Y Gyfraith
Mae ein cwrs yn y gyfraith, sydd ar gael i’w astudio’n rhan-amser ac yn llawn-amser, yn gwrs difyr a heriol sy’n canolbwyntio ar gyfiawnder, technoleg a chyflogadwyedd. Paratowch ar gyfer gyrfa gyfreithiol trwy brofiadau yn y byd go iawn ac ar leoliadau gwaith, oherwydd mae’r radd hon yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
M100
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,800*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£804*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi ac yn datblygu myfyrwyr i ddysgu ‘yn y swydd’ gyda’n gradd ryngweithiol ac ymarferol yn y gyfraith.
WEDI'I GYNLLUNIO AR GYFER
Myfyrwyr chwilfrydig sydd â meddwl dadansoddol a diddordeb yn y gyfraith. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau ehangach i'ch grymuso mewn amrywiaeth o rolau ar ôl graddio. Os ydych chi'n mwynhau datrys problemau ac yn meddu ar synnwyr cryf o gyfiawnder a diddordeb cyffredinol yn y gyfraith, mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi.
Llwybrau gyrfa:
- Cyfreithiwr
- Bargyfreithiwr
- Yr heddlu
- Ynad
- Cynghorydd busnes
- Gweithiwr adnoddau dynol proffesiynol
- Entrepreneur
Porth Proffesiynol
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar bynciau sylfaen y gyfraith fel yr argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau'r Bar fel rhai sy'n bodloni cam academaidd yr hyfforddiant.
Sgiliau a addysgir:
- Meddwl yn feirniadol
- Defnyddio cyfrifiadur
- Sgiliau cyflwyno
- Datrys problemau
- Ymchwil
- Myfyrdod
Uchafbwyntiau'r cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Fel myfyriwr LLB y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru, rydych yn cael eich trochi mewn senarios ffug o'r diwrnod cyntaf. Mae ein gradd yn cyfuno modiwlau penodol a modiwlau dewisol y gallwch ddewis eu hastudio yn eich ail a thrydedd flwyddyn.
Blwyddyn 1
Sgiliau Cyfreithiol Academaidd a Phroffesiynol*
Cyfraith Trosedd
Y Gyfraith a'r Wladwriaeth
Systemau a Dulliau Cyfreithiol
Cyfraith Contract
Y Gyfraith Gamweddau
Blwyddyn 2
Mynediad at Gyfiawnder, Eiriolaeth a Moeseg
Cyfraith Masnach**
Tystiolaeth Droseddol**
Cyfraith Teulu**
Cyfraith Tir
Y Gyfraith a Thechnoleg ar Waith
Y Gyfraith ar Brawf
Dysgu trwy'r Gweithle*
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus**
Cyfraith Cyflogaeth**
Blwyddyn 3
Traethawd hir**
Cyfraith Trosedd Uwch**
Rheoliadau Bancio a Chyllid**
Addysg Gyfreithiol Glinigol**
Cyfraith Defnyddwyr**
Ymchwil Gyfreithiol Gyfoes
Cyfraith a Llywodraethu Corfforaethol**
Cyfraith Cyflogaeth**
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Uwch
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Cyfraith Teulu**
Rhywedd a'r Gyfraith**
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd**
Hanes y Gyfraith**
Materion Cyfreithiol mewn Chwaraeon**
Athroniaeth y Gyfraith**
Cyfraith Feddygol**
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus**
Y Gyfraith yng Nghymru**
Y Gyfraith sy'n Ymwneud â Phlant**
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
**Dewisol
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar sylfaen y gyfraith a system gyfreithiol y DU a bydd yn ymestyn ar draws cyfraith trosedd, cyfraith contract, a deall rôl y gyfraith yn ein cymdeithas. Byddwch hefyd yn dechrau datblygu sgiliau ehangach fel meddwl yn feirniadol ac yn clywed wrth ein siaradwyr gwadd trwy gydol y flwyddyn.
Sgiliau Cyfreithiol Academaidd a Phroffesiynol*
Eich cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol academaidd a phroffesiynol hanfodol sy'n tanategu eich astudiaethau a'ch cymhwysiad o'r gyfraith.
Cyfraith Trosedd
Datblygwch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o chyfraith trosedd, ynghyd â'i chyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a hawliau dynol.
Y Gyfraith a’r Wladwriaeth
Archwiliwch gyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, a chyfraith yr UE. Cewch ddealltwriaeth o’r egwyddorion cyfansoddiadol fel y maent yn berthnasol i unigolion, sefydliadau a chyrff cyhoeddus.
