Lucas a Rona
Mae Lucas yn dweud wrthym sut oedd ei fam, Rona, wedi ei gefnogi trwy glirio
Doedd mynd trwy Glirio ddim wedi fy rhwystro mewn unrhyw ffordd.
Mae Lucas, sydd â gradd mewn cerddoriaeth, yn dweud wrthym sut oedd ei fam, Rona, wedi ei gefnogi pan gyflwynodd gais i’r brifysgol trwy Glirio.
Dewis cwrs a phrifysgol
Lucas: Y brifysgol oedd y cam nesaf amlwg i gyrraedd yr yrfa o’m dewis. Fe gymerodd beth amser i mi benderfynu ar gwrs, a dyna pam y gwnes i gais trwy’r broses Glirio. Rydw i eisiau gyrfa ym maes cerddoriaeth oherwydd ei bod yn cynnig cyfle i wneud gwahanol bethau, felly byddai cael gradd yn ehangu fy nghyfleoedd.
Rona: Byddwn i’n cynghori ei bod yn werth mynd i gynifer o Ddiwrnodau Agored ag y gallwch gyda’ch plentyn. Mae wir yn helpu i weld ble y bydd yn treulio ei amser a chael ymdeimlad o’r lle.
Lucas: Rydw i mewn band, felly roedd yn bwysig i mi astudio’n agos i gartref. Yn ffodus, mae’n rhwydd cyrraedd Campws Caerdydd ar y trên, ac roedd y cwrs yn gweddu’n dda i’m doniau, felly roedd yn ticio sawl blwch. Roedd yn teimlo’n naturiol ac yn gyfforddus iawn i mi fynd i’r brifysgol, yn enwedig pan es i i Gampws Caerdydd ar Ddiwrnod Agored a sylweddoli y byddwn i’n gweithio yn yr adeilad gwych yma gyda chyfleusterau arbennig.
Rona: Rwy’n falch iawn â’r dewisiadau a wnaeth Lucas, ac mae’n ffodus bod y brifysgol ar ein stepen drws.
Mynd oddi cartref
Lucas: Roeddwn i’n byw gartref yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac yn aros gyda ffrindiau llawer o’r amser a oedd yn ei gwneud yn haws cyrraedd darlithiau 9am! Roeddwn i’n teimlo ’mod i wedi cael fy nhaflu i fyd oedolion o gymharu â’r ysgol. Fe wnes i addasu’n gyflym i arddull ddysgu wahanol, ond roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus ac wedi ymdopi â phopeth yn ddidrafferth.
Gwneud cais i’r brifysgol
Rona: Doedden ni ddim yn gwybod llawer am y broses o wneud cais i’r brifysgol, yn enwedig gan fod Lucas wedi penderfynu’n hwyr ei fod eisiau gwneud cais am gwrs cerddoriaeth. Ond wedi i ni ddechrau mynd trwy Glirio, roedd y brifysgol yn gymwynasgar iawn.
Lucas: Roedden nhw’n garedig iawn ac fe ges i gyfweliad hwyr ar gyfer y cwrs hyd yn oed - doedd mynd trwy Glirio ddim wedi fy rhwystro mewn unrhyw ffordd.
Rona: Pan aeth Lucas i rannu tŷ myfyrwyr yn ei ail flwyddyn, roeddwn i’n pryderu ychydig am gost rhent. Fe siarades i â’r tîm llety ac fe ddywedon nhw wrtha i beth oedd cost tai myfyrwyr yng Nghaerdydd ar gyfartaledd, a dawelodd fy meddwl. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i rieni ymwneud â’r broses ymgeisio, ond penderfyniad y myfyriwr unigol ydyw yn y pen draw. Mae’n bwysig i rieni gefnogi eu dewisiadau, ond mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cynnig safbwynt rhiant wrth wneud dewisiadau ar gyfer eu dyfodol.
Eich gyrfa yn y dyfodol
Lucas: Mae’r Brifysgol wedi helpu fy ngyrfa, yn sicr. Er bod y diwydiant cerddoriaeth yn un anodd iawn i ymuno ag ef, mae’r cwrs wedi fy helpu i greu rhwydwaith o gysylltiadau ac edrych ar feysydd cerddoriaeth yr hoffwn weithio arnynt.
Rona: Bu’n brofiad cadarnhaol i ni fel teulu, ac rwy’n falch bod fy mhlentyn mewn prifysgol sy’n gweddu iddo.