Fy hoff ran o’r cwrs fu gwirfoddoli yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan gynorthwyo cleientiaid go iawn sy’n ceisio cyngor.
Cyfleoedd dysgu ymarferol
Dewisais astudio’r cwrs LLB (Anrh) Y Gyfraith yn PDC drwy Glirio, wedi fy annog gan ei gwrs uchel ei barch a’i Chlinig Cyngor Cyfreithiol enwog. Fy hoff ran o’r cwrs fu gwirfoddoli yn y Clinig, gan gynorthwyo cleientiaid go iawn sy’n ceisio cyngor ar wahanol faterion cyfreithiol, yn enwedig tribiwnlysoedd cyflogaeth. Mae cefnogi pobl sy’n cynrychioli eu hunain wedi bod yn werth chweil, gan feithrin fy hyder a’m sgiliau ymarferol.
Dwi hefyd wedi elwa’n fawr o brofiadau ffug fel cyfryngiad ffug ac efelychiad Hydra, gan gydweithio â myfyrwyr plismona ar senarios cyfreithiol realistig. Mae’r gweithgareddau hyn wedi darparu paratoad amhrisiadwy ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
Dewch o hyd i'ch cwrsMeithrin hyder a sgiliau proffesiynol
Yn ystod fy amser yn PDC, mae fy sgiliau siarad cyhoeddus wedi gwella’n sylweddol. Yn nerfus i ddechrau, dwi wedi dod yn gyfforddus yn cyflwyno i grwpiau ac yn cymryd rolau arweinyddiaeth mewn prosiectau tîm. Dwi hefyd wedi mwynhau bod yn rhan o gymdeithasau fel Cymdeithas y Bar, lle ymwelsom â’r Goruchaf Lys yn Llundain, gan wella fy rhwydwaith a’m dealltwriaeth o’r proffesiwn.
Ar ôl graddio, fy amcan yw arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth, yn ddelfrydol yng Nghaerdydd. Mae PDC wedi rhoi’r sgiliau hanfodol, y profiad ymarferol, a’r cysylltiadau proffesiynol sydd eu hangen arnaf i lwyddo. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol yw bachu ar bob cyfle a gynigir – dyma’r ffordd orau o wneud y mwyaf o’ch potensial.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Y Gyfraith?
Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.