PGDip

Cwrs Ymarfer Cyfreithiol

Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn arwain at y Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyfreithiol (LPC).

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £13,600*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol hwn yw’r rhaglen astudio ac asesu a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), y mae’n rhaid i chi ei chwblhau os ydych am gymhwyso fel cyfreithiwr. Mae'r LPC yn gwrs 'dysgu drwy wneud' sy'n seiliedig ar sgiliau ac sy'n rhoi'r sylfaen i chi ddechrau contract hyfforddi mewn swyddfa'r gyfraith. Byddwch yn datblygu sgiliau eiriolaeth, cyfweld, ysgrifennu cyfreithiol, drafftio ac ymchwil.

Trosolwg o’r Modiwl

  • Cyfraith Busnes ac Ymarfer a Threthi 
  • Cyfraith Eiddo ac Ymarfer
  • Ymgyfreitha ac Eiriolaeth 
  • Sgiliau ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol (gan gynnwys Ymchwil Gyfreithiol Ymarferol, Cyfweld a Chynghori, Ysgrifennu, Drafftio, Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau, Ymddygiad a Rheoleiddio Proffesiynol a Chyfrifon Cyfreithwyr) 
  • Tri modiwl dewisol*

*Mae modiwlau dewisol fel arfer yn cynnwys Cyfraith ac Ymarfer Teulu, Cyfraith ac Ymarfer Cyflogaeth, Eiddo Masnachol, Anaf Personol ac Ymgyfreitha Esgeulustod Clinigol, Uwch Gyfraith ac Ymarfer Busnes a Chorfforaethol, Ewyllysiau a Chynllunio Ystadau, Ymgyfreitha Troseddol Uwch 

Blwyddyn Un

  • Cyfraith Busnes ac Ymarfer a Threthi
  • Cyfraith Eiddo ac Ymarfer
  • Sgiliau ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol (gan gynnwys Drafftio, Ymchwil Gyfreithiol Ymarferol, Cyfweld a Chynghori ac Ysgrifennu)
  • Modiwlau dewisol* (rhaid i fyfyrwyr rhan-amser astudio cyfanswm o dri modiwl dewisol dros y ddwy flynedd o astudio)

Blwyddyn Dau

  • Prosiect Ymchwil Ymarfer Cyfreithiol
  • Ymgyfreitha ac Eiriolaeth
  • Sgiliau ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol (gan gynnwys Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau, Cyfrifon Cyfreithwyr ac Ymddygiad a Rheoleiddio Proffesiynol)
  • Modiwlau dewisol* (rhaid i fyfyrwyr rhan-amser astudio cyfanswm o dri modiwl dewisol dros y ddwy flynedd o astudio)

General Content

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu drwy sesiynau briffio a sesiynau ymarfer, cwblhau ymarferion ffeiliau cyfreithiol ymarferol a dyblygu senarios cyfreithiol bywyd go iawn. Os ydych yn astudio’n amser llawn, byddwch yn mynd i tua 16 awr o ddosbarthiadau bob wythnos. Mae gan fyfyrwyr rhan-amser tua 8 awr o ddosbarthiadau a gyflwynir ar un diwrnod yr wythnos. Y tu allan i'r sesiynau ffurfiol hyn, disgwylir i bob myfyriwr wneud gwaith paratoi ac ymchwil ar gyfer ymarferion ffeil. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr amser a neilltuir i ymarferion ymarferol a darparu'r hyblygrwydd gorau posibl ar gyfer astudio personol, caiff y rhan fwyaf o'r sesiynau briffio eu cyflwyno ar-lein gan ddefnyddio meddalwedd Panopto.

Ymchwil y Gyfraith

Mae Grŵp Ymchwil y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru yn cynnwys staff sydd ag ystod eang o brofiad academaidd ac ymarfer. Mae eu diddordebau ymchwil yn cwmpasu meysydd pwnc amrywiol, gan gynnwys: cyfraith gyfansoddiadol; cyfraith droseddol; cyfraith cyflogaeth; cyfraith cydraddoldeb; cyfraith teulu; cyfraith eiddo deallusol; hawliau dynol rhyngwladol; addysg gyfreithiol a chyfraith y cyfryngau. Caiff y buddiannau hyn eu harddangos yn ein blog cyfraith misol.

Cyfleusterau

Cefnogir eich dulliau dysgu gan gyfleusterau astudio o'r radd flaenaf, gan gynnwys ystafell llys gyda'r cyfleusterau fideo digidol diweddaraf, llyfrgell ymarfer cyfreithiol, ac ystafelloedd addysgu ac ymarfer pwrpasol. Mae’r holl weithgareddau’n seiliedig ar senarios dilys, ac mae’r cyfleusterau yn ein hystafelloedd technoleg modern yn cynorthwyo’r gwaith ymchwil a pharatoi.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae’r LPC yn ofynnol ar gyfer cymhwyster fel cyfreithiwr ac mae’n datblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch wrth ddechrau yn y proffesiwn.

Cymorth Gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn cael eu rhestru yn southwales.ac.uk/careers ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i’r cwrs neu’r pwnc yn cael eu rhedeg ar lefel leol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P’un ai a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr neu fentoriaid yn y diwydiant, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi’r hyder, yr anogaeth a’r cymhelliant i ymgeisio.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • LLB Gradd (Anrh) fel arfer o ddosbarth 2:2 neu'n uwch, neu bob pwnc yr Arholiad Proffesiynol Cyffredin, neu radd astudiaethau cyfun gan gynnwys y pynciau cyfraith craidd a ragnodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA). Mae myfyrwyr sydd wedi cyrraedd y lefel briodol o gymhwyster gyda Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol hefyd yn gymwys i'w hystyried ar gyfer mynediad i'r cwrs.
  • Rhaid gwneud pob cais ar gyfer yr LPC amser llawn ar-lein trwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog yn www.lawcabs.ac.uk.
  • Gellir gwneud ceisiadau am yr LPC rhan-amser, Cam 1 a Cham 2 gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Gofynion ychwanegol:

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am lefel Saesneg o IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gymhwyster cyfatebol.

Er nad oes angen Gwiriad DBS i gael mynediad ar y cwrs hwn, ni fydd rhai proffesiynau’n ystyried ymgeiswyr sydd â mathau penodol o euogfarnau troseddol.    Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a’ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda’r corff proffesiynol perthnasol neu’n cyfeirio at ei bolisi recriwtio i sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£13,600

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Mae angen i fyfyrwyr daly am unrhyw argraffu sydd ei angen arnyn nhw.

Cost: I fyny at £300

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Rhaid gwneud pob cais ar gyfer yr SQE amser llawn ar-lein trwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog yn www.lawcabs.ac.uk.

Gellir gwneud ceisiadau am yr SQE rhan-amser, Cam 1 a Cham 2 gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.