LLM

Cyfreithiau

Mae Cyfreithiau LLM yn cyfuno dyfnder academaidd â dysgu ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y proffesiwn cyfreithiol a thu hwnt.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Gyda dewis astudio hyblyg, darlithwyr arbenigol, a phrofiad o’r byd go iawn, byddwch yn datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr yn y gyfraith, y llywodraeth, busnes, a’r sectorau rhyngwladol.

Wedi’i gynllunio ar gyfer

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio ym myd y gyfraith neu unigolion sy’n awyddus i adeiladu eu gwybodaeth a mynd â’u gyrfa i gyfeiriad newydd.

Llwybrau gyrfa

  • Cyfreithiwr
  • Swyddog Rheoleiddio neu Gydymffurfio
  • Swyddog Diogelu Data
  • Cynghorydd Cyfreithiol
  • Symud ymlaen i Gwrs Hyfforddi’r Bar (ar ôl cwblhau cymwysterau ychwanegol)

Sgiliau a ddysgir

  • Siarad cyhoeddus
  • Ymchwil Gyfreithiol
  • Rhwydweithio
  • Gofal cleientiaid
  • Ysgrifennu proffesiynol

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Dewiswch o ystod o fodiwlau dewisol

Gydag ystod eang o fodiwlau i ddewis, gallwch lunio’ch astudiaethau tuag at yrfaoedd yn y gyfraith, busnes, y llywodraeth, neu sectorau eraill.

Gweithio yn y clinig cyngor cyfreithiol

Cewch feithrin profiad a hyder trwy wirfoddoli yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol.

Dysgu gan weithwyr proffesiynol

Dysgwch gan arbenigwyr cyfreithiol sydd â gwybodaeth am y diwydiant a rhwydweithiau proffesiynol cryf.

Dechreuwch eich gyrfa gyda hyder

Cewch fynediad at gymorth gyrfaoedd, digwyddiadau rhwydweithio, a chysylltiadau cyflogwyr i sefyll allan yn y farchnad swyddi gyfreithiol.

Trosolwg o’r Modiwl

Fel myfyriwr LLM y Gyfraith yn PDC, rydych chi'n ymgolli mewn senarios efelychu o'r diwrnod cyntaf. Mae ein gradd yn cyfuno modiwlau penodol a modiwlau dewisol, gan roi cyfle i chi ddyfnhau eich gwybodaeth yn y meysydd sy'n bwysicaf i'ch ymarfer yn y dyfodol.

Modiwlau gorfodol
Sgiliau a Dulliau Cyfreithiol Uwch
Cyfraith Rhwymedigaethau
Traethawd hir

Modiwlau dewisol
Cyfraith Fasnachol a Gwerthiannau Nwyddau Rhyngwladol
Cyfraith Gorfforaethol a Llywodraethu
Cyfraith Seiber
Cyfraith Busnes a Chystadleuaeth Ryngwladol
Cyfraith Teulu Rhyngwladol
Cyfraith Droseddol Trawswladol
Deallusrwydd Artiffisial a'r Gyfraith
Cyfraith Eiddo Deallusol Rhyngwladol
Methodoleg Ymchwil ar gyfer y Gyfraith

*Gall modiwlau dewisol newid yn dibynnu ar ffactorau fel argaeledd staff a meintiau dosbarthiadau. I gadarnhau modiwlau dewisol sy'n cael eu hastudio yn y flwyddyn rydych chi'n ymuno â'r cwrs, cysylltwch â Hannah Menard.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac astudiaeth hunangyfeiriedig. Cyflwynir darlithoedd yn bersonol ac ar-lein, sy’n dod gyda gweithdai sy’n rhoi’r gyfraith mewn cyd-destunau byd go iawn ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau fel dadlau achos a siarad yn gyhoeddus.

Byddwch chi'n cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd - o draethodau ac adroddiadau i gyflwyniadau, posteri, a phrofion yn y dosbarth - fel y gallwch chi ddangos eich cryfderau mewn amrywiaeth o fformatau.

