Joanna a Nikki

Mae’r myfyriwr y gyfraith, Joanna, a’i mam, Nikki, yn dweud wrthym pam mae’n fuddiol cael safbwynt rhiant.

Joanna and Nikki

Mae astudio’n lleol yn well i mi.


Mae Joanna, sy’n fyfyriwr y gyfraith, a’i mam, Nikki, yn credu ei bod yn fuddiol cael safbwynt rhiant wrth ddewis ble i astudio.

Dewis y cwrs a’r brifysgol iawn

Joanna: Rydw i wastad wedi eisiau mynd i’r brifysgol – dyna’r opsiwn gorau i mi, yn sicr. Doeddwn i ddim yn teimlo’n barod i fynd yn syth i weithio ar ôl lefel A, felly mae’r brifysgol yn ffordd dda o barhau â’m haddysg a chynyddu fy sgiliau cyn cael swydd. Fe edryches i ar brifysgolion lleol, oherwydd roeddwn i eisiau aros gartref i astudio. Mae llawer o’m ffrindiau wedi gwneud cais i brifysgolion ymhellach oddi cartref, ond maen nhw nawr yn sylweddoli cost llety myfyrwyr a theithio. 

Nikki: Roedd yn haws ac yn rhatach i Joanna fyw gartref, gan nad yw hi’n gyrru, ac mae’n gyfleus iddi deithio i’r Brifysgol ar y trên. 

Joanna: Fe ges i gynnig amodol i astudio’r gyfraith yn y Brifysgol. Roeddwn i wedi ystyried Gwyddorau’r Heddlu yn flaenorol, ond roeddwn i’n teimlo bod gradd yn y Gyfraith yn sail dda ar gyfer gyrfa yn y gyfraith neu’r heddlu. Fe ges i wahoddiad i ddiwrnod i ymgeiswyr lle y siarades i â’r darlithwyr yn fanwl am y cwrs. Fe helpodd fi i ddeall pa opsiynau oedd ar gael i mi ac roedd yn gyfle da i glywed sgyrsiau am gyllid myfyrwyr. 

Nikki: Fe edrychon ni ar beth oedd ar gael ym mhob un o’r prifysgolion a ddewisodd Joanna, o ran cymorth i fyfyrwyr, cyfleusterau a’r lleoliad. Mae’n ddewis personol iawn, ond rwy’n credu ei bod wir yn helpu i gael safbwynt rhiant pan fyddwch chi’n wynebu penderfyniad mor bwysig. 

Gwneud cais i’r brifysgol

Nikki: Rwy’n ffodus gan fy mod i’n gweithio yn y brifysgol ac mae fy swydd yn cynnwys delio â cheisiadau ac ymholiadau gan fyfyrwyr bob dydd. Fe alla’ i ddychmygu y gallai’r broses ymgeisio gyfan fod yn eithaf brawychus i rai rhieni os nad ydyn nhw erioed wedi cael profiad ohoni. Mae pethau’n newid o un cylch recriwtio myfyrwyr i’r nesaf, felly hyd yn oed os yw rhieni wedi bod trwyddi gyda’u plant hŷn, gallai systemau fod wedi cael eu diweddaru a gweithio ychydig yn wahanol nawr. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i rieni gefnogi eu plentyn yr holl ffordd drwy’r broses. 

Joanna: Byddwn i’n dweud ewch i gynifer o Ddiwrnodau Agored ag y gallwch, a meddyliwch yn ofalus am beth rydych chi’n chwilio amdano mewn prifysgol. Ni fyddai’r hyn sy’n gweithio i chi yn gweddu i rywun arall o reidrwydd, felly mae’n ddefnyddiol gweld sut mae’r campws yn teimlo pan fyddwch yn mynd i ymweld. 

Nikki: Ceisiwch beidio â rhuthro i wneud penderfyniad. Gallwn helpu myfyrwyr sydd wedi newid eu meddwl am ba brifysgol maen nhw eisiau mynd iddi, ond fe all achosi straen os ydyn nhw’n teimlo na wnaethon nhw’r penderfyniad iawn yn y lle cyntaf.