Systemau a Dulliau Cyfreithiol
Dysgwch hanfodion system gyfreithiol Cymru a Lloegr, gan gynnwys y gyfraith, strwythurau cyfreithiol, sefydliadau a phobl, ynghyd â’r cyd-destun gwleidyddol y mae’n gweithredu ynddo.
Cyfraith Contract
Cewch ddealltwriaeth o hanfodion cyfraith contract, sef conglfaen atebolrwydd sifil, sy'n cwmpasu cysyniadau megis rhyddid i gontractio, cytundeb a chydsyniad.
Y Gyfraith Camweddau
Modiwl rhyngweithiol sy'n cael ei addysgu trwy senario ffug. Byddwch yn gweithio gyda cwmnïau i gynrychioli cleient trwy achos o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys cyfryngu ffug a sesiynau Hydra.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae gan Flwyddyn 2 wythnosau â ffocws penodol, gan eich galluogi i ddysgu am 70 awr ar leoliad. Gallwch ddewis bod yn rhan o’r gweithle gyda’n cwmnïau partner neu barhau i weithio yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol ar y campws.
Mynediad at Gyfiawnder, Eiriolaeth a Moeseg
Archwiliwch heriau o ran mynediad at gyfiawnder a chynrychioli eraill. Ymdrinnir ag eiriolaeth, dulliau amgen o ddatrys anghydfod, a sgiliau cyfweld.
Cyfraith Masnach**
Archwiliwch benderfyniadau deddfwriaethol a barnwrol a’u heffaith ar fusnes, gan gwmpasu gwerthu nwyddau, rhwymedïau, trosglwyddo eiddo, danfon, derbyn a thalu.
Tystiolaeth Droseddol**
Cewch ddealltwriaeth o egwyddorion allweddol tystiolaeth droseddol a'u cymwysiadau ymarferol, gan gynnwys rheolau tystiolaeth mewn treialon troseddol.
Cyfraith Teulu**
Gloywch eich dealltwriaeth o gyfraith teulu, gan gynnwys y cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol y mae’n gweithredu ynddo, gan gwmpasu cynnal plant, ysgariad, cam-drin domestig a phriodas dan orfod.
Cyfraith Tir
Ymgollwch yn hanfodion cyfraith tir, gan gynnwys natur tir, teitlau i dir, lesoedd, cydberchnogaeth ac ymddiriedolaethau.
Y Gyfraith a Thechnoleg ar Waith
Beth yw effaith technoleg ar ymarfer cyfreithiol? Trafodwch dueddiadau a dadansoddi'r sgiliau digidol sydd eu hangen ar weithwyr cyfreithiol proffesiynol yn y dyfodol.
Y Gyfraith ar Brawf
Gwerthuswch y gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn feirniadol, gan gynnwys effaith anghydraddoldeb fel dosbarthiad anghyfartal grym, cyfoeth a dylanwad wrth greu’r gyfraith.
Dysgu trwy'r Gweithle*
Rhowch theori ar waith a datblygu sgiliau proffesiynol, meddwl yn feirniadol, gweithio mewn tîm a chyfathrebu mewn lleoliad proffesiynol 70 awr o hyd.
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus**
Dilynwch eich diddordebau a gwella eich sgiliau ymchwil a chyflwyno trwy ysgrifennu a chyflwyno gweithdy ar gyfer grŵp cymunedol am faes o'r gyfraith.
Cyfraith Cyflogaeth**
Datblygwch eich gwybodaeth am egwyddorion hanfodol a sut mae'r gyfraith yn berthnasol i'r berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys materion cyfredol a materion yn y dyfodol.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
**Dewisol
Mae’r flwyddyn olaf yn gweithredu fel ‘y cam nesaf’, gan eich cynorthwyo i benderfynu pa faes o’r gyfraith yr hoffech ei archwilio ymhellach, a pha fath o swydd fyddai’n addas ar gyfer eich gradd ar ôl i chi raddio. Gellir teilwra modiwlau i'ch anghenion a'ch diddordebau, gydag ystod eang o opsiynau ar gael i ddewis ohonynt.
Traethawd hir**
Datblygwch chwilfrydedd deallusol a thrylwyredd academaidd gyda phrosiect ymchwil unigol o'ch dewis. Pa fater cyfreithiol cyfoes y byddwch yn ei archwilio?
