Y Gyfraith gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Mae Blwyddyn Sylfaen yn y Gyfraith yn gyfle gwych i ddysgwyr sydd eisiau astudio gradd yn y gyfraith, ond sydd heb y cymwysterau na’r profiad cyfredol, i ennill y sgiliau a’r wybodaeth i symud ymlaen i’r LLB llawn.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/law/law-placeholder-27613.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
M10F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£5,760*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
P’un a ydych yn ddysgwr aeddfed, yn meddu ar brofiad gwaith perthnasol ond heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, neu heb y pwyntiau UCAS sy’n ofynnol ar gyfer y LLB safonol, mae’n bosib mai dyma’r cwrs i chi. Mae’r agwedd sylfaen sydd ynghlwm i’r radd LLB yn golygu y gallwch gyflawni eich dyheadau academaidd o astudio’r gyfraith er nad ydych efallai’n dod o gefndir academaidd traddodiadol.
Wedi’i gynllunio ar gyfer
Myfyrwyr sydd heb fodloni’r meini prawf derbyn ar hyn o bryd ar gyfer mynediad uniongyrchol i radd LLB (Anrh) yn y Gyfraith neu fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg sy’n dymuno magu eu hyder, a’r sgiliau academaidd sydd eu hangen i symud ymlaen i addysg uwch.
Llwybrau gyrfa:
- Cyfreithiwr
- Bargyfreithiwr
- Yr heddlu
- Ynad
- Cynghorydd busnes
- Gweithiwr adnoddau dynol proffesiynol
- Entrepreneur
Sgiliau a addysgir
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TG
- Trafod
- Ymchwilio
- Dysgu’n annibynnol
Uchafbwyntiau'r cwrs
Trosolwg o’r Modiwl:
Mae’r flwyddyn sylfaen hon wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel gradd trwy fodiwlau amrywiol sy’n cwmpasu sgiliau academaidd a TG hanfodol yn ogystal â darparu dealltwriaeth o’r gyfraith a materion cyfreithiol cyfoes. Mae’r modiwlau wedi’u teilwra gyda sgiliau astudio a chefnogaeth mewn golwg i adeiladu eich hyder a rhoi sylfaen gref i chi ar gyfer llwyddiant yn eich gradd a’ch gyrfa yn y dyfodol.
Sgiliau Astudio
Bydd y modiwl hwn yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen i astudiaethau addysg uwch tra’n datblygu eich galluoedd darllen, ysgrifennu, siarad ac arholiadau academaidd.
Gallu Digidol
Datblygwch eich hyder gan ddefnyddio’r offer digidol sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch gan gynnwys Blackboard, Google Scholar a Microsoft.
Prosiect Ymchwilio
Byddwch yn ymchwilio’n annibynnol i bwnc o'ch dewis cyn cynllunio, gwerthuso a chyflwyno’ch canfyddiadau.
Cyfraith mewn Cyd-destun
Deall materion cyfoes yng nghyfraith y DU, eu cyd-destun byd-eang a’r cysylltiadau rhwng y gyfraith a’r cyfryngau. Byddwch yn cymryd rhan mewn dadleuon ar bynciau cyfoes fel terfysgaeth, Brexit, a’r GIG.
Cyflwyniad i Gyfraith Droseddol
Deall Cyfraith Droseddol, gan gynnwys elfennau sylfaenol trosedd, gwybodaeth am droseddau angheuol a heb fod yn angheuol, amddiffynfeydd a dedfrydu.
Trosedd, y Cyfryngau a Diwylliant
Byddwch yn cael trosolwg o themâu a dulliau gweithredu allweddol ym maes astudiaethau cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol gan gyfeirio at ddealltwriaeth o droseddu ym Mhrydain fodern.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn cael eich addysgu trwy ystod o ddulliau gan gynnwys darlithoedd a seminarau traddodiadol yn ogystal â gweithdai rhyngweithiol a gwaith grŵp. Mae ein dosbarthiadau llai yn creu amgylchedd dysgu cefnogol gan roi cyfleoedd ar gyfer cymorth ac adborth ystyrlon gan ddarlithwyr trwy gydol eich astudiaethau.
