Emily Spencer

Gwnaeth PDC fy ngyrfa mewn meddygaeth yn fwy hygyrch

Gwyddorau Meddygol
emily spence, medial science student, smiling to camera wearing a red floral dress

Dydw i erioed wedi bod yn fwy diolchgar am brofiad nag ydw i wedi bod gyda fy amser yn PDC.


Dewis astudio Gwyddorau Meddygol ar ôl gweld gofal anhygoel

Mae astudio i fod yn feddyg yn benderfyniad mawr a brawychus i’w wneud gan fod yn rhaid i chi fod yn hollol frwdfrydig. Mae’n gofyn am waith caled, ymroddiad, a derbyn y bydd yn ddysgu gydol oes. Er gwaethaf hyn i gyd, roeddwn dal yn awyddus i fod yn feddyg. 

Roeddwn yn cofio’n glir y gofal a ddarparwyd i fy Nain cyn iddi farw pan roeddwn yn 13 oed a’r cyfan roeddwn i eisiau ei wneud ers hynny oedd gallu helpu teuluoedd eraill fel y gallent gael eu hanwylwyd yn ôl. Fe wnaeth yr amser a dreuliodd fy Nain mewn hosbis leol gyda thosturi rhagorol y staff ennyn diddordeb mewn gofal lliniarol i mi a dwi’n dal i ddilyn y freuddwyd honno nawr yn yr Ysgol Feddygol, gan ymgymryd ag amrywiaeth o  brosiectau mewn gofal lliniarol yn y gobaith y byddaf un diwrnod yn gallu cyflawni fy mreuddwyd o helpu pobl eraill a’u teuluoedd. 

Dwi’n ystyried y blynyddoedd a dreuliais yn PDC fel rhai o’r goreuon yn fy mywyd. Roedd y profiadau a gefais, y ffrindiau a wnes i a’r addysg a gefais i gyd yn amhrisiadwy. 

Roedd fy mhrofiad dysgu yn anhygoel – roedd y darlithwyr yn gefnogol ac roedd ymdeimlad gwych o gymrodoriaeth ymhlith fy nghymheiriaid ar y radd. Roedd y staff yn hynod o frwdfrydig ynglŷn â helpu myfyrwyr i fynd i mewn i feddygaeth ac fe wnaethant gefnogi ‘y gwannaf’ o ran ehangu mynediad i feddygaeth, achos sy’n agos at fy nghalon. Dyna’r hyn a’m denodd yn bennaf at y Gwyddorau Meddygol yn PDC yw fy mod yn gwybod y byddwn yn cael fy nghefnogi’n llawn yn fy nysgu ac yn fy awydd i ddod yn feddyg. 

Fel nifer o fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol, treuliais nifer o oriau yn y llyfrgelloedd ar gampysau Glyntaf a Threfforest. Roedd rhain yn llyfrgelloedd rhagorol ac mewn gwirionedd, mae fy ffrindiau a minnau’n dal i siarad am lyfrgell Trefforest a faint rydym yn dymuno y gallem ei defnyddio eto! Rhoddodd y labordai a ddefnyddiwyd gennym yn ein gradd gyfle rhagorol i ni gael golwg o waith labordy hefyd; mae’r profiad hwn o fudd mawr gan fod llawer o fy ffrindiau bellach yn defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd gennym yn y labordy yn eu swydd presennol! 

Mae gan fy mhrofiadau lleoliad le arbennig yn fy nghalon, ac roeddwn yn gwybod fy mod yn mynd i’r yrfa gywir. 

Roeddwn yn ddigon ffodus i ymgymryd â lleoliadau pythefnos o hyd yn ystod fy amser yn PDC mewn ysbyty cyffredinol cylch lleol; treuliais un o’r wythnosau yn cysgodi nyrsys ac un wythnos yn cysgodi meddygon. Mwynheais y ddwy wythnos yn fawr ond roeddwn i’n gwerthfawrogi’r amser a dreuliais gyda’r nyrsys gan ei fod wedi dysgu pwysigrwydd y tîm amlddisgyblaethol i mi, gwers sy’n amhrisiadwy pan fyddwch yn dechrau yn yr Ysgol Feddygol. 

