Rhieni a Gofalwyr

WYTHNOS GYNTAF EICH PLENTYN

Byddwch yn codi’n gynnar i’w hebrwng, yn gollwng eich gafael ynddo, ac yna’n mynd adref yn meddwl tybed sut beth fydd ei brofiad yn y brifysgol. Rydyn ni’n gwybod ei bod yn adeg bryderus wrth i chi ffarwelio. Dyma syniad i chi o beth fydd yn digwydd yn ystod ei wythnos gyntaf.

Sut i ymgeisio Neilltuo lle ar ddiwrnod agored
Four students sat on steps outside the Cardiff Campus.

Mae ein rhaglen Wythnos Groeso yn cyflwyno myfyrwyr yn raddol i ochr gymdeithasol y brifysgol. Bydd y gweithgareddau’n eu cadw nhw’n brysur, yn eu helpu i wneud ffrindiau ac yn sicrhau eu bod yn cael dechrau da. Er y bydd eu gwaith academaidd yn dod gyntaf, bydd eu bywyd cymdeithasol yn y brifysgol yn rhoi atgofion a chyfeillgarwch iddyn nhw a fydd yn para oes. Mae gweithgareddau’r Wythnos Groeso’n cynnwys partïon Undeb y Myfyrwyr, gweithgareddau chwaraeon a digonedd o deithiau i’w hymgyfarwyddo â de Cymru a’u cartref newydd. 

Un o uchafbwyntiau’r Wythnos Groeso yw Ffair y Glas. Bydd llwyth o stondinau yno sy’n annog myfyrwyr i ymuno ag amryw glybiau, cymdeithasau a thimau chwaraeon y Brifysgol, a mwy. Mae’n gyfle gwych iddynt archwilio diddordebau newydd, parhau â hobïau presennol a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir.  

P’un a yw’ch plentyn wedi penderfynu byw mewn Neuaddau, tŷ a rennir neu hyd yn oed aros gartref, bydd yn gallu cael at yr un digwyddiadau a gweithgareddau â’i gyfoedion. Bydd myfyrwyr newydd sy’n dewis byw mewn Neuaddau Preswyl yn cael dyddiad symud i mewn, a byddant fel arfer yn symud i mewn yn fuan cyn yr Wythnos Groeso. 

Mae Cydlynwyr Bywyd Campws myfyrwyr wedi’u lleoli mewn neuaddau yn Nhrefforest, Liberty Bridge yng Nghaerdydd a CLV yng Nghasnewydd. Y Cydlynwyr Bywyd Campws yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw gwestiynau a allai fod gan fyfyrwyr mewn neuaddau ac maen nhw’n gweithio gyda staff i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i helpu pawb i ymgartrefu. 

Fe allech fod yn nerfus ynglŷn â sut bydd eich plentyn yn gofalu amdano’i hun – efallai mai dyma’r tro cyntaf iddo olchi ei ddillad ei hun neu orfod coginio i’w hun. Mae’r brifysgol yn caniatáu iddo fod yn annibynnol. Rhag ofn y bydd arno angen help llaw, mae gennym siopau bwyd o fewn ac o gwmpas ein campysau, mae cyfleusterau golchi dillad ar gael ac mae archfarchnadoedd yn gallu danfon nwyddau i’r campws hyd yn oed. Felly, does dim esgus i gael tecawê! 

Mae’n anochel y bydd eich plentyn yn gweld eich eisiau weithiau, ac yn hiraethu am gartref. Efallai y bydd angen iddo siarad â rhywun neu gael cyngor. Mae gennym rwydwaith cryf o gymorth ar waith i’w helpu i oresgyn unrhyw bryderon a mwynhau ei brofiad. Mae ein Hardaloedd Cyngor yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf croesawgar ar gyfer yr holl ymholiadau gan fyfyrwyr.  

Gwasanaeth cyfrinachol ydyw sy’n gweithio’n agos gyda holl Wasanaethau Cymorth y Brifysgol, gan gynnwys y Gwasanaeth Lles a’r Gaplaniaeth. Mae Undeb y Myfyrwyr yno i’n myfyrwyr hefyd. 

Ar ôl hwyl yr wythnos gyntaf, mae’r darlithiau’n dechrau. Bydd y staff yn helpu’r myfyrwyr i ymgartrefu ar eu cwrs a dod i adnabod eu cydfyfyrwyr. O ran y llwyth gwaith – mae digonedd o help llaw ar gael trwy ein llyfrgelloedd a’n gwasanaethau cymorth. 

Mae ein Gwasanaeth Lles yn cynnig cyngor a chymorth am ddim ynglŷn ag iechyd, iechyd meddwl a chwnsela i holl fyfyrwyr Prifysgol De Cymru. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn wedi cael ei frechiad Llid yr Ymennydd ACWY cyn cyrraedd a’i fod yn cofrestru gyda’r Gwasanaeth Iechyd a meddyg teulu lleol pan fydd yn cyrraedd.