GRADDAU GWYDDORAU MEDDYGOL
Mae ein gradd Gwyddorau Meddygol wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddod yn feddygon meddygol. Bob blwyddyn, mae deg lle ar gael ar y rhaglen meddygaeth A101 ym Mhrifysgol Caerdydd i raddedigion y cwrs hwn sydd â chymwysterau addas ac mae ein graddedigion hefyd yn gallu symud ymlaen i feddygaeth sylfaenol ar gyfer graddedigion mewn prifysgolion eraill.
Gweld Cyrsiau Neilltuwch Lle ar Diwrnod AgoredAtgyfnerthir addysgu pob maes pwnc, sy'n amrywio o anatomeg a ffisioleg i sgiliau clinigol a pholisi iechyd, trwy gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i senarios clinigol.
Pam GWYDDORAU MEDDYGOL yn PDC?
Mae ein cyrsiau yn cynnig
-
Nodwedd allweddol o’r cwrs yw’r cyfle i dreulio amser yn cael profiad clinigol go iawn mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd cymunedol, fel ward lawfeddygol ysbyty cyffredinol prysur. Byddwch yn cwblhau dau leoliad un wythnos yn y sector gofal iechyd, a bydd un ohonynt mewn lleoliad gofal aciwt.
-
Mae Dysgu ar sail Achosion yn seiliedig ar senarios sy'n dynwared sefyllfaoedd bywyd go iawn ac mae hyn yn rhan allweddol o'r ffordd y caiff ein cwrs ei gyflwyno. Rydych chi'n defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu o fodiwlau, ymarfer clinigol, ffisioleg glinigol, a ffurf a swyddogaeth ddynol i ddarparu golwg wybodus ar ddiagnosis claf. Drwy gydol y flwyddyn, mae achosion yn canolbwyntio ar un system corff dynol bob yn ail. Mae pob un yn cynnig senario unigryw ac yn cael ei gefnogi gan ddarlithoedd wedi'u teilwra.
-
Mae ein Cymdeithas Paratoi Feddygol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn amrywio o weithdai i wella sgiliau clinigol i ffug arholiadau mynediad. Mae’r Gymdeithas hefyd yn mynychu’r Cynllun Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty, a gynhelir gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr integreiddio â myfyrwyr meddygol presennol. Gallwch ddilyn y gymdeithas ar Twitter.
Cyrsiau Gwyddorau Meddygol
Mae'r cwrs gradd hwn yn sylfaen berffaith ar gyfer cyrsiau mynediad i raddedigion mewn meddygaeth. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau clinigol ochr yn ochr â gwybodaeth am theori fiofeddygol a pholisïau iechyd.
Eich Profiad Myfyrwyr
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nglyn-taf yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.