Yn ystod y cam traethawd hir byddwch yn cwblhau traethawd hir 15,000 o eiriau gyda chefnogaeth goruchwyliwr academaidd, a fydd yn eich galluogi i archwilio pwnc o'ch dewis yn fanwl.

Staff addysgu

Mae ein tîm addysgu yn cynnwys cyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad proffesiynol ac addysgu helaeth. Maent yn dod â mewnwelediad byd go iawn o ymarfer cyfreithiol, ynghyd ag ystod eang o sgiliau arbenigol. Rydym yn ymfalchïo yn ein polisi drws agored, gan sicrhau eich bod yn derbyn arweiniad a chefnogaeth bersonol drwy gydol eich astudiaethau, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Byddwch hefyd yn elwa o gefnogaeth ein llyfrgellydd cyfraith ymroddedig, a all eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil, ennill tystysgrifau ymchwil, a chael mynediad at lyfrau a chyfnodolion allweddol.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Gall myfyrwyr wella eu hastudiaeth trwy wirfoddoli yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol. Gan weithio o dan arweiniad cyfreithwyr ymarferol a darlithwyr profiadol, byddwch yn mynd i’r afael â materion cyfreithiol gwirioneddol y mae cleientiaid yn eu hwynebu. Mae’n gyfle gwerthfawr i ennill profiad ymarferol, meithrin sgiliau proffesiynol, a chryfhau eich CV cyn i chi raddio.

Cyfleusterau

Bydd eich dysgu yn cael ei gefnogi gan gyfleusterau astudio o’r radd flaenaf, gan gynnwys ystafell llys sydd wedi’i chyfarparu’n llawn â’r cyfleusterau fideo digidol diweddaraf, llyfrgell ymarfer cyfreithiol, ac ystafelloedd addysgu ac ymarferol pwrpasol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi roi eich gwybodaeth ar waith drwy ein Clinig Cyngor Cyfreithiol drwy ddarparu cyngor, darparu gofal i gleientiaid ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol cyfreithiol.

Ar wahân i’n cyfleusterau ar y campws, rydym yn trefnu teithiau i lefydd fel y Senedd yng Nghaerdydd a’r Goruchaf Lys yn Llundain. Mae’r profiadau hyn yn rhoi cyfle i chi weld y gyfraith ar waith, dyfnhau eich dealltwriaeth o’r system gyfreithiol, a chysylltu â gweithwyr proffesiynol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Gall graddedigion y cwrs hwn fynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithwyr drwy’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) neu symud ymlaen i gwrs hyfforddi’r Bar (ar ôl cwblhau cymwysterau ychwanegol) i ddilyn gyrfa fel bargyfreithiwr. Mae llawer hefyd wedi cael rolau mewn cwmnïau cyfreithiol rhyngwladol blaenllaw, cwmnïau cyfrifyddu mawr, a sefydliadau gwleidyddol. Mae llwybrau gyfra yn cynnwys rheoleiddio a chydymffurfiaeth, diogelu data, a swyddi cynghori cyfreithiol.

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC wrth law i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, gyda chanllawiau ar ysgrifennu eich CV, gwneud cais am swyddi, meistroli cyfweliadau, a llywio’r broses recriwtio. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai sgiliau a ffeiriau gyrfaoedd yn rheolaidd i’ch cysylltu â chyflogwyr y dyfodol a rhoi’r sgiliau i chi i symud ymlaen.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn unrhyw ddisgyblaeth, neu gymhwyster proffesiynol perthnasol fel Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol, ac eraill sy'n cynnwys rhyw elfen o'r gyfraith. 

Ar gyfer ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, gellir ystyried profiad proffesiynol perthnasol trwy’r mecanwaith Achredu Dysgu Blaenorol (APL)/Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol (APEL) (bydd rheoliadau'r Brifysgol yn berthnasol). 

Gofynion Ychwanegol:

Nodwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer cael mynediad i’r cwrs hwn, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, argymhellwn  eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio er mwyn sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.