Ffioedd a Chyllid
Mae gormodedd o wybodaeth ar gael am ffioedd a chyllid, felly rydyn ni wedi llunio’r trosolwg syml hwn.
Neilltuo lle ar ddiwrnod agored Sut i ymgeisio
Mae ffioedd cyrsiau a chostau ychwanegol wedi’u rhestru ar ein tudalennau cyrsiau unigol.
Mae’r llywodraeth yn darparu benthyciadau i helpu myfyrwyr y Deyrnas Unedig â chost astudio. Mae’r gyfradd llog ar gyfer y benthyciadau hyn yn gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Manwerthu a does dim angen i chi eu had-dalu nes byddwch wedi gadael y brifysgol.
Mae’r ad-daliadau mewn rhandaliadau misol sy’n gysylltiedig â faint rydych yn ei ennill. Mae dau fath o fenthyciad myfyrwyr: benthyciad ffi dysgu a benthyciad cynhaliaeth.
Ewch i studentloancompany.co.uk.
Does dim arian gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr i dalu ffioedd dysgu cyn iddynt astudio. Os felly, gallwch wneud cais am fenthyciad ffi dysgu. Os byddwch yn gymwys, bydd gennych yr hawl i’r benthyciad hwn ni waeth beth fo incwm eich cartref. Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn talu’r arian hwn i’r Brifysgol yn uniongyrchol.
Byddwch yn dechrau ad-dalu’ch benthyciad ffi dysgu o’r mis Ebrill ar ôl i chi adael y brifysgol, ar yr amod eich bod yn ennill o leiaf £25,000 y flwyddyn. * Os bydd eich incwm yn gostwng islaw’r lefel hon, bydd eich ad-daliadau’n cael eu hatal dros dro. Os byddwch yn gweithio yn y Deyrnas Unedig ac yn cael eich talu gan gyflogwr, bydd ad-daliadau benthyciad yn cael eu cymryd o’ch cyflog yn awtomatig.
Mae trefniadau gwahanol ar gyfer pobl sy’n hunangyflogedig neu’n gweithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Mae rhagor o fanylion am ad-daliadau ar gael ar ein gwefan Arian Myfyrwyr.
* Dyma’r lefel ad-daliadau bresennol ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar ôl graddio. Gallai’r lefelau hyn fod yn wahanol i bobl sy’n gweithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig ar ôl graddio.
Mae cymorth ar gael gan y llywodraeth ar ffurf benthyciadau cynhaliaeth a grantiau eraill â phrawf modd. Mae benthyciad cynhaliaeth yn talu am eich costau byw dydd i ddydd, gan gynnwys llety, bwyd, llyfrau a theithio. Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar ble rydych yn byw a’r cymorth sydd ar gael gan eich darparwr cyllid, a bydd yr holl fyfyrwyr cymwys yn cael rhywfaint o gymorth o leiaf nad yw’n dibynnu ar brawf modd. Ewch i’n gwefan Arian Myfyrwyr i gael manylion.
Gallai grantiau ychwanegol fod ar gael i fyfyrwyr sydd â chostau ychwanegol, er enghraifft os oes gennych blant, neu anabledd. Dylech archwilio hyn ymhell cyn i chi ddechrau’ch cwrs, oherwydd bydd angen i chi wneud cais am y cymorth hwn a chael eich asesu ar ei gyfer. Gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru / Cyllid Myfyrwyr Lloegr ar gyfer manylion a phryd i ymgeisio.
Gallwch wneud cais am holl fenthyciadau a grantiau’r llywodraeth i israddedigion ar-lein. Ewch i’n gwefan Arian Myfyrwyr i gael gwybod mwy.
Mae ysgoloriaethau Prifysgol De Cymru ar gael i helpu i dalu am eich astudiaethau. Dysgwch fwy am ysgoloriaethau’r Brifysgol yma.