Gwyddorau Meddygol
Os ydych chi am ddod yn feddyg, mae'r cwrs gradd hwn yn y gwyddorau meddygol yn fan cychwyn perffaith. Y cwrs hwn yw un o’r unig gyrsiau sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y cwrs mynediad meddygaeth i raddedigion mewn meddygaeth a gynigir gan Brifysgol Caerdydd, a byddwch chi eisoes wedi datblygu sgiliau clinigol drwy ein dull addysgu damcaniaethol ac ymarferol.
Gwneud cais drwy UCAS Gwneud cais yn uniongyrchol Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
B901
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs gradd hwn yn sylfaen berffaith ar gyfer cyrsiau mynediad i raddedigion mewn meddygaeth. Ar y cwrs byddwch yn datblygu sgiliau clinigol ochr yn ochr â gwybodaeth am theori fiofeddygol a pholisïau iechyd.
Wedi'i gynllunio ar gyfer
Ein nod yw ehangu mynediad i faes meddygaeth. Mae’r cwrs uchel ei glod hwn yn sylfaen berffaith i ddarpar feddygon a fydd yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn iddynt astudio’r cwrs mynediad mewn meddygaeth i raddedigion, neu ystyried proffesiynau clinigol eraill.
Wedi'i achredu gan
- Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
Llwybrau gyrfa
- Cwrs mynediad meddygaeth i raddedigion
- Cydymaith meddygol
- Cwrs mynediad deintyddiaeth i raddedigion
- Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr y GIG (STP)
- Astudiaethau pellach ar lefel MSc a PhD
Sgiliau a addysgir
- Cofnodi hanes meddygol
- Technegau archwilio clinigol
- Ymchwil wyddonol
- Gwaith tîm
- Llythrennedd digidol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o’r cwrs
Trosi theori yn brofiad ymarferol gydag ymagwedd gyfunol glyfar tuag at ddysgu. Byddwch yn cymhwyso gwybodaeth wyddonol i senarios clinigol, gan fanteisio ar ein ward efelychiedig a’n cyfleusterau uwch-dechnoleg ynghyd â lleoliadau helaeth i fireinio eich potensial meddygol.
Blwyddyn Un
Sgiliau a Datblygiad Proffesiynol 1
Amrywiaeth Bywyd Cellog
Geneteg ac Esblygiad
Twf a Datblygiad Dynol
Arfer Clinigol a Phroffesiynol 1
Anatomeg a Ffisioleg Dynol
Blwyddyn Dau
Anatomeg, Ffisioleg a Ffarmacoleg
Arfer Clinigol a Phroffesiynol 2
Micro-organebau a Chlefydau
Patholeg Cellol a Phrosesau Clefydau
Geneteg Foleciwlaidd Ddynol
Blwyddyn Tri
Prosiect ymchwil a datblygu gyrfa
Strwythur Dynol
Heriau Iechyd Byd-eang
Datblygiadau Moleciwlaidd Modern
Meddyginiaeth Adfywiol
Amrywiad Dynol
O’r fainc at ymyl y gwely
Yn y flwyddyn gyntaf, cewch gyflwyniad i wyddoniaeth bywyd, y dull gwyddonol ac arfer clinigol. Byddwch yn mynd ar leoliad ac yn dechrau datblygu sylfeini'r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch drwy astudio amrywiaeth o bynciau craidd.
Sgiliau a Datblygiad Proffesiynol 1
Cyflwyniad i sgiliau darllen ac ysgrifennu gwyddonol, cyfeirnodi, dadansoddi gwaith cyhoeddedig yn feirniadol, ac egwyddorion ystadegol.
Amrywiaeth Bywyd Cellog
Byddwch yn dysgu am fywyd ar y lefel gellol a sut mae gwahanol gyfansoddion cellog mewn organebau procaryotig ac ewcaryotig yn cyfrannu at eu swyddogaethau. Deall technegau labordy microbioleg sylfaenol.
