Neuadd Fwyd Zone

Wedi’i lleoli yn adeilad Elaine Morgan yng nghampws Glyn-taf Isaf, mae neuadd fwyd Zone yn gwerthu brecwast poeth llawn ynghyd â grawnfwydydd, ffrwythau ffres, potiau granola cartref, diodydd poeth ac oer 
 
Mae cinio ar gael o 11am, sy’n cynnwys ein bar dyddiol gyda tortilla wedi'i lenwi, ynghyd â’n lluniaeth traddodiadol. 
 
Mae gennym far salad iachus i chi helpu eich hun, yn ogystal â bar tatws pob gydag amrywiol lenwadau. 
 
Mae gan Zone hefyd adran i chi fynd â brechdanau, tortilla wedi'i lenwi, baguettes, byrbrydau poeth, melysion a diodydd poeth ac oer gyda chi. 
 
Mae peiriant gwerthu bwyd a diod y tu allan i oriau arferol yma hefyd. 

Cliciwch yma am fwydlen 22-26 Mehefin.

Er ein bod yn anelu at gynnig y bwydlen fel y hysbysebir, efallai y bydd newidiadau ar adegau.

Caffi Matrix

Wedi’i leoli yn adeilad Alfred Russell Wallace yng Nglyn-taf Uchaf. 

Rydym yn gweini amrywiaeth eang o ddiodydd poeth wedi'u gwneud â llaw i'w mwynhau y tu fewn i'r caffi neu i'w fynd.

Fe welwch amrywiaeth o grystiau boreol, brechdanau, paninis a brechdanau wedi’u thostio ynghyd â photiau unigol o gawl poeth.

Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o fflapjacs, myffins a chacennau, melysion, byrbrydau a detholiad o ddiodydd medal.

Mae peiriant gwerthu bwyd a diod y tu allan i oriau arferol ar gael yn yr adeilad hwn hefyd.