LLM

Ymarfer Proffesiynol (ACC)

Rydym yn gwrs paratoi ACC sefydleidg sy’n ymdrin a phynciau FLK1, pynciau FLK2, cyflwyniad i SQE2 a rhywfaint o QWE ar gyfer myfyrwyr graddedig y gyfraith a’r rhai nad ydynt wedi astudio’r gyfraith.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r llwybr Ymarfer Proffesiynol LLM gyda’r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE) yn cynnig cyfle i chi baratoi ar gyfer SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2 a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn ystod y broses hon, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Wedi’i gynllunio ar gyfer

Graddedigion y gyfraith a graddedigion nad ydynt wedi astudio’r gyfraith sydd eisiau cymhwyso fel cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Byddwch yn paratoi ar gyfer eich arholiadau SQE wrth ennill sgiliau cyfreithiol ymarferol.

Llwybrau gyrfa

  • Cyfreithiwr
  • Paragyfreithiwr
  • Cynghorydd ariannol
  • Gwasanaeth Sifil
  • Heddlu

Sgiliau a addysgir

  • Cynghori cleientiaid
  • Rheoli perthynas â chleientiaid
  • Drafftio dogfennau cyfreithiol
  • Ymchwil gyfreithiol
  • Techneg arholiadau SQE

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Paratoi ar gyfer SQE 1 a 2

Datblygwch sgiliau cyfreithiol ymarferol a pharatowch ar gyfer yr arholiadau cyfreithiol sydd eu hangen i gymhwyso fel cyfreithiwr.

Dysgu sut mae’r gyfraith yn gweithio yn ymarferol

Cyfle i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol drwy achosion go iawn, profiad mewn clinigau, rhwydweithio gyda chyflogwyr a sefyllfaoedd cyfreithiol o’r byd go iawn.

Gweithio yn y clinig cyngor cyfreithiol

Ennill profiad cyfreithiol ymarferol go iawn dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwysedig yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol.

Cyfleusterau pwrpasol

Mynediad at gyfleusterau modern gan gynnwys ystafell lys, llyfrgell ymarfer cyfreithiol, a mannau addysgu ac ymarfer pwrpasol.

Trosolwg o’r Modiwl

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o'r Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) berthnasol sy’n ofynnol ar gyfer SQE1. Bydd gennych yr opsiwn i gael cyflwyniad i, dysgu am, a datblygu sgiliau cyfreithiol SQE2 megis cyfweld â chleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu, drafftio a sgiliau eiriolaeth. Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael Profiad Gwaith Cymwys (QWE) o bedair awr yr wythnos dros gyfnod o 20 wythnos, sy’n cyfateb i 0.10 cyfwerth ag amser llawn (FTE), yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol arobryn.

Modiwlau gorfodol
Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol
Sylfeini Ymarfer Cyfreithiol 
Cyfraith Droseddol mewn Ymarfer 
Datrys Anghydfodau ac Eiriolaeth
Cyfraith Busnes mewn Ymarfer 
Cyfraith Eiddo mewn Ymarfer 
Prosiect Ymchwil Ymarfer Cyfreithiol   

Modiwlau dewisol
Cyfraith Cyflogaeth mewn Ymarfer
Cyfraith Teulu ar Waith mewn Ymarfer
Clinig Cyngor Cyfreithiol (QWE) 
Uno a Chaffael mewn Ymarfer
Cleient Preifat mewn Ymarfer
Ymarfer Proffesiynol (SQE2)
Astudiaeth Gyfreithiol Annibynnol (Ymarfer Cyfreithiol)