Geneteg ac Esblygiad
Egwyddorion geneteg a theori esblygiad. Geneteg foleciwlaidd, gan gynnwys strwythur a threfniadaeth DNA a dyblygu DNA, etifeddiaeth a ffactorau sy'n gyrru esblygiad.
Twf a Datblygiad Dynol
Byddwch yn astudio’r patrymau twf a datblygiad dynol arferol a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y broses hon, drwy bob cam o genhedlu i heneiddio.
Arfer Clinigol a Phroffesiynol 1
Bydd myfyrwyr datblygu eu dealltwriaeth o themâu hollbwysig ym maes arfer clinigol, ac yn cael profiad o amgylchedd clinigol go iawn yn ystod lleoliad nyrsio am wythnos.
Anatomeg a Ffisioleg Dynol
Byddwch yn ‘adeiladu bod dynol’ wrth ddysgu am strwythur trefniadol y systemau organau dynol, a’u swyddogaethau.
Byddwch yn dechrau ymdrin â senarios o’r byd go iawn drwy ddysgu ar sail achosion. Byddwch yn cwrdd â Barry, ein manecwin sy'n ymateb yn union fel claf go iawn, ac yn trin pobl yn ein ward efelychiedig ar y campws. Byddwch yn datblygu eich sgiliau craidd drwy archwilio meysydd afiechydon, diagnosis a thriniaethau yn ddyfnach.
Anatomeg, Ffisioleg a Ffarmacoleg
Byddwch yn dysgu ar sail achosion sy’n canolbwyntio ar senarios clinigol go iawn, gan eich helpu i gael dealltwriaeth uwch o anatomeg a ffisioleg patholegol, ac opsiynau triniaeth.
Arfer Clinigol a Phroffesiynol 2
Mae’r modiwl hwn yn cynnwys lleoliad un wythnos, a byddwch yn datblygu sgiliau ar gyfer cofnodi hanes meddygol cleifion, ac yn dysgu technegau archwilio clinigol a sut mae timau amlddisgyblaethol yn gweithredu.
Micro-organebau a Chlefydau
Byddwch yn archwilio rhyngweithiadau buddiol a niweidiol rhwng pobl a micro-organebau, pathogenesis microbaidd ac ymatebion i heintiau, gan gynnwys gweithio'n ddiogel a sgiliau dadansoddi craidd.
Patholeg Cellol a Phrosesau Clefydau
Yn y modiwl hwn, byddwch yn ymchwilio i newidiadau patholegol mewn prosesau afiechyd ar y lefel moleciwlaidd, y lefel gellol a lefel meinweoedd, gan ddefnyddio dull ar sail achosion ac enghreifftiau clinigol.
Geneteg Foleciwlaidd Ddynol
Mae hwn yn ymdrin â geneteg foleciwlaidd a sail enetig anhwylderau etifeddol. Byddwch yn dysgu am sut mae technegau bioleg moleciwlaidd hollbwysig yn cael eu cymhwyso a'u defnyddio mewn ffordd ddamcaniaethol ac ymarferol.
Cewch gyfle i astudio modiwlau craidd mewn iechyd byd-eang, technegau ymchwil modern a meddygaeth adfywiol, a dewis meysydd dewisol megis trosi o’r fainc i ymyl y gwely neu anthropoleg. Byddwch chi’n cwblhau prosiect ymchwil copa neu’n cyflawni dyraniad celaneddol os ydych chi’n gwneud cais am le ar gwrs mynediad mewn meddygaeth i raddedigion.
Prosiect ymchwil a datblygu gyrfa
Modiwl traethawd hir. Byddwch yn cael profiad o gynllunio prosiectau a gwneud ymchwil wyddonol ac yn dysgu am foeseg, iechyd a diogelwch, trin data, a meddwl yn feirniadol.
