Grace a Kirstie
Mae Grace, myfyriwr Gwyddorau’r Heddlu, yn dweud wrthym sut oedd ei mam wedi ei helpu i benderfynu ar Brifysgol
Roedd fy nheulu wir wedi fy helpu a’m cefnogi pan oeddwn i’n chwilio am gwrs.
Mae Grace, myfyriwr Gwyddorau’r Heddlu, yn dweud wrthym sut oedd ei mam, Kirstie, wedi ei helpu i benderfynu ar gwrs a gwneud cais i’r brifysgol.
Dewis cwrs a phrifysgol
Grace: Fe edryches i ar wefan UCAS a pha gyrsiau roeddwn i eisiau eu gwneud. Roedd ambell un yn agos i gartref, ond pan weles i Brifysgol De Cymru ar Ddiwrnod Agored, roeddwn i’n gwybod. Roeddwn i’n dwlu arni gymaint doeddwn i ddim eisiau edrych unman arall.
Kirstie: Mae Prifysgol De Cymru (Campws Pontypridd) mewn cymuned fach, ond gyda chysylltiadau da â’r ddinas. Mae’n teimlo’n ddiogel, ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn gadael Grace yma. Os chwiliwch chi am y pethau yna, byddwch chi ar y trywydd iawn.
Grace: Fy nghyngor i yw edrych ar ble rydych chi’n mynd a beth mae’n ei gynnig, ac edrych ar ble y byddwch chi’n byw. Roeddwn i’n gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud, ac yn gwybod y byddai’n fy helpu i gael y swydd rydw i ei heisiau. Mae’r cymorth a’r hyfforddiant yn wych, mae’n gwneud i chi deimlo’n fwy deallus ac yn barod ar gyfer gwaith.
Mynd oddi cartref
Grace: Roeddwn i ychydig yn ofnus yn ystod yr wythnosau cyntaf ac fe ges i gyfnod o deimlo’n ansicr. Roeddwn i’n byw yn y llety myfyrwyr yn Nhrefforest, Campws Pontypridd. Roedd yn amgylchedd cefnogol iawn gyda llawer o le.
Kirstie: Roeddwn i’n pryderu am Grace yn mynd i’r brifysgol oherwydd ei bod hi’n dawel a doedd hi ddim wedi gwneud unrhyw beth tebyg o’r blaen. Ond fe ddangosodd hi ei chryfder ac fe ddaeth drwyddi.
Grace: Doedd cyllidebu ddim yn rhy ffôl ’chwaith – roeddwn i’n gwybod beth oedd beth erbyn diwedd y flwyddyn.
Kirstie: Mae hi’n bod yn ddiymhongar iawn oherwydd fe wnaeth hi’n dda iawn ac ymdopi. Fe gadwodd hi at gyllideb ac roedd hi’n annibynnol iawn am y peth.
Gwneud cais i’r brifysgol
Kirstie: Fe siaradon ni am y cwrs fel teulu yn ogystal â bywyd prifysgol. Fe anoges i Grace i fynd i ffwrdd oherwydd roedd hi’n dawel iawn ac angen tyfu ei phersonoliaeth, fel y byddai hi’n barod ar gyfer yr heddlu. Mae wedi gweithio’n wych iddi, gan ei bod hi wir wedi dod allan o’i chragen.
Grace: Roedd fy nheulu wir wedi fy helpu a’m cefnogi pan oeddwn i’n chwilio am gwrs.
Kirstie: Yn bendant. Roedden ni wastad wedi’i hannog hi i gael y profiad bywyd llawn ac achub ar y cyfle a gynigiwyd.