*Gall modiwlau dewisol newid yn dibynnu ar ffactorau fel argaeledd staff a meintiau dosbarthiadau. I gadarnhau modiwlau dewisol sy'n cael eu hastudio yn y flwyddyn rydych chi'n ymuno â'r cwrs, cysylltwch ag Adam Collins.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Caiff y dysgu ei ddarparu drwy ddull dysgu cymysg, gan gyfuno darlithoedd ar-lein gyda gweithdai ar y campws ddwywaith yr wythnos i fyfyrwyr llawn amser (tua 16 awr) ac unwaith yr wythnos i fyfyrwyr rhan-amser (tua 8 awr). Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar ymarferion cyfreithiol ymarferol a senarios cyfreithiol go iawn, gyda chefnogaeth astudio a gwaith ymchwil annibynnol. Fel rhan o’r cwrs, byddwch hefyd yn cael profiad ymarferol yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol. Mae’r gwaith ymarferol hwn wedi’i ymgorffori yn eich astudiaethau ac yn ffurfio sail eich traethawd hir, gan eich galluogi i archwilio materion cyfreithiol a wynebir yn y clinig a datblygu sgiliau proffesiynol allweddol.

Asesiad

Ar gyfer y Prosiect Ymchwil Ymarfer Cyfreithiol, disgwylir i chi gynhyrchu cynnig ymchwil a naill ai traethawd hir neu bortffolio myfyriol.

Ar gyfer FLK1 a FLK2, byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ffurfiannol, a all gynnwys Cwestiynau Aml-ddewis (MCQ), arholiadau ysgrifenedig ac asesiadau sgiliau ymarferol, gan gynnwys chwarae rôl wedi’i recordio yn ein llys moesegol ac ystafelloedd cyfweld â chleientiaid. Caiff y modiwlau opsiynol eu hasesu drwy amrywiaeth o arholiadau agored a chaeedig, asesiadau o fewn terfynau amser, ac asesiadau eiriolaeth.

Yn dilyn addysgu gan PDC, gall myfyrwyr ddewis sefyll yr arholiad allanol SQE1 (gyda sesiynau ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd bob blwyddyn). Ar ôl pasio’r arholiad allanol SQE1 yn llwyddiannus, gall canlyniadau allanol y myfyrwyr gael eu cofnodi ar system PDC at ddibenion sicrhau’r credydau rhagnodedig tuag at y wobr berthnasol.

Staff addysgu

Byddwch yn cael eich addysgu a’ch cefnogi gan weithwyr proffesiynol cyfeillgar a gwybodus sy’n deall realiti ymarfer y gyfraith. Mae ein tîm addysgu yn dod â chyfoeth o brofiad diwydiannol ar draws sawl maes o’r gyfraith, gyda nifer ohonynt wedi gweithio fel cyfreithwyr ymarferol ac ymgynghorwyr cyfreithiol. Mae’r mewnwelediad ymarferol hwn yn helpu i gysylltu theori â gwaith cyfreithiol y byd go iawn, gan ddefnyddio achosion a sefyllfaoedd go iawn i ddangos sut mae’r gyfraith yn cael ei chymhwyso yn ymarferol.

Cyfleusterau

Cewch eich cefnogi gan gyfleusterau astudio o’r radd flaenaf, gan gynnwys ystafell lys sy’n llawn offer fideo digidol diweddaraf, llyfrgell ymarfer cyfreithiol, a mannau addysgu ac ymarfer pwrpasol. Mae pob gweithgaredd wedi’i seilio ar senarios dilys, ac mae’r ymchwil a’r paratoi’n cael eu cefnogi gan gyfleusterau yn ein hystafelloedd technoleg fodern. Bydd cyfleoedd hefyd i roi eich gwybodaeth ar waith drwy gyfranogi yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan ddarparu cyngor, gofalu am gleientiaid ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y maes cyfreithiol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Mae graddedigion y cwrs hwn fel arfer yn mynd ymlaen i fod yn gyfreithwyr dan hyfforddiant neu’n bargyfreithwyr. Mae’r cwrs hefyd yn eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy uchel eu gwerth sy’n agor drysau i yrfaoedd y tu hwnt i’r gyfraith, gan gynnwys swyddi fel cynghorwyr ariannol neu rolau mewn diwydiannau sy’n canolbwyntio ar gleientiaid.