Ar y flwyddyn sylfaen, mae eich modiwlau wedi’u cynllunio i’w cyflwyno dros ddau ddiwrnod yr wythnos, gan roi’r amser a’r hyblygrwydd i chi ddysgu ar gyflymder cyfforddus ac adeiladu ar sgiliau allweddol fel rheoli amser ac astudio’n annibynnol dros y cwrs.
Mae asesiadau’n amrywio o arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig i gyflwyniadau llafar sydd wedi’u cynllunio i fagu eich hyder mewn asesiadau arddull prifysgol a’ch paratoi ar gyfer gweddill eich amser yn astudio ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/law/llm-legal-practice.jpg)
Staff addysgu
Mae ein darlithwyr yn y gyfraith wedi’u hachredu’n broffesiynol ac mae ganddynt brofiad o weithio yn y diwydiant. Maent hefyd yn rhannu eu hymchwil cyfreithiol trwy erthyglau wedi’u cyhoeddi, cynadleddau a gwerslyfrau. Mae eu hymchwil yn bwydo’n uniongyrchol i’ch astudiaethau sy’n golygu y byddwch yn elwa o gwricwlwm esblygol a addysgir gan staff sydd ar flaen y gad yn eu pwnc.
Neilltuir Hyfforddwr Academaidd Personol i bob myfyriwr yn y flwyddyn sylfaen a'r flwyddyn gyntaf, fel y gall myfyrwyr elwa ar gymorth ac arweiniad trwy gydol eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr hefyd ddewis cael eu mentora gan gyfoedion ym mlynyddoedd uwch y radd. Gall y mentoriaid hyn roi cymorth wrth drosglwyddo i fywyd prifysgol, delio ag asesiadau, rheoli amser yn ogystal ag ystod o gwestiynau eraill a allai fod gennych ar hyd y ffordd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/law/law-placeholder-02.jpg)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Ar ôl symud ymlaen o’r flwyddyn sylfaen, byddwch yn cael cyfleoedd lleoliad. Mae ein staff yn gweithio gyda chwmnïau gwasanaethau cyfreithiol mawreddog sy’n cynnig lleoliadau gwaith gwerthfawr i'ch annog i ymarfer eich sgiliau cyfreithiol newydd a chael profiad o amgylchedd gweithle go iawn. Mae addysg gyfreithiol glinigol wedi’i chynnwys yn ein cyrsiau, gan roi mynediad i gyfiawnder i chi o dan oruchwyliaeth cyfreithwyr a darlithwyr gweithredol yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol pro bono y brifysgol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’r diwydiant ac rydym yn croesawu amrywiaeth o siaradwyr gwadd arbenigol a fydd yn darparu cyd-destun ac enghreifftiau bywyd go iawn yn ymwneud â’r pynciau rydych chi’n eu hastudio. Mae gennym hefyd ginio gweithio a chyfleoedd rhwydweithio ar gael i’n myfyrwyr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/law/llb-hons-criminal-justice.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau cyfraith trawiadol ar ein campws yn Nhrefforest yn cynnwys ein clinig cyngor cyfreithiol a chanolfan efelychu Hydra, lle mae myfyrwyr yn dysgu wrth ymarfer. Mae gennym ystafell llys ffug ar y campws i helpu i roi eich astudiaethau damcaniaethol ar waith a chael blas ar y swydd ar ôl y brifysgol. Bydd y rhan fwyaf o ddarlithoedd a sesiynau ystafell ddosbarth yn cael eu cynnal ar Gampws Pontypridd yn Nhrefforest, dim ond 20 munud mewn car o Gaerdydd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/law/llm-laws.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD, i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Llwyddiant Diploma Estynedig BTEC
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 48 pwynt tariff UCAS.
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Bydd profiad gwaith/bywyd personol perthnasol yn cael ei ystyried.
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o gollfarnau troseddol. Felly, os oes gennych gollfarn troseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich collfarn yn eich rhoi dan anfantais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.