Strwythur Dynol
Modiwl traethawd hir. Byddwch yn ymchwilio i anatomeg tri dimensiwn ac amrywiadau mewn cyflyrau normal a phatholegol. Byddwch yn cael profiad o ddyrannu celaneddol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Heriau Iechyd Byd-eang
Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio effaith anghydraddoldebau ar iechyd a llesiant. Byddwch yn astudio ffactorau biolegol, amgylcheddol, economaidd a gwleidyddol fel ffactorau sy'n ysgogi anghydraddoldebau mewn iechyd cyhoeddus.
Datblygiadau Moleciwlaidd Modern
Byddwch yn dysgu am ddatblygiadau therapiwtig a thechnolegol cyfredol a blaengar a ddatblygwyd ar gyfer arfer clinigol, diagnosis a rheoli clefydau.
Meddyginiaeth Adfywiol
Byddwch yn cymhwyso dulliau peirianneg genetig a meinwe at ddefnydd meddygol ac at ddiben darganfod cyffuriau, ac yn dysgu sut y gall dulliau newydd o wneud diagnosis a thrin reoli clefydau dynol.
Amrywiad Dynol
Byddwch yn astudio amrywiad biolegol dynol, gan gynnwys sylfeini esblygiadol. Mae’r modiwl yn ymdrin â safbwyntiau hanesyddol, gan gynnwys gwyddorau “hil” a phenderfyniaeth fiolegol, sy'n cyferbynnu â dulliau cyfoes.
O’r fainc at ymyl y gwely
Byddwch yn ystyried sut mae strategaethau a thechnolegau therapiwtig newydd yn cael eu trosi o fodelau arbrofol i gynhyrchion gwerthadwy (ymchwil drosiadol).
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Dulliau Dysgu
Mae'r cwricwlwm wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau o'r gwaelod i fyny, gan ddarparu cyfleoedd ymarferol a chlinigol i chi ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol ddofn. Cewch gyfle i wneud ymchwil annibynnol yn eich blwyddyn olaf a byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau labordy ymarferol ac astudio hunan-gyfeiriedig.
Mae dysgu ar sail achosion, sef techneg a ddefnyddir mewn llawer o ysgolion meddygol, yn cyflwyno enghreifftiau realistig o achosion ichi y gallwch gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch sgiliau chi iddynt. Cewch eich asesu mewn amrywiol ffyrdd, o arholiadau i adroddiadau labordy, a chyflwyniadau i arholiadau clinigol strwythuredig gwrthrychol.
Staff addysgu
Mae pob un o aelodau’r tîm addysgu gwyddorau meddygol yn ymchwiliwr academaidd gweithredol. Gyda’i gilydd, maent yn rhychwantu amrywiaeth o ddiddordebau.
Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr pwnc, sy'n addysgu yn eu maes arbenigol ar draws nifer o fodiwlau a chyrsiau. Rydym yn gwahodd arbenigwyr allanol i’r brifysgol i addysgu nifer o sgiliau a modiwlau arbenigol. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n dysgu gan bobl sydd â phrofiad bywyd go iawn yn y pwnc hwnnw.
Nid yn unig y mae'r tîm yn cyfrannu eu gwybodaeth a'u hangerdd at eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth, gall myfyrwyr weithio ar broblemau gwirioneddol, cyfredol gyda gwyddonwyr ymchwil gweithredol fel rhan o’u prosiect yn y flwyddyn olaf.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Wrth astudio’r cwrs BSc yn y Gwyddorau Meddygol, byddwch yn cwblhau lleoliadau proffesiynol o'r flwyddyn gyntaf, gan feithrin eich hyder i siarad â chleifion, gweithredu mewn amgylchedd clinigol a chymhwyso'ch gwybodaeth.
Cynigir amrywiaeth o leoliadau i chi, o ofal iechyd acíwt i ofal sylfaenol. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau lleoliad nyrsio dwys, gyda lleoliad meddygol yn eich ail flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o feysydd meddygaeth a gofal iechyd mewn amrywiaeth o adrannau a disgyblaethau.
