Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr Ôl-Raddedig 2024/25

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer holl raddedigion Prifysgol De Cymru* sy’n dechrau cwrs MA, MSc, LLM, LLM, MBA neu DBA a addysgir/ar-lein*** o fis Medi 2024 ymlaen (mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n dechrau eu cwrs ym mis Ionawr/Chwefror 2025).

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
A student sat in the library working on a laptop and smiling at the camera.

Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael. 

Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch cyfrif ffioedd dysgu os ydych chi'n bodloni pob un o'r gofynion canlynol:

  • Yn cael eich ystyried gan y Brifysgol yn fyfyriwr Cartref.
  • Yn meddu ar Radd Anrhydedd **
  • Brifysgol De Cymru*
  • Wedi cofrestru a bod yn astudio cwrs amser llawn neu ran-amser cymwys/ar-lein *** rhaglen MA, MSc, LLM MBA, DBA, ar gampws Prifysgol De Cymru (Trefforest, Glyn-taf, Caerdydd, Casnewydd) yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.

*Mae hyn yn cynnwys graddedigion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru Casnewydd, Polytechnig Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

**Os gwnaethoch raddio gyda gradd Meistr integredig ar gyfer eich gradd israddedig e.e. MComp, MChiro, MEng, gyda Phrifysgol De Cymru byddech yn gymwys i gael y gostyngiad os ydych yn dilyn cwrs ôl-raddedig cymwys.

***Nid ydych yn gymwys ar gyfer y Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr Ôl-raddedig os ydych:

  • Yn cofrestru ar gyfer Diploma Ôl-raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, TAR, TAR PcET, PgCE PcET, ProfCE PcET, MRes, PhD, MPhil, Gradd Meistr trwy Ymchwil, Gradd Meistr Integredig (MChiro, MComp, Meng)
  • Yn astudio cwrs gyda phartneriaeth freiniol e.e. Learna Ltd, UNICAF a Perpetuity Training
  • Yn astudio un o'r cyrsiau ar-lein, dysgu o bell neu E-Gyflwyno canlynol:
    • Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA)
    • MBA Byd-eang (pob llwybr)
    • MSc Rheoli
    • MSc Rheoli Caffael Strategol
    • MA Ffotograffiaeth Ddogfennol
    • MSc Arwain Trawsnewid Digidol
    • MA Animeiddio
    • MSc Logisteg Rhyngwladol a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn anfoneb gan y Brifysgol sy'n rhoi manylion y ffioedd dysgu y mae'n rhaid i chi neu'ch noddwr eu talu. Os ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf ac yn fyfyriwr PDC (ers 2013) neu Brifysgol Morgannwg (ers 2003) yna byddwn yn gosod eich Gostyngiad Alumni yn awtomatig. Os buoch yn astudio cyn 2003 neu ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd gynt neu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bydd angen i chi anfon e-bost at y Brifysgol i [email protected] gyda chopi wedi'i sganio o'ch tystysgrif a gofyn i'r gostyngiad gael ei osod.

Cysylltwch â naill ai’r Tîm Refeniw [email protected] neu’r Tîm Cyngor Ariannol Myfyrwyr [email protected]

Byddwch, byddwch yn derbyn y Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr yn seiliedig ar y swm a godir arnoch.

Byddwch, byddwch yn derbyn y Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr yn seiliedig ar y swm a godir arnoch. 

Nid oes terfyn amser mewn perthynas â phryd y cwblhawyd eich cymhwyster israddedig.

Na. Fodd bynnag, os oes gennych radd anrhydedd o Brifysgol De Cymru*, yna byddech yn gymwys i gael y gostyngiad.

Cyn belled â'ch bod yn trosglwyddo i gwrs cymwys arall, yna bydd eich hawl i'r gostyngiad ôlraddedig yn aros yr un fath. Os byddwch yn trosglwyddo i gwrs nad yw'n gymwys bydd y gostyngiad ôl-raddedig yn cael ei dynnu oddi ar eich ffioedd dysgu.

Na. Dim ond i fyfyrwyr a fydd yn dechrau ar gwrs gradd Meistr ôl-raddedig newydd, cymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2024 y mae'r gostyngiad Cyn-fyfyrwyr Ôl-raddedig yn berthnasol (mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs ym mis Ionawr/Chwefror 2025).

Bydd, byddwch yn parhau i dderbyn y gostyngiad am hyd eich cwrs cymwys y gwnaethoch ei gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2024/25.

Bydd, ar yr amod bod eich cais i dorri ar draws eich astudiaethau yn cael ei gymeradwyo gan y Brifysgol a'ch bod yn dychwelyd o fewn yr amserlen gytunedig.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr Ôl-raddedig, cysylltwch â’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ar [email protected] neu’r Adran Refeniw ar [email protected]