Cyfraith Trosedd Uwch**
Esblygwch eich dealltwriaeth o faterion cyfraith trosedd, gan gynnwys trosedd, cosb a hawliau dynol, galluedd, amddiffyniadau, lladdiad, troseddau rhywiol, a phenderfyniadau diwedd oes.
Rheoliadau Bancio a Chyllid**
Archwiliwch y gwaith o reoleiddio banciau a'r system fancio, gan gynnwys y benthyciwr pan fetha popeth arall, digonolrwydd cyfalaf a hylifedd, a throseddau ariannol.
Addysg Gyfreithiol Glinigol**
Modiwl ymarferol lle gall myfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth a meithrin sgiliau proffesiynol trwy ddarparu cyngor cyfreithiol pro bono i'r cyhoedd.
Cyfraith Defnyddwyr**
Datblygwch eich dealltwriaeth o gyfraith defnyddwyr a’r gyfraith sifil, gwerthu nwyddau, telerau annheg, masnachu teg a rhwymedïau, ac ystyriwch faterion yn y byd go iawn fel nwyddau diffygiol a ffug.
Ymchwil Gyfreithiol Gyfoes
Dewiswch sut rydych chi’n ymgysylltu â’r modiwl hwn, naill ai drwy gymryd un o ddau aseiniad ymchwil neu drwy gymryd rhan yng nghlinig polisi ein Clinig Cyngor Cyfreithiol.
Cyfraith a Llywodraethu Corfforaethol**
Datblygwch wybodaeth am gyfraith cwmnïau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys hawliau a chyfrifoldebau a ffurfio cwmnïau. Trafodwch faterion fel Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Cyfraith Cyflogaeth**
Adeiladwch ar eich gwybodaeth, gan gwmpasu contractau cyflogaeth, hawliau statudol, diswyddo anghyfiawn ac annheg, dileu swydd, a gwahaniaethu yn y gwaith.
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Uwch
Trafodwch fodolaeth ac ystyr cydraddoldeb, a datblygu eich defnydd beirniadol o reolau ac egwyddorion cyfreithiol sy'n amddiffyn rhag gwahaniaethu.
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Cymhwyswch y gyfraith i senarios cymhleth wrth i chi ddysgu am ymddiriedolaethau datganedig a goblygedig, perthnasoedd ymddiriedol, dyletswyddau, pwerau ac atebolrwydd ymddiriedolwyr, a rhwymedïau ecwitïol.
Cyfraith Teulu**
Gloywch eich dealltwriaeth o gyfraith teulu, gan gynnwys y cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol y mae’n gweithredu ynddo, gan gwmpasu cynnal plant, ysgariad, cam-drin domestig a phriodas dan orfod.
Rhywedd a'r Gyfraith**
Trafodwch yn feirniadol safbwyntiau ffeministaidd a safbwyntiau eraill ar y gyfraith. Archwiliwch gyfreitheg ffeministaidd a rôl y gyfraith o ran gorfodi a chwalu anghydraddoldebau.
Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd**
Cewch ddealltwriaeth o’r berthynas rhwng cyfraith yr UE a chyfraith genedlaethol. Trafodwch a dadlau datblygiadau diweddar ym mherthynas y DU â’r UE a’r effeithiau ar y cyfansoddiad.
Hanes y Gyfraith**
Archwiliwch gyfraith Rufeinig, cyfraith ganon a chyfraith gwlad fel llwybr i ddeall cyd-destun hanesyddol y system gyfreithiol heddiw. Trafodwch y materion cyd-destunol sy'n llywio datblygiad cyfreithiol.
Materion Cyfreithiol mewn Chwaraeon**
Dadansoddwch yn feirniadol y gwahanol fathau o atebolrwydd cyfreithiol mewn chwaraeon. Datblygwch eich dealltwriaeth o atebolrwydd sifil a throseddol, gwahaniaethu, a hawliau darlledu.
Athroniaeth y Gyfraith**
Archwiliwch yn ddwfn i safbwyntiau damcaniaethol ac astudiaethau achos i ddeall prif ysgolion cyfreitheg, dadleuon hawliau dynol, anthropoleg gyfreithiol a realaeth gyfreithiol.
Cyfraith Feddygol**
Datblygwch eich gwybodaeth sylfaenol, gan gwmpasu ymreolaeth a chydsyniad, esgeuluster clinigol, atgenhedlu, genedigaeth a magu plant, a materion diwedd oes fel ewthanasia a rhoi organau.
Addysg Gyfreithiol Gyhoeddus**
Dilynwch eich diddordebau a gwella eich sgiliau ymchwil a chyflwyno trwy ysgrifennu a chyflwyno gweithdy ar gyfer grŵp cymunedol am faes o'r gyfraith.