Partneriaid yn y Diwydiant

Mae ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant yn golygu bod myfyrwyr yn elwa ar brofiad ymarferol a chyfleoedd rhwydweithio o’r diwrnod cyntaf. Mae cyflogwyr lleol fel Capital Law, Howells Solicitors, Watkins a Gunn, a Chyngor ar Bopeth yn cefnogi ein Clinig Cyngor Cyfreithiol yn weithredol, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â chyfreithwyr gweithredol a meithrin rhwydweithiau proffesiynol gwerthfawr. Yn ogystal, mae sgyrsiau rheolaidd gan gyflogwyr yn cynnig mewnwelediad i’r proffesiwn cyfreithiol ac yn gyfle i gysylltu’n uniongyrchol ag arbenigwyr y diwydiant.

Cefnogaeth Gyrfa

Mae ein cyfadran yn falch o’u polisi drws agored, gan gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau. Mae ein tîm i gyd yn gymwys yn y diwydiant ac yn gallu cynnig adborth, cyngor a chefnogaeth wedi’u teilwra i bob un o’n myfyrwyr i’ch helpu ar hyd eich taith.

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC hefyd wrth law i’ch cefnogi drwy gydol eich cyfnod astudio, gan gynnig arweiniad ar ysgrifennu CV, gwneud ceisiadau am swyddi, meistroli cyfweliadau a llywio’r broses recriwtio. Rydym yn cynnal gweithdai sgiliau a fforymau gyrfaoedd yn rheolaidd i’ch cysylltu â chyflogwyr y dyfodol ac i’ch arfogi â’r offer i symud ymlaen.

GOFYNION MYNEDIAD

Rhaid i fyfyrwyr ennill gradd israddedig o ddosbarth 2:2 neu uwch ac yna byddant yn cael eu rhoi naill ai i mewn i ffrwd raddedigion sydd wedi astudio'r gyfraith neu ffrwd graddedigion nad ydynt wedi astudio'r gyfraith.

  • Ar gyfer y ffrwd sydd â radd yn y gyfraith, rhaid i fyfyrwyr gael gradd LLB (Anrh), Arholiad Proffesiynol Cyffredin/Diploma Graddedig yn y Gyfraith, neu radd astudiaethau cyfun gan gynnwys y pynciau cyfraith sylfaen.  Mae myfyrwyr sydd wedi cyrraedd y lefel briodol o gymhwyster gyda'r Sefydliad Gweithredwyr Cyfreithiol hefyd yn gymwys i'w hystyried i gael eu derbyn i ffrwd graddedigion y gyfraith.

  • Ar gyfer y ffrwd sydd heb radd yn y gyfraith, rhaid i fyfyrwyr ennill gradd israddedig gyda dosbarthiad o 2:2 neu uwch mewn unrhyw bwnc.

 

  • Rhaid gwneud pob cais ar gyfer yr SQE amser llawn ar-lein trwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog yn www.lawcabs.ac.uk.
  • Gellir gwneud ceisiadau am yr SQE rhan-amser, Cam 1 a Cham 2 gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Sylwch nad yw ffi'r cwrs yn cynnwys cost yr arholiadau cymhwyster cyfreithiwr. Gallwch gael gwybod am gost yr arholiadau cymhwyster cyfreithiwr ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1: £1,888
Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2: £2,902

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

MAE’R CWRS WEDI FY MHARATOI AR GYFER SEFYLL YR ARHOLIAD SQE1 AC WEDI RHOI CYMAINT O FEWNWELEDIAD I’R BROSES O DDOD YN GYFREITHIWR.

Keihanah Joseph-Horner

Myfyriwr Ymarfer Proffesiynol LLM (SQE)

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

SUT I WNEUD CAIS

Rhaid gwneud pob cais ar gyfer yr cwrs amser llawn ar-lein trwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog yn www.lawcabs.ac.uk.

Gellir gwneud ceisiadau am yr cwrs rhan-amser, Cam 1 a Cham 2 gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.