Shayla Virgo

Troi fy angerdd dros Gyfraith Droseddol yn realiti

Y Gyfraith
Shayla smiles at camera with lecture hall seats behind her. She has long dark hair and is wearing a white vest

Dwi wedi cymryd rhan yn y clinig elipse, prosiectau cyfraith stryd, cynlluniau mentora, a lleoliad gydag S4C.


Pam y dewisais y Gyfraith yn PDC 

Astudiais droseddeg yn fy Lefel A a chymerais gwrs cyfraith droseddol bach ar yr ochr, a daniodd fy angerdd dros gyfraith droseddol. Cynigiodd y cwrs LLB (Anrh) Y Gyfraith yn PDC gyfraith droseddol fel modiwl craidd yn fy mlwyddyn gyntaf a rhoddodd gyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach mewn tystiolaeth droseddol a chyfraith droseddol. Yr hyblygrwydd hwn oedd yn union beth roeddwn yn chwilio amdano. 

Ymwelais â thair prifysgol ond dewisais PDC oherwydd bod ganddi amgylchedd mwy croesawgar. Mwynheais fynd o gwmpas y campws a gweld y cyfleusterau. Gwnaeth y Clinig Cyngor Cyfreithiol, y Ffug Lys, a’r profiadau ymarferol iawn sydd ar gael argraff arbennig arnaf, a phob un ohonynt wedi fy mherswadio mai PDC oedd y dewis cywir.  

Dewch o hyd i'ch cwrs

MYNYCHAIS SGWRS BARGYFREITHIWR YN LINCOLN’S INN A DREFNWYD GAN GYRFAOEDD PDC, A ANOGODD FY AMCAN YN GRYF.

Shayla Virgo

Myfyriwr Y Gyfraith

Meithrin sgiliau ymarferol ac uchelgeisiau gyrfa

Yn PDC, dwi wedi cael nifer o gyfleoedd ar gyfer profiadau ymarferol. Dwi wedi cymryd rhan yn y clinig elipse, prosiectau cyfraith stryd, cynlluniau mentora, a lleoliadau a drefnwyd gan ein rheolwr lleoliadau. Dwi wedi bod yn ymwneud â S4C ac yn fuan, byddaf yn ymgymryd â thymor prawf fer. Mae’r profiadau ymarferol hyn, yn enwedig y ffug lys a’r clinig cyngor cyfreithiol, wedi gwella fy sgiliau’n sylweddol. 

Fy uchelgais yw dod yn fargyfreithiwr. Yn ddiweddar, mynychais sgwrs bargyfreithiwr yn Linloln’s Inn a drefnwyd gan Gyrfaoedd PDC, a anogodd fy amcan yn gryf. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol? Manteisiwch ar bob cyfle sy’n dod i chi – y mwyaf rydych yn ei wneud, y mwyaf sy’n cael ei gynnig. Hoffwn pe bawn i wedi ymgymryd â mwy yn ystod fy mlwyddyn gyntaf; mae ymgysylltu’n llawn wedi ehangu fy rhwydwaith a’m sgiliau’n sylweddol. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Y Gyfraith?

Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.