Y Gyfraith yng Nghymru**
Archwiliwch y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru. Cewch ddealltwriaeth o arwyddocâd datganoli, a lleolwch a dadansoddi ffynonellau perthnasol cyfraith Cymru.
Y Gyfraith sy'n Ymwneud â Phlant**
Datblygwch eich gwybodaeth am y gyfraith sy’n ymwneud â phlant, gan ystyried cyfraith trosedd, amddiffyn plant, hawliau plant, a’r llys ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.
**Dewisol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn cyfuno cymysgedd o theori a dysgu ymarferol, gyda lleoliadau gwaith a’n cyfleusterau campws, gan gynnwys y Clinig Cyngor Cyfreithiol a chanolfan efelychu Hydra. Mae gennym ni ystafell llys ffug hefyd sy'n annog myfyrwyr i roi eu damcaniaethau ar waith.
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, a argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau’r Bar. Mae gan ein Ymarfer Cyfreithiol LLB (SQE) ymagwedd ddeublyg: paratoi myfyrwyr i sefyll arholiadau amlddewis SQE1 a’u helpu nhw i ddatblygu’r sgiliau allweddol i ddod yn gyfreithiwr. Bydd hyn yn helpu myfyrwyr sydd am fynd ymlaen i sefyll eu SQE2 ar ôl graddio.
Staff addysgu
Mae ein darlithwyr yn y gyfraith wedi'u hachredu'n broffesiynol ac mae ganddynt brofiad o weithio yn y diwydiant. Maent hefyd yn rhannu eu hymchwil gyfreithiol trwy erthyglau cyhoeddedig, cynadleddau a gwerslyfrau. Mae eu hymchwil yn bwydo’n uniongyrchol i’ch astudiaethau, sy’n golygu y byddwch yn elwa o gwricwlwm esblygol a addysgir gan staff sydd ar flaen y gad yn eu pwnc. Mae ein rhaglen o siaradwyr gwadd yn rhoi cipolwg i chi ar arfer y gyfraith ac yn eich helpu i ddeall y mathau o lwybrau gyrfa sydd ar gael. Mae cyfle hefyd i ymuno â’n Cymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr a’n Cymdeithas Bar Myfyrwyr, sy’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol rheolaidd, ac ymweliadau â dau Dŷ Senedd y DU a’r Goruchaf Lys.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Mae ein staff yn gweithio gyda chwmnïau gwasanaethau cyfreithiol mawreddog sy’n cynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr i’ch annog i ymarfer eich sgiliau cyfreithiol newydd a chael profiad o amgylchedd gweithle go iawn. Mae addysg gyfreithiol glinigol wedi’i chynnwys yn ein cyrsiau, gan roi mynediad i gyfiawnder i chi o dan oruchwyliaeth cyfreithwyr gweithredol a darlithwyr yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol pro bono y brifysgol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant ac rydym yn croesawu amrywiaeth o siaradwyr gwadd arbenigol a fydd yn darparu cyd-destun ac enghreifftiau bywyd go iawn yn ymwneud â’r pynciau rydych chi’n eu hastudio. Mae gennym hefyd giniawau i drafod gwaith a chyfleoedd rhwydweithio ar gael i’n myfyrwyr.
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau cyfraith trawiadol ar ein campws yn Nhrefforest yn cynnwys ein clinig cyngor cyfreithiol a chanolfan efelychu Hydra, lle mae myfyrwyr yn dysgu wrth ymarfer. Mae gennym ni ystafell llys ffug ar y campws i helpu i roi eich astudiaethau damcaniaethol ar waith a chael blas ar y swydd ar ôl y brifysgol. Bydd y rhan fwyaf o’r darlithoedd a sesiynau ystafell ddosbarth yn cael eu cynnal ar Gampws Pontypridd yn Nhrefforest, sydd dim ond ugain munud mewn car o Gaerdydd.
Pam PDC?
Pam PDC?
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC i gynnwys pwnc perthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC – Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC ar Lefel A
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o gollfarnau troseddol. Felly, os oes gennych gollfarn troseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich collfarn yn eich rhoi dan anfantais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,790
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*£16,800
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Rhaid i fyfyrwyr ymgymryd â chyfnod o leoliad gwaith. Gall ymgymryd â lleoliad myfyriwr arwain at gostau sy'n gysylltiedig â theithio a bydd gwisg ddisgwyliedig y gweithle yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.