Cyfleusterau
Mae gan ein campws yng Nglyn-taf amrywiaeth o gyfleusterau labordy modern, sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £15 miliwn. Mae'r rhain yn cynnwys labordy sgiliau clinigol pwrpasol sy'n cynnwys manecwinau efelychu clinigol o'r radd flaenaf ac offer cysylltiedig, labordai microbioleg Categori II ar gyfer tyfu a dadansoddi micro-organebau, a labordai dadansoddi moleciwlau ar gyfer technegau dadansoddi a dilyniannu DNA uwch. Yn ogystal â hyn, mae gennym gyfleusterau meithrin meinweoedd ar gyfer tyfu celloedd, labordai bioleg gyda modelau anatomegol amrywiol, sbesimenau, microsgopau, a labordy ceulo ar gyfer dadansoddi sut mae gwaed yn ceulo.
Pam PDC?
Pam PDC?
Mae Gwyddorau Meddygol yn PDC ar y brig yng Nghymru am ansawdd addysgu, cyfleoedd dysgu a chymorth academaidd. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 118 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBB neu ABC i gynnwys Bioleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i gynnwys Bioleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: BTEC Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Bioleg
- Mynediad i AU: Diploma Gwyddoniaeth gyda 45 credyd Lefel 3 sy'n cyfateb i 24 o ragoriaethau (18 o Wyddoniaeth) o unedau Gwyddoniaeth, 18 Teilyngdod a 3 Llwyddo. Mae cyfuniadau eraill sy'n cyfateb i 118 o bwyntiau tariff UCAS yn dderbyniol
- Gall myfyrwyr sy'n astudio BSc (Anrh) Gwyddor Fiofeddygol (gan gynnwys y Flwyddyn Sylfaen) drosglwyddo i BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol, ar yr amod eu bod yn cyflawni marc cyfartalog o 70% neu uwch yn eu blwyddyn sylfaen, heb unrhyw radd modiwl o dan 60%.
- Mae cynigion yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
Sylwch:
- Sylwch fod angen Cemeg Lefel A hefyd os ydych chi'n ystyried gwneud cais i Ysgol Feddygol Caerdydd ar ôl astudio yn PDC.
- Nid yw cymhwysterau BTEC bellach yn cael ei dderbyn gan Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.
- Nid yw Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd yn derbyn mynediad i gyrsiau Addysg Uwch mwyach.
Gofynion Ychwanegol:
Ar gyfer mynediad i'r cwrs hwn mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Fodd bynnag, os ydych am symud ymlaen i feddygaeth mynediad graddedig yn y brifysgol ar ôl cwblhau eich gradd gyda ni, byddem yn eich cynghori i wirio eu meini prawf mynediad gan y gallai'r gofyniad TGAU / IELTS fod yn uwch a byddai disgwyl i chi fodloni'r gofynion hyn waeth beth yw eich gradd neu unrhyw gymwysterau / canlyniadau lefel 3 rydych chi wedi'u cyflawni.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restrau’r Gweithlu Plant ac Oedolion a Gwahardd Plant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Mae'r ffi hon yn cynnwys £40 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post, a'r ffi gweinyddu ar-lein.
Cost: £55.42
Bydd rhai Meddygon Teulu yn rhoi brechiad Hepatitis B yn rhad ac am ddim, er y gallai fferyllfa leol godi arnoch chi ee.
Cost: £120
Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £ 13. Sylwch fod yn rhaid ymuno â'r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn eich tystysgrif DBS well.
Cost: £13
Lleoliad mewn ysbyty GIG lleol. Disgwylir i fyfyrwyr dalu eu costau teithio eu hunain yn ôl ac ymlaen i'r lleoliad. Bydd cost hyn wrth gwrs yn amrywio ac mae rhai myfyrwyr hefyd wedi talu am lety yn agos at eu gweithle trwy gydol eu lleoliad.
Cost: Amrywiol
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.