Dwi’n cofio treulio un o’r boreau gyda chlaf â dementia, yn dal ei llaw ac yn cadw cwmni iddi wrth iddi gynhyrfu’n fwy ac yn fwy gan nad oedd hi’n gwybod ble roedd hi. Erbyn diwedd y bore, roedden ni’n gallu cael chwerthin a meithrin perthynas, ac er nad oedd o reidrwydd yn brofiad clinigol, roedd yn amser y byddaf yn ei gofio am byth gan ar yr adeg honno, roeddwn yn gwybod fy mod yn mynd i’r yrfa gywir; roeddwn yn gwybod mai’r cyfan roeddwn i eisiau ei wneud oedd ei helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ac felly mae’n brofiad y byddaf yn ei gario gyda mi trwy fy hyfforddiant. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

DWI ERIOED WEDI BOD YN FWY DIOLCHGAR AM BROFIAD NAG YDW I Â’M CYFNOD YN PDC.

Emily Spencer

Graddedig Gwyddorau Meddygol

Ennill gwobr fel myfyriwr ac adlewyrchu ar y cwrs 

Dyfernir Gwobr Sherman bob blwyddyn i fyfyriwr sydd wedi mynd i mewn i feddygaeth trwy ehangu mynediad. Roeddwn yn ddigon ffodus i ennill y wobr hon yn ôl yn 2018 ar ôl cael fy enwebu gan arweinydd fy nghwrs. Roeddwn wedi dioddef cyfres o ddigwyddiadau bywyd anodd a rhwystrau ac o ganlyniad, doedd gen i ddim y graddau i fynd i mewn i Feddygaeth yn uniongyrchol, sydd, wrth edrych yn ôl, yn un o’r pethau gorau sydd wedi digwydd i mi. 

Nid yn unig y mae’r wobr yn codi ymwybyddiaeth o fyfyrwyr sydd wedi mynd i mewn i feddygaeth trwy lwybr gwahanol ond hefyd pwysigrwydd hyn. Mae nifer fawr o bobl a oedd, am un rheswm neu’i gilydd, wedi gorfod dilyn Meddygaeth Mynediad i Raddedigion neu nad oeddent yn gallu mynd i mewn i unrhyw lwybr Meddygaeth, ond mae’r gwerth y byddai’r bobl hyn yn eu rhoi i feddygaeth gyda’u hamrywiaeth eang o brofiad bywyd ac empathi yn tynnu sylw at yr angen i Feddygaeth fod yn fwy hygyrch i fwy o bobl fel dewis gyrfa gan nad yw graddau Lefel A gwych bob amser yn golygu bod yn feddyg gwych. 

Dwi erioed wedi bod yn fwy diolchgar am brofiad nag ydwi â’m cyfnod yn PDC. 

Mae’r cwrs yn floc adeiladu anhygoel i ddod yn feddyg, gan roi sylfaen gadarn i chi adeiladu eich hyfforddiant arni. Dwi chwe blynedd i mewn i fy saith mlynedd o hyfforddiant i ddod yn feddyg a gallaf ddweud ei fod yn waith caled, ond ni fyddwn yn agos at fod mod hyderus a gwydn yn fy hyfforddiant pe na bawn wedi mynd trwy’r Gwyddorau Meddygol yn PDC yn gyntaf. Felly, yr unig gyngor y gallaf ei roi yw mwynhewch pob eiliad o’r cwrs hwn a trysorwch y profiadau sydd gennych yno oherwydd cyn gynted ag y byddwch yn gadael, byddwch chi eisiau mynd yn ôl!” 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Gwyddorau Meddygol?

Yn ogystal â bod yn gymhwyster gwyddonol cryf, mae ein cwrs Gwyddorau Meddygol yn cynnwys cymhwyso gwybodaeth wyddonol i senarios clinigol gan ddefnyddio efelychiad a dysgu seiliedig ar achosion.