Zoe Nziradzemhuka

Archwilio’r Gyfraith i Ysbrydoli Newid

Y Gyfraith
Law student Zoe smiles for a profile shot.

Daeth cyfleusterau fel y Clinig Cyngor Cyfreithiol, y Ffug Lys Barn, ac efelychiadau Hydra â’r gyfraith yn fyw.


Dewis Cwrs Sy'n Cyfuno Damcaniaeth ac Ymarfer

Dewisais astudio'r Gyfraith oherwydd fy mod eisiau deall yr egwyddorion cyfreithiol sy'n llywodraethu ein byd heddiw. Rwyf bob amser wedi bod yn chwilfrydig ynghylch yr hyn sydd wedi llunio esblygiad y system gyfreithiol a sut mae'n parhau i ddylanwadu ar ein cymdeithas. Safodd strwythur y cwrs yn PDC allan i mi oherwydd ei fod yn cynnwys dysgu ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Rhoddodd hynny sicrwydd i mi y byddwn yn ennill mwy na dealltwriaeth o werslyfrau yn unig.

Unwaith i mi ddechrau, gwelais yn gyflym sut roedd dull PDC yn mynd y tu hwnt i astudio traddodiadol. Daeth cyfleusterau fel y Clinig Cyngor Cyfreithiol, y Ffug Lys Barn, ac efelychiadau Hydra â'r gyfraith yn fyw, gan fy helpu i gymhwyso'r hyn roeddwn i'n ei ddysgu. Gwnaeth fy mhrofiad yn y cyfleuster Hydra i Gyfraith Camweddau a'r cysyniad o esgeulustod glicio'n fwy nag unrhyw ddarlith.

Dewch o hyd i'ch cwrs

UN O FY HOFF BROFIADAU YW PROSIECT CYFRAITH Y STRYD, LLE BU I MI GWRDD Â BARNWYR YN LLYS YNADON CAERDYDD A DYSGU AM EU LLWYBR.

Zoe Nziradzemhuka

Myfyriwr Y Gyfraith

Cael Mewnwelediad Go Iawn o Gysylltiadau yn y Diwydiant

Yn ystod fy amser yn PDC, rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio cyfraith, gweminarau, a diwrnodau blasu diolch i gefnogaeth y tîm gyrfaoedd a Chymdeithas y Gyfraith. Un o fy hoff brofiadau yw Prosiect Cyfraith y Stryd, lle bu i mi gwrdd â barnwyr yn Llys Ynadon Caerdydd a dysgu am eu llwybr i mewn i'r proffesiwn.  Helpodd y cyfleoedd hyn fi i deimlo'n fwy cysylltiedig â'r yrfa rydw i eisiau ei dilyn.

Uchafbwynt fy astudiaethau hyd yn hyn fu'r Ffug Lys Barn – senario llys efelychiedig a roddodd gyfle i mi ddadlau mater cyfraith gyhoeddus. Cynigiodd gipolwg ar fywyd fel bargyfreithiwr a chryfhaodd fy sgiliau ymchwil ac eiriolaeth. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, a defnyddio'r wybodaeth o'r cwrs hwn i leihau'r beichiau cyfreithiol y mae llawer o bobl yn y gymdeithas yn eu hwynebu. Mae fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol yn syml: gall astudio'r Gyfraith deimlo'n frawychus, ond gyda phenderfyniad ac ethos gwaith cryf, mae'n hynod werth chweil – hyd yn oed os cymerwch lwybr llai traddodiadol i'r proffesiwn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Y Gyfraith?

Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.