddorau Meddygol yn ein Campws yng Nglyn-taf, ac mae ei fam, Judith, yn gweithio fel cynghorydd myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Fe gawson ni sgwrs gyda nhw i ofyn i Tom sut y penderfynodd astudio ei gwrs a’r rôl y mae rhieni’n ei chwarae wrth helpu eu plant i benderfynu ar brifysgol a chwrs sy’n iawn iddyn nhw.> 

Wyt ti wastad wedi eisiau mynd i’r brifysgol?

Tom: Roeddwn i wastad wedi bwriadu mynd i’r brifysgol. Fe es i i Brifysgol Reading i astudio Peirianneg Fiofeddygol i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn hoffi’r cwrs rhyw lawer. Yna, fe awgrymodd fy mam efallai byddai gennyf ddiddordeb mewn astudio Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol De Cymru. 

Sut oeddet ti wedi dewis y brifysgol iawn i ti?

Tom: Roedd y ffaith bod Prifysgol De Cymru’n lleol yn golygu y gallwn i barhau i fyw gartref, felly roedd hynny’n fonws oherwydd roeddwn i eisoes yn hoffi’r syniad o’r cwrs yn fawr. Roeddwn i wedi symud oddi cartref i fynd i Reading, felly roeddwn i’n teimlo fel petawn i eisoes wedi cael y profiad hwnnw. 

Judith: Mae Prifysgol De Cymru mewn lleoliad gwych gyda chysylltiadau trafnidiaeth da iawn, sy’n golygu bod cynifer o bobl yn gallu teithio iddi’n rhwydd, ac mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr yn wych – maen nhw wir wedi mynd allan o’u ffordd i wneud yn siŵr bod Tom wedi ymgartrefu. 

Sut oeddet ti wedi penderfynu ar y cwrs iawn i ti?

Tom: Fe ddaethon ni i Ddiwrnod Agored Clirio, oherwydd penderfynes i newid prifysgol yn ystod yr haf, ac roeddwn i’n hoffi golwg y cyfleusterau fel y labordai a’r ystafell efelychu clinigol – maen nhw’n wych. Mae gan Wyddorau Meddygol gysylltiad uniongyrchol â gradd Meddygaeth Prifysgol Caerdydd hefyd, felly mae’n galonogol gwybod bod cam nesaf rhesymegol i’m hastudiaethau. Roedd y darlithwyr yn wych ac roedd y modiwlau’n swnio’n ddiddorol iawn, felly roeddwn i’n gwybod dyna oedd y cwrs gorau i mi. Roedd mynd i’r Diwrnod Agored wedi fy argyhoeddi ’mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn. 

Judith: Oherwydd fy mod i’n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru fel cynghorydd myfyrwyr, ac yn gwybod bod Tom eisiau dilyn y llwybr Meddygaeth, fe sonies i wrtho am y cwrs Gwyddorau Meddygol rydyn ni’n ei gynnig yma. O ystyried nad oedd pethau wedi mynd cystal ag y gobeithiodd yn Reading, roedden ni fel teulu eisiau gwneud yn siŵr nad oedd yn rhuthro i wneud cwrs arall, ond roedden ni mor blês â’i brofiad yn y Diwrnod Agored. 

Faint oeddech chi fel teulu’n ei wybod am y broses ymgeisio?

Tom: Roedden ni’n gwybod ychydig amdani trwy’r ysgol, ac yn amlwg mae fy mam yn gweithio yn y Brifysgol, ond roedd y broses ychydig yn frawychus o hyd oherwydd ei bod yn benderfyniad mor fawr pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol. 

I ba raddau y dylai rhieni fod yn rhan o’r broses pan fydd eu plentyn yn gwneud cais i brifysgol?

Judith: Rwy’n credu y dylai rhieni eu cefnogi nhw trwy fynd â nhw i Ddiwrnodau Agored a mynd trwy eu cais gyda’i gilydd – mae’n gallu bod yn help mawr i gael ail bâr o lygaid ar bethau fel y datganiad personol. Ond eu dewis nhw ydyw yn y pen draw. 

Tom: Roedd mam wedi gadael i mi wneud fy newis fy hun, a’m cefnogi gyda beth bynnag roeddwn i eisiau ei wneud. 

Oes gennych chi unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy’n meddwl am fynd i’r brifysgol?

Judith: Y dyddiau hyn, mae’n rhaid i fynd i’r brifysgol fod y penderfyniad iawn ar gyfer eich cynlluniau tymor hir eich hun. Mae angen annog eich plentyn i feddwl am beth yr hoffai fod ei wneud ymhen pum mlynedd – boed hynny’n yrfa neu’n astudio pellach – ac iddo ganfod pa gwrs all roi’r rhagolygon gorau iddo. 

Tom: Byddwn i’n sicr yn argymell mynd i Ddiwrnodau Agored i gael gwybod sut beth yw prifysgol go iawn, a’ch helpu i benderfynu. Hefyd, os nad ydych chi’n gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud yn syth o’r ysgol, cymerwch eich amser i ddewis. Mae’n rhaid i chi ddewis y lle iawn a’r cwrs iawn, a dylech chi ddim ruthro i wneud hynny. 

Judith: Does dim rhaid i chi benderfynu’n syth – does dim ots os ydych chi’n 21 neu 22 oed yn dechrau yn y brifysgol, yn enwedig gan fod llawer o fyfyrwyr hŷn ym Mhrifysgol De Cymru sydd ag ychydig bach yn fwy o brofiad bywyd. 

Ydy’r brifysgol wedi dy helpu i feddwl am dy yrfa yn y dyfodol?

Tom: Ydy, rydw i eisoes wedi gwneud cais i astudio Meddygaeth ac mae fy narlithwyr wedi bod yn gymwynasgar iawn trwy roi geirdaon i mi a chefnogi fy nghais. Mae’r modiwlau amrywiol wedi agor fy llygaid i lawer o wahanol agweddau ar feddygaeth y gallwn eu hastudio, felly rwy’n hyderus y bydd gennyf ddigonedd o opsiynau ynglŷn â pha yrfa y gallwn ei dilyn yn y dyfodol.